Skip to main content

Monitro cydraddoldeb

Rydyn ni'n Monitro Cydraddoldeb er mwyn deall pwy yw ein staff a chwsmeriaid. Mae'n gam pwysig tuag at wella hygyrchedd ac amrywiaeth yn ein gweithle a’n gwasanaethau ac mae modd ei weithredu'n fewnol (gyda staff) ac yn allanol (gyda'n cwsmeriaid).

Mae cwestiynau data Monitro Cydraddoldeb yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig sydd wedi'u dewis ac yn cael eu cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Maen nhw'n cynnwys:

 • Oed

 • Anabledd

 • Ailbennu rhywedd

 • Beichiogrwydd a Mamolaeth

 • Hil

 • Crefydd neu gred

 • Rhyw

 • Cyfeiriadedd rhywiol

 Mae'r Cyngor hefyd yn casglu data ar statws unigolion sy'n gyn-filwyr a'r rheiny sydd â chyfrifoldebau gofalu er mwyn cynnig cymorth wedi'i dargedu i'r grwpiau yma lle bo angen, ac i'n helpu ni i fodloni ein hymrwymiadau i Gyfamod y Lluoedd Arfog, a dod yn Weithle Cyfeillgar i Gynhalwyr.

Pwrpas casglu data Monitro Cydraddoldeb yw gwella gwasanaethau'r Cyngor. Bydd casglu data cydraddoldeb sydd wedi'i dargedu yn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ac yn ein helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau'n hygyrch ac yn addas i'w defnyddio. Mae'r broses hefyd yn gallu cael ei defnyddio er mwyn nodi unrhyw anghysondebau o ran hygyrchedd i ddarpariaeth gwasanaethau, er enghraifft, os yw data’n dangos bod pobl â nodwedd warchodedig benodol (e.e. anabledd) ddim yn defnyddio un o’n gwasanaethau neu ein hadeiladau, mae modd i ni ddechrau ymchwilio i ddeall pam (e.e. mynediad hygyrch, rampiau ac ati) a chymryd y camau angenrheidiol i'w wella.

Mae'r un egwyddorion yn berthnasol yn fewnol wrth ystyried lefelau staffio mewn gwahanol feysydd ac adrannau. Gall deall pam fod gyda ni niferoedd anghymesur o isel neu uchel o un neu ragor o nodweddion gwarchodedig mewn maes penodol ein helpu ni i ddod yn weithle mwy cynhwysol ac amrywiol.

Mae Monitro Cydraddoldeb yn:

• hanfodol i'r Cyngor wella'n barhaus a bod yn gynyddol gynhwysol

• dydy hi ddim yn groes i gyfreithiau'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac mae cymryd rhan yn gwbl ddewisol, ac mae'r holl ddata yn cael ei storio'n ddi-enw

• allweddol i wella gwasanaethau'r Cyngor a'u gwneud yn fwy hygyrch i bawb

Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw beth o'r cynnwys uchod, e-bostiwch Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cyngor ar Cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 444529.