Skip to main content

Trwyddedau ar gyfer sgipiau

Os ydych chi am osod sgip neu gynhwysydd ar y briffordd gyhoeddus, bydd angen trwydded arnoch chi gan yr Awdurdod Lleol. Does dim hawl gan berson neu gwmni i osod sgip/cynhwysydd ar y briffordd heb yn gyntaf gael trwydded.

Crynodeb o'r rheoliadau

Mae rhaid cael trwydded gan Garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor ar gyfer pob sgip/cynhwysydd sy'n cael ei osod ar y briffordd. Dim ond perchennog y sgip/cynhwysydd sy'n cael cyflwyno cais am drwydded.  Does dim modd i aelodau o'r cyhoedd gyflwyno cais am drwydded oherwydd dydy eu amodau yswiriant ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau ar gyfer sgipiau/cynwysyddion. Os oes angen gosod sgipiau/cynwysyddion (boed yn fach, yn ganolig, neu'n fawr) ar gyfer adeiladwyr ar y briffordd (sef ar y ffordd, y palmant neu wrth ymyl y ffordd), mae rhaid i'r gweithredwr sgipiau/cynwysyddion gael trwydded.

Mae gosod sgip/cynhwysydd ar y briffordd heb drwydded yn dramgwydd o dan adran 139/40 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a gall arwain at erlyn y gweithredwr sgipiau/cynwysyddion. Y gweithredwr (cyflenwr) sgipiau/cynwysyddion sy'n gyfrifol am sicrhau gosod sgipiau/cynwysyddion ar y briffordd mewn modd sydd ddim yn peri rhwystr i ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Y cyflenwr sgipiau/cynwysyddion sy'n gyfrifol am sicrhau glynu wrth bob un o'r holl reoliadau ac amodau priodol.

Noder: NID cyfrifoldeb deiliad y tŷ, yr adeiladwr na'r contractwr yw cael  sgip/cynhwysydd, ond, mae rhaid iddyn nhw fodloni'u hunain fod y Cyngor wedi rhoi caniatâd dilys ar gyfer gosod sgip/cynhwysydd ar y briffordd.

Cyflwyno cais

Os ydych chi eisiau gosod sgip/cynhwysydd ar y ffordd y tu allan i'ch tŷ, cysylltwch yn y lle cyntaf â'r sawl sy'n cyflenwi'r sgip/cynhwysydd.

Wrth i'r Garfan Gofal y Strydoedd ystyried ceisiadau o'r fath, bydd rhaid iddi asesu nifer o ffactorau ac mae'n bosibl fydd dim modd iddi roi caniatâd bob tro.

Mae modd i drwydded fod yn ddilys am unrhyw gyfnod rhwng 1 diwrnod calendr ac 14 diwrnod calendr. Mae rhaid gwneud ceisiadau ychwanegol am gyfnodau hirach. Does dim hawl i adael mwy nag un sgip/cynhwysydd ar y safle ar unrhyw adeg, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

Mae rhaid i sgipiau/cynwysyddion sy'n cael eu gosod ar y briffordd beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd fflamadwy, hylosg, ffrwydrol neu niweidiol, neu unrhyw beth a allai beri niwsans i ddefnyddwyr y briffordd. Mae rhaid taenu dŵr dros gynnwys y sgip, neu'i guddio, er mwyn atal llwch neu orlifo ar y briffordd. Mae rhaid peidio â gorlwytho'r sgip. Pan fydd yn llawn, bydd rhaid ei symud i ffwrdd.

Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais a rhoi rhif trwydded i chi cyn bydd hawl gennych chi i osod sgip ar y briffordd. Os na fyddwch chi wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r manylion cysylltu isod.
Cyflwyno cais am Drwydded Sgip ar-lein

Crynodeb

Mae angen i weithredwyr sgipiau/cynwysyddion gofrestru eu manylion a'r dogfennau cysylltiedig er mwyn eu dilysu gan y Cyngor. Dim ond ar ôl i'r cofrestriad gael ei ddilysu bydd hawl gan weithredwr i wneud cais am drwydded sgip.

Cofrestru fel gweithredwr sgipiau

I gofrestru'n weithredwr sgipiau, byddwch cystal â llenwi'r ffurflen cofrestru gweithredwr sgipiau sydd ar gael ar ochr dde'r dudalen yma. Anfonwch y ffurflen yma, ynghyd â'r dogfennau perthnasol, h.y: Copi o dystysgrif atebolrwydd cyhoeddus ddilys, mewn neges e-bost i SgipiauSgaffaldiau@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Costau

Mae gwneud cais am drwydded (sydd naill ai'n cael ei ganiatáu neu'i wrthod/ganslo neu fel arall) yn costio £37.70 ar hyn o bryd. Fydd dim modd ad-dalu'r gost yma. Bydd y drwydded yn ddilys am gyfnod o 14 diwrnod calendr. Mae cyfnodau dilynol yn costio £37.70 (dim modd ad-dalu) am 14 diwrnod calendr neu unrhyw ran o hynny.

