Skip to main content

Trwydded Safle Carafanau

Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 yn gosod y weithdrefn ar gyfer gwneud, amrywio a dileu rheolau safle, yn ogystal â rhestru'r materion y mae modd (ac nad oes modd) gosod rheolau safle arnyn nhw. Mae'r Rheoliadau yn mynnu ymgynghoriad ffurfiol rhwng perchennog y safle a'r trigolion cyn i'r rheolau gael eu "hadneuo" gyda'r Cyngor.

Mae sawl ffurf ragnodedig sy'n cael eu cynnwys, fel sydd yn Atodlenni'r Rheoliadau, y mae rhaid eu defnyddio drwy gydol y broses.  Mae modd lawrlwytho Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 o:

www.rctcbc.gov.uk/MobileHomesRegulations2014

Mae gweithdrefn apelio glir yn cael ei darparu er mwyn i drigolion allu herio unrhyw un o'r rheolau sy'n cael eu cynnig, os ydyn nhw'n dymuno. Unwaith i'r rheolau safle gael eu 'hadneuo', mae'r Rheoliadau yn datgan bod rhaid i'r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr rheolau safle ar gyfer y safleoedd yn ei ardal, a chyhoeddi'r gofrestr ar-lein.

Mae ffi i'w thalu am adneuo, dileu neu amrywio'r Rheolau Safle. Cysylltwch â'r Cyngor ynglŷn â chost y gwasanaeth yma.

Mae rheolau safle'r safleoedd cartrefi symudol preswyl yn Rhondda Cynon Taf yn ein Dogfennau Perthnasol yn yr adran isod:

Cysylltu â ni

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 
01443 425301
Neges Destun: 
07781 489133
E-bost: 
IechydyCyhoeddaThai@rhondda-cynon-taf.gov.uk