Skip to main content

Trwydded Bersonol

Does dim gofyn i chi fod â thrwydded bersonol er mwyn cael eich cyflogi mewn tafarn neu fusnes arall sy'n gwerthu alcohol. Rhaid i safleoedd sydd â thrwydded gwerthu alcohol fod a goruchwyliwr safle penodedig sydd â thrwydded bersonol.  Rhaid i unrhyw un sydd ddim â thrwydded bersonol gael ei awdurdodi i werthu alcohol gan ddeiliad y drwydded bersonol.

Gwneud Cais am Drwydded Bersonol

Rhaid i ymgeiswyr lenwi'r ffurflen gais er mwyn gwneud cais am drwydded bersonol. Mae ffurflenni cais ar gael ar-lein yn  GOV.UK  neu gallwch gysylltu â ni i ofyn am ffurflen drwy e-bostio  Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu ffonio 01443 744284.

Bydd gofyn i chi gyflwyno'r canlynol i wneud eich cais yn ddilys:

  • Y ffurflen gais wedi'i llenwi.
  • Dau lun maint pasbort wedi'u tynnu yn ystod y mis diwethaf (wedi'u hardystio'n llun cywir gan gyfreithiwr, notari, rhywun mawr ei barch yn y gymuned, neu rywun â chymhwyster proffesiynol).
  • Cymhwyster trwydded bersonol achrededig.
  • Gwiriad cofnod troseddol sylfaenol (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) - rhaid bod hwn wedi'i gynnal llai na mis cyn cyflwyno'r cais.
  • Y ffi ofynnol, sef £37.00.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi achredu naw chymhwyster trwydded bersonol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

  • Darparwyr cymwysterau trwydded bersonol achrededig

    Mae'r Ysgrifennydd Cartref wedi achredu'r cymwysterau trwydded personol a ganlyn o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2017:

    Corff Dyfarnu Sefydliad Prydeinig y Tafarnwyr (‘BIIAB’) (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ('QCF') RN5118)

    Tystysgrif Lefel 2 Corff Dyfarnu Sefydliad Prydeinig y Tafarnwyr ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol

    Rhif y cymhwyster: 603/2468/5

    Rhif cymeradwyo / dynodi cymhwyster: C00/1212/8

    Tystysgrif Lefel 2 Corff Dyfarnu Sefydliad Prydeinig y Tafarnwyr ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)

    Rhif y cymhwyster: 501/1494/3

    Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau a Chredydau RN5238)

    Tystysgrif Lefel 2 Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)

    Rhif y cymhwyster: 601/2104/X

    Highfield Awarding Body for Compliance (HABC) (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau a Chredydau RN5219)

    Tystysgrif Highfield Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau Rheoledig (RQF))

    Rhif y cymhwyster: 603/2597/5

    Rhif cymeradwyo / dynodi cymhwyster: C00/1221/1

    Tystysgrif HABC Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)

    Rhif achredu cymhwyster 500/9974/7

    IQ (Industry Qualifications) (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau a Chredydau:RN5330)

    Tystysgrif IQ Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol

    Rhif y cymhwyster: 603/2659/1

    Tystysgrif IQ Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)

    Rhif y cymhwyster: 601/4980/2

    LASER (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau a Chredydau RN5326)

    Tystysgrif LASER Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol

    Rhif y cymhwyster: 603/2603/7

    Tystysgrif LASER Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol

    Rhif achredu cymhwyster 600/6446/8

    Pearson Education Ltd (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau a Chredydau  RN5133)

    Pearson BTEC Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol

    Rhif y cymhwyster: 603/2538/0

    Tystysgrif Pearson BTEC Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)

    Rhif y cymhwyster: 601/3483/5

    QNUK (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau Rheoledig (RQF) RN5133)

    Tystysgrif QNUK Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol

    Rhif y cymhwyster: 603/2619/0

    Tystysgrif QNUK Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol

    Rhif y cymhwyster: 603/1021/2

    • gwefan: QNUK
    • ffôn: 020 3795 0559
    • e-bost: centres@qnuk.org
    • cyfeiriad: Qualifications Network, First Floor      Offices, 86A Lancaster Rd, Enfield, Middlesex, EN2 0BX

    SQA (Rhif adnabod Fframwaith Cymwysterau a Chredydau RN5167)

    Tystysgrif SQA Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol

    Rhif y cymhwyster: 603/2596/3

    Tystysgrif SQA Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)

    Rhif y cymhwyster: 600/1269/9

    • ffôn: 0845 279 1000
    • cyfeiriad e-bost: customer@sqa.org.uk
    • cyfeiriad: The Optima Building, 58 Robertson Street      Glasgow G2 8DQ.

    Training Qualifications UK (Rhif adnabod: RN5355)

    Tystysgrif TQUK Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Fframwaith Cymwysterau Rheoledig)

    Rhif y cymhwyster: 603/2835/6

    Tystysgrif TQUK Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau)

    Rhif y cymhwyster: 601/6508/X

    Cysylltwch â'r cyrff yma'n uniongyrchol i gael gwybodaeth am gyrsiau, costau ac argaeledd yn eich ardal.

  • Tystysgrif Datgeliad Sylfaenol - Mae modd i chi wneud cais am dystysgrif drwy unrhyw Sefydliad Cyfrifol gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) er mwyn cyflwyno gwiriadau sylfaenol ar y we.

Mae modd dod o hyd i restr o Sefydliadau Cyfrifol sy'n darparu gwasanaeth gwirio drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar wefan:  https://www.gov.uk/guidance/responsible-organisations

Cyn rhoi trwydded, bydd rhaid i'r ymgeisydd fodloni'r Awdurdod Trwyddedu o ran:

  • bod yn 18 oed neu'n hyn;
  • peidio â fforffedu trwydded bersonol mewn cyfnod o bum mlynedd cyn cyflwyno'r cais;
  • peidio â'i ddyfarnu'n euog o unrhyw drosedd berthnasol neu drosedd dramor fel y'i diffinnir yn y Ddeddf.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu'n cydweithio'n agos â'r heddlu pan fydd gan yr ymgeisydd gollfarn heb ddarfod am drosedd berthnasol fel y'i diffinnir yn Neddf Trwyddedu 2003. Os bydd gan yr ymgeisydd gollfarn heb ddarfod am drosedd berthnasol, bydd modd i'r heddlu a'r Awdurdod Trwyddedu gyfweld â'r unigolyn os bydd yr heddlu am wrthod rhoi'r drwydded.

Does dim dyddiad terfyn ar drwyddedau personol mwyach. Serch hynny, bydd angen i chi roi gwybod i'r Awdurdod Trwyddedu os byddwch chi'n newid eich enw neu'ch cyfeiriad.

Mae modd i chi rannu eich manylion newydd gyda ni drwy:

E-bost: Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 744284