Skip to main content

Aelodaeth Prynu Gyda Hyder| Cyngor Rhondda Cynon Taf

Cynllun Prynu Gyda Hyder

Gan gysylltu cwsmeriaid yn Rhondda Cynon Taf â masnachwyr sydd wedi ymrwymo i fasnachu’n gyfreithlon ac yn gyfrifol.

P’un ydych chi’n gwmni sy’n edrych am gyfle i ddangos eich ymrwymiad i fasnachu’n deg, neu rydych yn gwsmer sy’n chwilio am fusnes dibynadwy, mae Prynu Gyda Hyder yn bwriadu cydnabod y rheiny sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ac yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.

Beth yw Prynu Gyda Hyder? 

Mae Prynu Gyda Hyder yn gynllun cenedlaethol ac mae dros 50 o wasanaethau Safonau Masnach yn ei gefnogi trwy gydol y DU. Ethos y cynllun yw helpu cwsmeriaid i osgoi masnachwyr twyllodrus, gan restru’r busnesau hynny mae Safonau Masnach wedi’u hadolygu a’u cymeradwyo. Hefyd, mae’r cynllun yn cael ei redeg i fod o fudd i gwsmeriaid a’i aelodau. Dyw e ddim er elw, sy’n golygu bod yr holl gostau aelodaeth yn mynd tuag at redeg y cynllun.

Prynu Gyda Hyder ar gyfer Busnesau

Mae yna nifer o fuddion ar gyfer aelodau Prynu Gyda Hyder, gan gynnwys:

  • Y gallu i roi sicrwydd i gwsmeriaid bod eich busnes yn ddibynadwy ac yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid da.
  • Cyfeiriadur ar wefan Prynu Gyda Hyder, sy’n cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd i ddod o hyd i fasnachwyr dibynadwy yn eu hardal.
  • Gallu defnyddio brandiau ‘Wedi’i Gymeradwyo gan Safonau Masnach’ ar eich adeilad ac ar ddeunydd hysbysebu megis deunydd ysgrifennu, arwyddion a cherbydau cwmni.
  • Cael cyngor gan weithwyr proffesiynol  Safonau Masnach, a hefyd cael gwybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â newidiadau i ddeddfwriaeth.

Am fanylion llawn y cynllun a’i anghenion, ewch i wefan Prynu Gyda Hyder swyddogol.

Os ydych yn credu eich bod chi’n meddu ar y rhinweddau i ddod yn aelod Prynu Gyda Hyder, gwneud cais ar-lein heddiw!

Prynu Gyda Hyder ar gyfer Cwsmeriaid

Dim ond y rheiny sydd wedi cael canlyniad boddhaol mewn cyfres o wiriadau perthnasol ac sy’n cyd-fynd ag ethos y cynllun, sy’n cael ymaelodi â chynllun Prynu Gyda Hyder. Felly bydd cwsmeriaid yn sicr bod holl aelodau’r cynllun yn cael eu harchwilio, eu rheoli ac wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd gyfreithlon, onest a theg. Caiff cofnod troseddol unigolion, sy’n gweithio yng nghartrefi pobl, ei wirio er mwyn darparu tawelwch meddwl ychwanegol i'w cwsmeriaid.

Er mwyn dod o hyd i ragor am y cynllun neu chwilio am fasnachwr yn eich ardal leol!