Skip to main content

Gwerthu i'r Cyngor

 

Diben unrhyw broses gaffael yw ein helpu ni i ddewis y cyflenwr mwyaf addas i ymgymryd â gofynion unrhyw gontract, boed hynny'n ymwneud â nwyddau, gwasanaethau neu waith. 

Rhaid cynnal y broses yn unol â Rheolau Gweithdrefn Contractau (CPRs) y Cyngor a chontractau trothwy (Tabl 1) a Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Mae'r rheoliadau yma'n awgrymu sut mae rhaid tendro contractau. Dyma'r rhestr o drothwyon ariannol cyfredol:

Trothwyon RhCC sy'n dod i rym o 1 Ionawr 2022:

Ac eithrio TAW

Yn cynnwys TAW

Nwyddau a Gwasanaethau

£177,897.50

 £213,477.00

Gwaith

£4,447,447.50

 £5,336,937.00

Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Penodol Eraill

£663,540.00

 £663,540.00

Ar gyfer contractau gyda gwerth amcangyfrifedig llai na'r trothwy sydd wedi'i nodi yn Nhabl 1, rhaid i'r Cyngor ddilyn ei Reolau Gweithdrefn Contractau. Mae crynodeb o'n gofynion ni yn Nhabl 2:

Gwerth amcangyfrifedig y contract

C2

Is na

£15,000

C3
£15,000 –

£75,000

C4 £75,000 i Drothwyon yr UE (nwyddau, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau penodol eraill).

C5 £75,000 i Drothwyon yr UE (gwaith).

C6 Tu hwnt i drothwyon yr UE.

Parch at sicrhau bod pobl yn cael gwerth am arian (2 ddyfynbris wedi'u hargymell).

Gwahodd 3 i dendro (isafswm).

Gwahodd 4 i dendro (isafswm).

Gwahodd 3 i dendro (rhwng £75,000 a £150,000). 4 tendr ysgrifenedig (rhwng £150,000 a throthwy yr UE).

Ceisio cyngor gan Bennaeth Cyflawni – Materion Caffael cyn parhau ag unrhyw broses dendro. Rhaid cyhoeddi tendr yn Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Ein nod ni yw helpu darpar gyflenwyr a chontractwyr i ddeall sut mae’r Cyngor yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith ar hyn o bryd, a'u helpu i wella'u gobeithion o ddysgu am gyfleoedd a gwneud cais am waith.

Mae'r Cyngor yn defnyddio dwy system i gyhoeddi cyfleoedd contractio:

  • Gwerthwch i Gymru yw'r wefan Gaffael Genedlaethol. Mae'n cynnwys yr holl gyfleoedd contractio o dan ac uwchlaw'r trothwy Ewropeaidd, sy'n cael eu hysbysu'n helaeth. Mae gan y wefan gysylltiad uniongyrchol â Chyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd lle mae'n rhaid cyhoeddi contractau uwchlaw'r trothwy Ewropeaidd.
  • eDendro Cymru yw porth e-dendro'r Cyngor. Mae cyfleoedd contractio yn cael eu hysbysebu i gyflenwyr/contractwyr cofrestredig.

Mae'r Cyngor yn annog cyflenwyr i gofrestru â Gwerthwch i Gymru ac eDendro Cymru. Mae'r ddwy yn rhad ac am ddim, ac yn rhoi cyfle i gyflenwyr dderbyn hysbysiadau tendr awtomatig drwy e-bost, gweld cyfleoedd, diweddaru a chynnal eu proffil, derbyn cyfarwyddiadau ar sut i gael gafael ar ddogfennau tendr ac ymateb iddyn nhw, a gweld manylion am gontractau wedi'u dyfarnu.

Cofiwch gofrestru eich manylion yn uniongyrchol gyda ni hefyd. Mae modd cofrestru i fod yn rhan o'n Bas Data o Fusnesau Lleol trwy glicio yma.

Dyma rai argymhellion o ran sut i fod yn llwyddiannus:

  • Cofrestru i dderbyn hysbysiadau ar Gwerthwch i Gymru.
  • Cofrestru manylion â ni gan ddefnyddio ein Bas Data o Fusnesau Lleol.
  • Bod yn brydlon - dychwelwch y dyfynbris neu'r tendr i'r man cywir ar yr amser cywir.
  • Darllen y fanyleb - sicrhewch fod y nwyddau neu wasanaeth rydych chi'n eu cynnig yn diwallu'r fanyleb.
  • Ceisio esboniad - cysylltwch â ni os ydych chi'n ansicr am y broses neu unrhyw faterion sy'n rhan o'r fanyleb.
  • Nodi elfennau o werth ychwanegol - ystyriwch yr hyn allwch chi ei wneud neu ei ddarparu a allai ychwanegu at werth y cynnig.
  • Darparu'r wybodaeth dan sylw - rhowch yr wybodaeth i ni gan ddefnyddio'r fformat cywir.
  • Cyflwyno gwybodaeth gyflawn - darparwch yr holl wybodaeth berthnasol er mwyn i ni ystyried eich cais tendro. Mae'n bwysig bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu a bod y ddogfen wedi'i llenwi.

Cymorth ychwanegol

GwerthwchiGymru

Mae gwefan GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru. Mae modd cyrchu cymorth ac adnoddau yn ogystal â chofrestru i borth newydd 'Sign on Cymru', a chael mynediad at wasanaethau digidol Busnes Cymru. Trwy gofrestru â GwerthwchiGymru / Sign on Cymru byddwch chi'n derbyn hysbysiadau dros e-bost am gyfleoedd busnes newydd, cyfleoedd cyfredol a'r cymorth sydd ar gael.

Os hoffech chi gofrestru â GwerthwchiGymru / Sign on Cymru, cliciwch yma.

Dilynwch y Canllaw i Gyflenwyr  yma i dderbyn e-byst am gyfleoedd contractio perthnasol.

Ffôn: 0800 222 9004

Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth a chefnogaeth i fusnesau yng Nghymru. Mae modd derbyn cyngor arbenigol a chymryd rhan mewn gweithdai er mwyn eich cynorthwyo â phob cam o redeg busnes, o'i sefydlu i edrych ar sut i fod yn fwy cynaliadwy. Mae modd i ymgynghorwyr arbenigol roi cyngor i'ch helpu chi â'r broses dendro a dod o hyd i gyfleoedd tendro newydd.

Os ydych chi o'r farn y byddech chi'n elwa o dderbyn cymorth gan Busnes Cymru, cysylltwch â nhw yma.

Ffôn: 0300 060 3000

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn ariannu busnesau maen nhw o'r farn fyddai'n fuddiol i Gymru a'i phobl. Maen nhw'n ariannu busnesau cyfrifol sydd â safonau cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol cadarn yn ogystal â photensial masnachol. 

Ffôn: 0800 587 4140

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiad pellach, croeso ichi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:

E-bost: caffael@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281182