Skip to main content

Cynghorwyr - Beth mae Cynghorwyr yn ei wneud?

Caiff Cynghorwyr eu ethol bob 4 blynedd i gynrychioli'ch ardal leol.

Bydd modd i hwnnw/honno eich helpu os ydych chi'n anfodlon ar wasanaethau'r Cyngor drwy roi cyngor i chi neu'ch cyfeirio at rywun a all helpu i ddatrys eich problem.  Bydd modd iddo/iddi symud eich achos yn ei flaen ar eich rhan ar adegau hefyd. Bydd hyn yn aml drwy sesiynau cyngor (Cymorthfeydd) lle gallwch chi gyfarfod â chynghorydd eich ward a thrafod eich problem.

Bydd y Cynghorwyr, a hwythau'n arweinwyr y gymuned, yn rhoi cynigion gerbron er mwyn gwella'r ward. Gall hyn gynnwys tynnu gwahanol grwpiau at ei gilydd i ddatblygu achos o blaid newid.

Mae modd cysylltu â Chynghorwyr gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost canlynol: GwasanaethauCynghorwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Tudalennau Perthnasol