Trwyddedau alcohol ac adloniant

Cyflwyno Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Oriau Trwyddedu Cwpan y Byd FIFA) 2026

Mae'r Llywodraeth bellach wedi cyflwyno Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Oriau Trwyddedu Cwpan y Byd FIFA) 2026, sy'n cadarnhau oriau agor estynedig ar gyfer safleoedd trwyddedig yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnodau allweddol o bencampwriaeth Cwpan y Byd Dynion FIFA 2026. Cafodd y Gorchymyn ei gyflwyno ar 12 Mai 2026 a bydd yn dod i rym ar 8 Mehefin 2026.

Mae'r Gorchymyn yn caniatáu i dafarndai, bariau, clybiau a safleoedd masnachu eraill sydd eisoes wedi'u trwyddedu ar gyfer gwerthu alcohol, aros ar agor yn hwyrach ar ddiwrnodau gemau cymalau dileu penodedig - y rownd o 32, y rownd o 16, y rownd gogynderfynol, y rownd gynderfynol a'r rownd derfynol- ond dim ond pan fydd Lloegr neu'r Alban yn chwarae. Lle mae hyn yn berthnasol, fydd dim angen i weithredwyr gyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro  fanteisio ar yr oriau estynedig.

Mae dyddiadau ac amseroedd penodol i'w gweld o fewn y gorchymyn a dim ond rhwng 23:00 a 01:00 y maen nhw'n berthnasol, a hynny pan fydd Lloegr neu'r Alban yn chwarae.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch y Garfan Drwyddedu: Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk

Mae hysbysiad digwyddiad dros dro (TEN) yn caniatáu i ddigwyddiadau ar raddfa fach gael eu cynnal mewn unrhyw safle heb drwydded mangre na Goruchwyliwr safle dynodedig.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi datganiad o bolisi trwyddedu o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Ffioedd Cyngor, gwybodaeth a cheisiadau am drwyddedau mangre.
Rhoi gwybodaeth am drwydded sefydliad rhyw a chyngor ar wneud cais.
Mae unrhyw arddangosfa, arddangosiad neu berfformiad hypnotiaeth (fel y'i diffinnir yn Neddf hypnotiaeth 1952) ar unrhyw berson yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig penodol y Cyngor fel yr awdurdod trwyddedu
Gwneud cais i am drwydded i storio ffrwydron/tân gwyllt
Rhaid i safle sydd wedi'i drwyddedu i werthu alcohol fod â goruchwylydd safle dynodedig, sy'n dal trwydded bersonol.
Gweld manylion y ceisiadau am drwyddedau mangre cyfredol