Skip to main content

Trwydded bridio cŵn

Mae rhaid i unrhyw berson sydd â safle bridio cŵn gael trwydded dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014. 

Daeth Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 i rym ar   30 Ebrill 2015. Mae'r rheoliadau newydd yn datgan bod angen i berson wneud   cais am drwydded os yw’n cadw o leiaf 3 gast sy'n bridio ac sy'n bridio o   leiaf 3 torllwyth y flwyddyn. Neu’n berson sy'n hysbysebu o leiaf 3 torllwyth   y flwyddyn NEU'n darparu cŵn bach o 3 torllwyth neu fwy NEU’n hysbysebu   busnes bridio neu werthu cŵn bach.

Bydd angen i'r ymgeisydd gwblhau rhaglen Gwella a Chyfoethogi ysgrifenedig   a Rhaglen Cymdeithasoli yn ogystal ag adroddiadau gan filfeddyg yr ymgeisydd.   Bydd yr adroddiadau yma'n datgan bod y gast sy'n bridio a'r ci magu yn ddigon   iach i'w defnyddio mewn safle magu cyn i'r archwiliad trwyddedu gael ei gynnal.

Bydd y Cyngor yn archwilio'r adeilad cyn cymeradwyo'r drwydded er mwyn   sicrhau:

  •   Bydd y cŵn yn cael eu cadw   mewn llety addas ar bob adeg. Bydd rhaid bod y llety'n addas o ran   adeiladwaith, maint, nifer y cŵn sy'n cael eu cadw yno, cyfleusterau ar gyfer   ymarfer corff, tymheredd, goleuo, awyru a glendid;
  •   Bydd digon o fwyd, diod a   deunydd gwely addas yn cael eu darparu ar gyfer y cŵn; bydd y cŵn yn cael   ymarfer eu cyrff yn ddigonol; a bydd rhywun yn ymweld â'r cŵn ar adegau   addas;
  •   Bydd pob rhagofal rhesymol   yn cael ei gymryd i rwystro a rheoli ymlediad clefydau heintus neu   gyffwrdd-ymledol ymhlith y cŵn, gan gynnwys darparu cyfleusterau ynysu;
  •   Bydd camau priodol yn cael   eu cymryd i sicrhau diogelwch yr anifeiliaid os bydd tân neu argyfwng arall;
  •   Bydd pob cam priodol yn cael   ei gymryd i sicrhau bod bwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu   ar gyfer y cŵn, a bod y cŵn yn cael ymarfer eu cyrff yn ddigonol;
  •   Na fydd geist yn cael eu   defnyddio os ydyn nhw'n llai nag un flwydd oed;
  •   Na fydd geist yn rhoi   genedigaeth i fwy na chwe thorllwyth o gŵn bach yr un;
  •   Na fydd geist yn rhoi   genedigaeth i fwy o gŵn cyn diwedd cyfnod o ddeuddeg mis ar ôl rhoi   genedigaeth; a
  •   Bod cofnodion manwl mewn   dull rhadnodedgig yn cael eu cadw ar y safle;
  •   Bod y safle yn cydymffurfio   â rheoliadau ynglyn â'r nifer o staff sy'n bresennol;

Os bydd trwydded yn cael ei chymeradwyo, bydd y trwydded honno ac   unrhyw drwyddedau dilynol dod i ben ar ben-blwydd y drwydded honno.

Mae amodau safonol ynghlwm wrth bob trwydded. Mae'r amodau hyn yn cael   eu gosod ar bob sefydliad bridio cŵn sy'n cael ei drwyddedu gan y Cyngor.

Os bydd unigolyn yn anfodlon ar gais am drwydded sydd wedi ei wrthod,   neu'n anfodlon ar unrhyw un o'r amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded, bydd   hawl ganddo i apelio i Lys yr Ynadon.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni isod:-

Sut mae gwneud cais

Mae modd cael ffurflen gais drwy gysylltu â ni neu edrychwch ar y   ffurflen gais isod:

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái,

Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301

Rhaid talu ffi i wneud cais. Mae'r ffi yn   daladwy wrth gyflwyno'r cais. £126.00 yw’r ffi ar hyn o bryd.