Skip to main content

Deddf Rheoleiddio pwerau ymchwilio

Mae Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000 yn rheoleiddio sut mae cyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn defnyddio gweithgareddau cudd. Mae'r ddeddfwriaeth yn trafod y defnydd o ddulliau gwyliadwriaeth a chael gafae ar ddata cyfathrebu. Mae'r gofynion cyfreithiol yma wedi'u hategu gan godau ymarfer sydd wedi'u cyflwyno gan Y Swyddfa Gartref.

Rydyn ni'n defnyddio'n grym dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (data cyfathrebu) a Rhan 2 (gwyliadwriaeth gudd) er mwyn atal a datgelu trosedd neu atal anrhefn. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau gorfodi mewn perthynas â:

  • Masnachwyr twyllodrus sy'n cyflawni twyll neu sy'n darparu gwasanaethau sydd heb eu disgrifio'n gywir
  • Pobl sy'n darparu nwyddau ffug neu anghyfreithlon;
  • Masnachwyr sy'n darparu alcohol, sigaréts a nwyddau eraill sydd â chyfyngiad oedran i bobl dan oed;
  • Masnachwyr sy'n torri gofynion trwyddedu ynghylch tacsis neu werthu alcohol;
  • Pobl sy'n cyflawni trosedd amgylcheddol;
  • Pobl sy'n cyflawni twyll budd-daliadau;
  • Pobl sy'n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol;

Mae'r Cyngor yn gweithredu trefniadau cadarn er mwyn sicrhau bod ei ddefnydd o ddulliau gwyliadwriaeth a sut mae'n caffael data cyfathrebu yn gyfreithlon a bod yr holl ddefnydd yma'n cael ei awdurdodi gan uwch reolwyr ymlaen llaw. Rhan o'r broses yw sicrhau bod dulliau eraill ar gyfer dod o hyd i dystiolaeth yn cael eu hystyried, ond rydyn ni wedi penderfynu nad oes dull hyfyw arall ar gael i gaffael tystiolaeth berthnasol a bod y camau gweithredu sydd wedi cael eu cynnig yn angenrheidiol ac yn gymesur ag amcanion yr archwiliad. Mae Uwch Gyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol yn archwilio copïau o bob awdurdodiad er mwyn sicrhau cysondeb o ran safonau.

Mae gan ddwy ran y Ddeddf gomisiynwyr annibynnol sy'n goruchwylio defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000. Mae Swyddfa'r Comisiynydd ar gyfer Ymyrryd â Chyfathrebu yn ymdrin â gwaith caffael data cyfathrebu ac mae Swyddfa'r Comisiynwyr Arwylio yn ymdrin â'r defnydd o oruchwylio cudd. Mae'r ddau gomisiynydd yn cynnal arolygiadau er mwyn adolygu sut mae'r Cyngor yn defnyddio Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000.

Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu'r dogfennau polisi corfforaethol canlynol:

  1. Dogfen Bolisi a Gweithdrefnau - Caffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000
  2. Dogfen Bolisi a Gweithdrefnau - Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000

Mae'r ddwy ddogfen yn cael eu hadolygu o bryd i'w gilydd ar sail newidiadau i'r gyfraith ac unrhyw gyfarwyddyd sy'n cael ei dderbyn gan Swyddfa'r Comisiynydd ar gyfer Ymyrryd â Chyfathrebu neu Swyddfa'r Comisiynwyr Arwylio.