Amserlen

Lleiafswm amser prosesu trwydded sgip – dau ddiwrnod gwaith.

Proses apelio

Cysylltwch â'r tîm gwaith stryd

Sgipiau/Cynwysyddion – Cwestiynau cyffredin

Oes angen trwydded sgip/cynhwysydd arna i?

Mae angen trwydded sgip ar weithredwyr sgipiau/cynwysyddion sy'n gosod sgipiau/cynwysyddion ar y briffordd.

Ydy'r Cyngor yn darparu sgipiau/cynwysyddion?

Nac Ydyn. Dylech ddefnyddio gweithredwr sgipiau/cynwysyddion sydd wedi cael ei argymell.

Sut mae cyflwyno cais?

Os ydych chi'n llogi sgip neu gynhwysydd, cyfrifoldeb y cwmni sgipiau/cynwysyddion yw gwneud cais ar eich rhan. I gael gwybod a yw cais wedi'i wneud, cysylltwch â'r Garfan Gwaith y Strydoedd drwy ffonio 01443 425001, neu drwy anfon neges e-bost i SgipiauSgaffaldiau@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Mae hawl gan y Cyngor i symud unrhyw sgipiau neu gynwysyddion sydd wedi'u gosod ar y briffordd heb drwydded ddilys.

Os oes gen i drwydded ar gyfer sgip neu gynhwysydd mewn un ardal yn Rhondda Cynon Taf, oes hawl gen i osod sgip mewn ardal arall?

Nac oes. Mae'r drwydded ar gyfer safle penodol. Mae angen trwydded ar wahân ar gyfer pob cyfeiriad sydd â sgip/cynhwysydd.

Oes modd i mi osod sgip/cynhwysydd mewn lôn gefn?

Byddwn ni'n ystyried cais o'r fath.

Pryd does dim angen trwydded?

Does dim angen trwydded ar gyfer gosod sgip/cynhwysydd ar dir preifat, neu ar ddreif, neu ar lôn sydd heb gael ei fabwysiadu gan y Cyngor.  Os ydych chi'n ansicr ynglŷn ag unrhyw beth, dylech chi ofyn i'r Garfan Gofal y Strydoedd.

Faint o amser mae'n ei gymryd?

Mae angen 2 ddiwrnod gwaith o rybudd o leiaf o'r cwmni sgipiau/cynwysyddion er mwyn i ni roi trwydded.

Fodd bynnag, os oes materion traffig penodol ar y ffordd lle mae disgwyl i'r sgip/cynhwysydd gael ei osod (er enghraifft, llwybr bws, ffordd gul ac ati), mae'n bosibl bydd angen archwilio'r safle er mwyn trafod amodau a lleoliadau posibl eraill ar gyfer gosod y sgip/cynhwysydd.

Dan yr amgylchiadau hyn, mae'n bosibl bydd y gwaith paratoi trwydded yn cymryd rhagor o amser. Bydd y cwmni sgipiau/cynwysyddion dan sylw yn cael gwybod am unrhyw faterion traffig wrth wneud cais.

Noder: Rydyn ni'n cynghori'r sawl sy'n llogi sgipiau i beidio â'u gorlenwi. Mae modd i'r gweithredwr wrthod casglu sgip orlawn oherwydd gall fod yn beryglus i ddefnyddwyr y ffyrdd. Os oes unrhyw ddeunydd dros ben, mae rhaid i'r sawl sy'n llogi'r sgip gael gwared arno mewn ffordd gyfrifol. Os oes unrhyw ddeunydd dros ben yn sgil sgip wedi'i orlenwi, byddai'r Cyngor o'r farn bod y sawl sydd wedi llogi'r sgip yn tipio'n anghyfreithlon.

Cwyno / gwrthwynebu

Os oes gennych gŵyn neu gwestiwn ynghylch mater sy'n ymwneud â sgipiau/cynwysyddion, cysylltwch â'r Garfan Gwaith y Strydoedd drwy SgipiauSgaffaldiau@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu 01443 425001.

Cofrestri cyhoeddus

Ar hyn o bryd, does dim cofrestr gyhoeddus o drwyddedau sgipiau sydd wedi'u cymeradwyo yn Rhondda Cynon Taf.

Carfan Gwaith y Strydoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol  Rhondda Cynon Taf,
Isadran Gofal y Strydoedd, 
Tŷ Sardis, 
Heol Sardis, 
Pontypridd, 
CF37 1DU

Ffon: 01443 425001