Skip to main content

Trwydded siop anifeiliaid anwes

Mae materion cadw a rhedeg siopau anifeiliaid anwes yn cael eu rheoli gan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.

Fydd dim modd i neb redeg siop anifeiliaid anwes heb gael trwydded gan ei Awdurdod Lleol yn gyntaf.

Yr Awdurdod Lleol sy'n trwyddedu siopau anifeiliaid anwes.

Crynodeb o'r rheoliadau

Dyletswyddau'r Cyngor

Cyn cael trwydded, bydd rhaid i'r ymgeisydd ddangos i Arolygydd Trwyddedu'r Cyngor:

  • Bydd cymwysterau priodol gan yr ymgeisydd i gadw anifeiliaid, o ran y mathau gwahanol a'r nifer mae'n bwriadu eu cadw.
  • Bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety sy'n addas o ran ei wneuthuriad, maint, tymheredd, goleuo, awyru a glendid.
  • Bydd digon o fwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu ar gyfer yr anifeiliaid; a bydd rhywun yn ymweld â'r anifeiliaid ar adegau addas (yn ôl yr angen).
  • Fydd mamaliaid ddim yn cael eu gwerthu'n rhy ifanc.
  • Bydd pob rhagofal rhesymol yn cael ei gymryd i rwystro ymlediad clefydau heintus ymhlith yr anifeiliaid.
  • Bydd camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu'r anifeiliaid os bydd tân neu argyfwng arall, gan gynnwys darparu offer diffodd tân addas.
  • Bydd cofrestr yn cael ei gadw, sy'n cynnwys: disgrifiad o unrhyw anifail bydd y safle'n ei dderbyn; oed a rhyw'r anifail; dyddiadau cyrraedd a gadael; ac o ble mae'r anifail wedi dod. Bydd y gofrestr ar gael i'w harchwilio ar unrhyw adeg gan Arolygydd Trwyddedu, neu gan lawfeddyg wedi'i awdurdodi gan y Cyngor.
  • Fydd dim anifail yn cael ei werthu i blentyn dan 12 oed.

Bydd modd gwrthod trwydded ar sail rhesymau eraill, os bydd y rhesymau hynny'n cynnwys amodau sydd ddim yn addas ar gyfer cadw anifeiliaid.

Mae amodau safonol ynghlwm wrth bob trwydded. Mae'r amodau hyn yn cael eu gosod ar bob siop anifeiliaid anwes sy'n cael ei thrwyddedu gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r amodau safonol, mae modd cynnwys amodau arbennig sy'n berthnasol i'ch safle chi yn unig.

Gweld rhagor o fanylion am reoliadau siopau anifeiliaid anwes

Troseddau a chosbau

Mae'r troseddau a'r cosbau canlynol yn berthnasol i siopau anifeiliaid anwes:

  • Bydd modd i unrhyw un a geir yn euog o gadw siop anifeiliaid anwes heb drwydded fod yn agored i ddirwy o hyd at £500, neu dri mis yn y carchar, neu'r ddau.
  • Bydd modd i unrhyw un a geir yn euog o fethu â chydymffurfio ag amodau'i drwydded fod yn agored i ddirwy o hyd at £500, neu dri mis yn y carchar, neu'r ddau.
  • Bydd modd i unrhyw un a geir yn euog o beri oedi i Arolygydd neu filfeddyg awdurdodedig, neu'i rwystro, wrth iddo arfer ei bwerau, fod yn agored i ddirwy o hyd at £500.

O'i gael yn euog o dan y Ddeddf yma, bydd modd diddymu trwydded y diffynnydd a bydd modd ei wahardd rhag cadw siop anifeiliaid anwes am ba gyfnod bynnag o amser fydd orau yn ôl y Llys.

Meini prawf

Bydd modd rhoi trwydded ar gyfer siop anifeiliaid anwes os fydd yr ymgeisydd ddim wedi'i wahardd o dan unrhyw un o'r Deddfau canlynol:

Bydd rhaid talu ffi wrth gyflwyno'r cais. £161.00 yw'r ffi ar hyn o bryd.

Pan fydd trwydded yn cael ei rhoi, bydd y drwydded honno ac unrhyw drwydded wedi hynny yn dod i ben ar 31 Rhagfyr y flwyddyn mae'r drwydded yn ymwneud â hi. Os bydd y safle am barhau i fod yn siop anifeiliaid anwes, bydd rhaid adnewyddu'r drwydded cyn y dyddiad hwnnw.

Cyflwyno cais

I gyflwyno cais am drwydded siop anifeiliaid anwes, cysylltwch â ni:

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301

 

Proses apelio

Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn gyntaf.

Eich hawl i apelio

Os bydd unigolyn yn anfodlon ar gais am drwydded sydd wedi ei wrthod, neu'n anfodlon ar unrhyw un o'r amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded, bydd hawl ganddo apelio i Lys yr Ynadon. Bydd modd i'r Llys roi cyfarwyddyd ynghylch y drwydded neu'r amodau, fel y gwêl yn briodol.

Cwyno/gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am Sefydliad Lletya i Anifeiliaid neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 a gofynnwch am Swyddog Trwyddedu.

Cofrestri cyhoeddus

I gael mynediad i'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 i drefnu apwyntiad i weld y gofrestr yn ein swyddfeydd. Neu anfonwch eich cais mewn neges e-bost i Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

Mae modd gweld copi o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 yn swyddfeydd y Cyngor. Mae modd i chi hefyd gael copïau o amodau trwyddedu safonol y Cyngor, ffurflenni cais, a rhagor o wybodaeth neu gyngor.