Skip to main content

Eiddo Gwag

Bydd y rhan fwyaf o adeiladau busnes yn agored i dalu trethi (ardrethi) busnes hyd yn oed pan fyddan nhw'n wag. Serch hynny, mae rhai eithriadau i'r rheol yma:
  • Mae adeiladau gwag yn cael eu heithrio am y tri mis cyntaf ar ôl iddyn nhw ddod yn wag, neu chwe mis ar gyfer safleoedd diwydiannol.

  • Mae adeiladau rhestredig yn cael eu heithrio hyd nes eu bod nhw'n cael eu meddiannu eto.

  • Mae adeiladau â gwerth ardrethol o dan £2,600 yn cael eu heithrio hyd nes eu bod nhw'n cael eu meddiannu eto.

  • Mae adeiladau sy'n eiddo i elusennau yn cael eu heithrio os yw'r defnydd nesaf yn debygol o fod yn llwyr neu yn bennaf at ddibenion elusennol.

  • Mae adeiladau clybiau chwaraeon amatur cymunedol yn cael eu heithrio os yw'r defnydd nesaf yn debygol o fod yn llwyr neu yn bennaf at ddibenion clwb chwaraeon.