Skip to main content

Monitro Ansawdd Aer

Rheoli Ansawdd Aer Lleol

Mae ystod o sylweddau gwahanol yn yr awyr yn achosi llygredd aer, hyd yn oed pan fo lefelau isel iawn o’r sylweddau yma yn yr awyr.  Dangoswyd bod modd i sawl llygrydd aer gael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl, gan effeithio ar hyd ac ansawdd bywyd. Mae gwefan Clean Air Hub yn cynnig gwybodaeth ychwanegol am y llygryddion aer all fod yn bresennol a sut mae llygredd aer yn chwarae rhan bwysig o ran ein hiechyd a lles.

Gan gydnabod pwysigrwydd ansawdd aer, mae Carfan Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai yn asesu ansawdd aer yn yr awyr agored yn rheolaidd yn Rhondda Cynon Taf. Dros amser, mae'r asesiadau yma wedi nodi'r llygryddion aer mwyaf perthnasol ar gyfer sylw'r cyhoedd:- 

  • Mae Nitrogen Deuocsid [NO2] yn nwy sydd, fel arfer, yn annatgeladwy ar lefelau isel iawn sydd, yn aml, yn ein hamgylchedd. Gan amlaf, mae'n gysylltiedig â hylosgiad, er enghraifft ffwrneisiau diwydiannol, tanwydd solet domestig neu wres nwy, a thraffig ffordd petrol a diesel.  Mae modd i’w lefelau fod yn uwch mewn ardaloedd trefol gyda phoblogaeth ddwys, yn ogystal â lleoliadau ger ffyrdd prysur iawn â llawer o gerbydau. 
  • Mae Deunydd Gronynnol [PM] yn gymysgedd o nifer o wahanol sylweddau solet y mae modd iddyn nhw fod yn yr aer rydyn ni'n ei anadlu. Does dim modd i fodau dynol weld Deunydd Gronynnol mân iawn, sy'n cael ei labelu'n PM10 a PM2.5 yn aml, ond mae modd ei anadlu a mae’n cyrff ni’n ei amsugno. Gall llawer o wahanol weithgareddau naturiol a dynol achosi Deunydd Gronynnol, gan gynnwys hylosgiad, traul wyneb ffyrdd, gweithgareddau amaethyddol, graeanu a'r gwynt yn casglu a symud Deunydd Gronynnol yn gyffredinol. 

O ganlyniad i bwysigrwydd llygryddion aer penodol, mae Rheoliadau wedi pennu Amcanion Ansawdd Aer y dylai'r Cyngor fod yn effro iddyn nhw a gweithio tuag at eu cyflawni, lle bo modd. Felly, mae ansawdd aer wedi cael ei fonitro yn Rhondda Cynon Taf ers y 1990au ac mae'r Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ar ansawdd aer lleol bob blwyddyn. Mae'r adroddiadau yma'n rhoi gwybodaeth am y broses statudol, data monitro lleol diweddar a dadansoddiad o'r ansawdd aer lleol. Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Adroddiad Cynnydd 2022.  

Beth mae modd i chi ei wneud am Ansawdd Aer Lleol? 

Mae nifer o gamau y mae modd eu cymryd i helpu i wella ansawdd aer lleol. Mae'n bosibl y bydd rhai o’r camau yma’n gofyn i'r Cyngor a'i bartneriaid gyflwyno newid lle  bydd gofyn i ysgolion, cymunedau lleol, cartrefi ac unigolion gynnal camau gweithredu eraill. 

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am sut y gall ysgol helpu i arwain y gwaith o wella ansawdd aer, gan gynnwys adnoddau sy'n benodol ar gyfer grwpiau blwyddyn, ar wefan Clean Air Day

Mae gwybodaeth ac adnoddau penodol o ran sut mae modd i unigolion a chartrefi leihau datguddiad i lygredd aer, ar wefan Clean Air Day

Mae'r Cyngor hefyd yn croesawu gohebiaeth ac argymhellion gan y gymuned am gamau gweithredu lleol posibl y byddai modd eu cymryd i wella ansawdd aer lleol. 

Monitro Ansawdd Aer   

Mae gan y Cyngor rwydwaith o leoliadau monitro ledled Rhondda Cynon Taf, er mwyn deall ansawdd aer lleol yn well, yn ogystal â’r camau gweithredu sydd â'r modd i effeithio arno. Mae'r canlyniadau yma'n cael eu casglu a'u cyfuno â'r data a gaiff ei gasglu gan awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Mae modd gweld y data yma, ynghyd â sylwadau ar ansawdd aer cenedlaethol (gan gynnwys y statws llygredd presennol ledled Cymru), ar wefan Ansawdd Aer Cymru. 

Adroddiad Cynnydd 2023

Wrth wneud hynny, mae'r Awdurdod Lleol wedi amlygu dau lygrydd aer – nitrogen deuocsid [NO2] a deunydd gronynnol mân [PM10] – y mae angen eu harchwilio'n fwy manwl. Mae Adroddiad Cynnydd Ansawdd yr Aer 2023 yn cynnwys asesiad o ddata monitro diweddar ar gyfer NO2 a PM10 a gasglwyd yn ystod 2022, yn ogystal ag adolygiad o ddatblygiadau wedi eu caniatáu yn ddiweddar, mannau o ddiddordeb parhaus a newydd, a pholisïau perthnasol yr Awdurdod Lleol.

