Skip to main content

Trwydded Gweithredwyr hurio Preifat

Mae'n ofynnol i gael trwydded gweithredwr hurio preifat er mwyn galluogi person i dderbyn neu wahodd archebion ar gyfer cerbydau hurio preifat.

Fe gaiff un person gyflogi neu is-gontractio nifer anghyfyngedig o gerbydau trwyddedig.  Ni chaiff gyrrwr hurio preifat trwyddedig dderbyn unrhyw archebion oni bai bod gan y gyrrwr drwydded neu'i fod yn gweithio i weithredwr hurio preifat trwyddedig. Fe gaiff gweithredwr drosglwyddo archebiad i weithredwr cerbyd hurio preifat trwyddedig arall ar yr amod fod y gweithredwr arall hefyd wedi'i drwyddedu gan yr Awdurdod Trwyddedu

Nid yw'r Awdurdod Trwyddedu yn rheoleiddio prisiau teithio ar gyfer cerbydau hurio preifat. Fe ddylid, fel rheol, gytuno ar gost y daith gyda'r cwmni, cyn dechrau'r daith.

Bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael cysylltiad cychwynnol gyda'r gweithredwr, ac yn gwneud y contract gydag ef neu hi hyd yn oed os nad yw'r gweithredwr yn cyflenwi'r cerbyd a/neu'r gyrrwr.

Cyn i'r Awdurdod Trwyddedu roi trwydded, rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais fodloni'r Awdurdod Trwyddedu o'r canlynol:

  • ei fod ef neu'i bod hi yn berson priodol a ffit i ddal trwydded
  • rhaid iddo ef neu iddi hi gael gwiriad cofnodion troseddol wedi'i gynnal gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) er mwyn sicrhau diogelwch i'r cyhoedd

Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod

Ar ôl llenwi'r ffurflen gais, bydd angen i chi drefnu apwyntiad i ymweld â'n swyddfeydd, a bydd angen i chi ddod â'r dogfennau canlynol gyda chi:

  • Y ffurflen gais wedi'i llenwi
  • Eich trwydded yrru gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (‘DVLA’) (gwreiddiol – nid llungopi) sy'n dangos eich cyfeiriad presennol
  • Eich pasbort /tystysgrif geni / tystysgrif priodas
  • Manylion eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Hanes o'ch cyfeiriadau blaenorol yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau heb i chi gyflwyno'r uchod.

Wrth i chi gyflwyno'r uchod yn y Swyddfa Drwyddedu, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen i'n galluogi ni i gadarnhau gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) unrhyw gofnodion sy'n cael eu dal yn eich erbyn. Cofiwch y byddwn ni fel arfer yn caniatáu tua phedair wythnos o gael eich cais i law ar gyfer dychwelyd y gwiriadau yma.

Pan fydd yr holl wiriadau wedi cael eu cwblhau, bydd y ffi briodol yn ofynnol cyn caiff y drwydded ei rhoi.

Costau

Mae rhestr y ffioedd wedi'i hatodi.

Cysylltu â ni

Os caiff y drwydded ei rhoi, bydd hi'n ddarostyngedig ar amodau. Mae modd eu cael drwy gysylltu â ni:

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái

Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam

Tonypandy

CF39 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301