Skip to main content

Rheolau Safle Cartrefi Symudol

Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 yn gosod y weithdrefn ar gyfer gwneud, amrywio a dileu rheolau safle, yn ogystal â rhestru'r materion y mae modd (ac nad oes modd) gosod rheolau safle ar eu cyfer.

Mae'r Rheoliadau yn mynnu ymgynghoriad ffurfiol rhwng perchennog y safle a'r trigolion cyn i'r rheolau gael eu "hadneuo" gyda'r Cyngor.

Mae sawl ffurflen ragnodedig, fel sydd yn Atodlenni'r Rheoliadau, y mae rhaid ei defnyddio drwy gydol y broses. Edrychwch ar Reoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014 am ragor o wybodaeth

Mae gweithdrefn apelio glir yn cael ei darparu er mwyn i drigolion allu herio unrhyw un o'r rheolau sy'n cael eu cynnig, os ydyn nhw'n dymuno. Unwaith i'r rheolau safle gael eu 'hadneuo', mae'r Rheoliadau yn datgan bod rhaid i'r Cyngor sefydlu a chynnal cofrestr rheolau safle ar gyfer y safleoedd yn ei ardal, a chyhoeddi'r gofrestr ar-lein.

Mae ffi i'w thalu am adneuo, dileu neu amrywio Rheolau Safle. Cysylltwch â'r Cyngor ynglŷn â chost y gwasanaeth yma.

Rhagor o wybodaeth am y rheolau ar gyfer safleoedd yn RhCT (Mae'r holl ddogfennau'n agor mewn ffenestr newydd)

Cysylltu â ni

Ffon: 01443 425001 
Ffacs: 01443 425301 
Neges Destun:
 07781 489133
E-bost: iechydycyhoeddathai@rhondda-cynon-taff.gov.uk