Mae'n dal yn wir bod gan y rhan fwyaf o sir Rhondda Cynon Taf ansawdd aer da ac mae hynny'n debygol o barhau yn y dyfodol, ac efallai y bydd yn parhau i wella. Dim ond rhai ardaloedd bach sy'n gysylltiedig â chyffyrdd ffyrdd trefol prysur, y rhwydwaith ffyrdd rhanbarthol neu ffynonellau lleol penodol sy'n debygol o gael ansawdd aer gwael. Credir bod yr ardaloedd sydd mewn perygl – ardaloedd sydd yn hanesyddol yn gysylltiedig â lefelau uwch o NO2 – eisoes wedi cael eu henwi'n Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer [ARhAA] ac, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r lleoliadau, mae'n bosibl fydd ansawdd aer yn yr ardaloedd yma ddim yn gwella mor gyflym ag ardaloedd eraill yn yr hir dymor.

Mae gyda Rhondda Cynon Taf 16 ARhAA sydd i gyd yn ymwneud ag achosion o dorri amodau Amcanion Ansawdd Aer ar gyfer NO2. Mae'r ARhAA yma o faint penodol ac maen nhw wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y Fwrdeistref. Er, yn ddiweddar, profodd mwyafrif yr ARhAA yma ansawdd aer a oedd yn cydymffurfio ag Amcanion Ansawdd Aer perthnasol ar gyfer NA2. O ystyried ansicrwydd yn y dyfodol, y gred yw y bydd yr ARhAA yma'n parhau i fod yn berthnasol, o leiaf yn y dyfodol agos.

Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer   

Mae Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor, drwy Orchymyn, dan Adran 83(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.  Yn sgil torri Amcanion Ansawdd Aer ar gyfer Nitrogen Deuocsid, mae 16 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer ar hyn o bryd o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf:- 

  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Canol Tref Aberdâr 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Broadway 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Pentre'r Eglwys 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Cilfynydd 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer y Cymer 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Glynrhedynog 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Llanharan 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Llwynypïa 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Canol Tref Aberpennar 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Mwyndy 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Nantgarw 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Llwyn yr Eos 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Canol Tref Pontypridd 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Tonyrefail 
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Trefforest
  • Ardal Rheoli Ansawdd Aer Tylorstown 

Mae'r Cyngor wedi llunio Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer unigol, ar gyfer pob Ardal Rheoli Ansawdd Aer, sy'n nodi camau gweithredu sydd â'r modd i wella ansawdd yr aer ynddyn nhw a hyrwyddo nod y Cyngor i gydymffurfio â'r Amcan Ansawdd Aer perthnasol ledled Rhondda Cynon Taf.  

Wrth roi'r Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer ar waith, mae'n bosibl hefyd y bydd mwy o fuddion yn cael eu gwireddu, er enghraifft hyrwyddo dyletswyddau'r Cyngor ymhellach mewn perthynas â theithio llesol. Mae'r camau gweithredu sy'n cael eu nodi'n fanwl yn y Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer yn cynnwys amrywiaeth eang o ddyheadau a mecanweithiau i effeithio ar ansawdd aer lleol. Mae rhai o'r camau gweithredu yn ymwneud yn benodol â’r Ardal Rheoli Ansawdd Aer, tra gall eraill wella'r Fwrdeistref drwyddi draw. Mae'r camau gweithredu wedi’u hamlinellu isod:  

  • Ymchwilio i newidiadau lleol posibl wedi'u targedu i reoli lefel bresennol y traffig er mwyn lleihau neu gael gwared ar y tagfeydd traffig mewn mannau risg uchel.
  • Ystyried rhagor o gyfyngiadau aros a pharcio wedi'u targedu'n lleol, neu ddarpariaethau amgen, a'u gorfodi mewn mannau penodol i wella llif y traffig a lleihau tagfeydd.
  • Aildrefnu lleol posibl ar gyfer safle bysiau i leihau effaith y bws yn aros ar dagfeydd traffig lleol.
  • Cefnogi gostyngiad yn y cyflymder sy'n cael ei ganiatáu ar hyd rhan o'r A470.
  • Cefnogi sefydlu Metro De Ddwyrain Cymru yn effeithiol a thrydaneiddio Rheilffordd Canol Cymoedd De Cymru.
  • Annog newid ymddygiad ledled y Fwrdeistref drwy ddefnyddio adnoddau cyfredol a mecanweithiau polisi i annog rhagor o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, rhannu ceir a chynllunio teithiau'n effeithlon.  

Camau Gweithredu Ansawdd Aer 

Oherwydd adnoddau cyfyngedig, ni fu'n bosib gweithredu'r holl gamau gwella ansawdd aer ar unwaith. Mae'r Awdurdod Lleol yn parhau, pan fo'n bosib, i weithredu neu i ddylanwadu ar weithredu camau yn ei ARhAA yn ogystal â chamau eraill a all wella ansawdd aer lleol yn gyffredinol. Mae'r math o gamau gwella ansawdd aer sydd wedi'u gwneud yn ddiweddar yn cynnwys agor Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, Cwm Cynon.

Yn y dyfodol bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i symud ymlaen ag ystod o gamau gweithredu a mentrau. Mae'r rhain yn cynnwys dylunio a gweithredu sawl gwelliant arfaethedig i wella priffyrdd er mwyn gwella 'pwyntiau pinsio', sef prosiectau i gynyddu defnyddioldeb ac ymwybyddiaeth o lwybrau teithio llesol ac opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy leol. Wrth gydnabod effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd, a'r manteision y byddai'n gallu deillio o roi dull cyfannol o ymdrin â materion amgylcheddol ar waith, mae'r Awdurdod Lleol yn parhau i ddatblygu strategaethau a rhaglenni newid hinsawdd lleol allweddol. Mae hyn wedi cynnwys datblygu Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan allweddol a rhaglen cynhyrchu ynni adnewyddadwy uchelgeisiol.

Cysylltwch â Ni

Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

E-bost: LlygreddyrAmgylchedd@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425001