Mae'r Swyddfa Dywydd wedi newid ei rhybydd tywydd o law trwm i un AMBR ar gyfer dydd Gwener 14 Tachwedd, ac wedi enwi'r tywydd garw sydd ar ddod yn Storm Claudia.
Dyma'r PUMED rhybudd tywydd o law mewn llai na phythefnos, ac rydyn ni'n cynghori trigolion a busnesau i baratoi ymlaen llaw ar gyfer llifogydd a tharfu posibl, yn enwedig mewn ardaloedd y mae glaw trwm wedi effeithio arnyn nhw yn flaenorol.
Mae rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd cyfnodau o law yn datblygu nos Iau, gan droi'n gyfnodau hir o law trwm trwy gydol dydd Gwener, ac mae disgwyl i'r tywydd gwaethaf gyrraedd rhwng prynhawn/nos Wener a bore Sadwrn.
Rydyn ni wedi cael cyfnod sylweddol o law yn ddiweddar felly mae'r tir yn wlyb iawn ac mae lefelau afonydd yn uwch na'u lefelau arferol yn barod. Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd o lifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod Storm Claudia.
Mae'n bosibl iawn y bydd de-ddwyrain Cymru yn cael dros 100 milimedr o law. Dyma law sylweddol a allai arwain at effaith o ran dŵr wyneb a llifogydd o afonydd.
Mae perygl llifogydd cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi newid i lefel GANOLIG, sy’n golygu bod llifogydd yn debygol. Mae gwybodaeth o’r Ganolfan Darogan Llifogydd yn awgrymu y gallai’r effaith fod yn ddifrifol, sy’n golygu y dylai trigolion a busnesau baratoi yn unol â hyn.
Cyngor i Drigolion a Busnesau
- Gwiriwch a yw'ch eiddo mewn perygl o lifogydd a pharatowch gynllun llifogydd os bydd angen.
- Os ydych chi wedi wynebu llifogydd yn flaenorol, sicrhewch fod dogfennau pwysig a phethau gwerthfawr yn cael eu storio’n ddiogel.
- Gwiriwch a gosodwch lifddorau ac amddiffynfeydd rhag llifogydd os oes gan eich eiddo un, yn enwedig cyn i chi fynd i'r gwely nos Iau a nos Wener.
- Osgowch deithiau diangen yn ystod y cyfnodau trymaf o law gan y dylid disgwyl llifogydd dŵr wyneb ar ffyrdd. Os oes rhaid teithio, neilltuwch amser ychwanegol a gwiriwch yr wybodaeth ddiweddaraf o ran y ffyrdd a threnau.
- Symudwch gerbydau o ardaloedd sydd wedi wynebu llifogydd yn flaenorol. Bydd meysydd parcio’r Cyngor ym Mhontypridd yn aros ar agor a fydd dim rhaid talu i barcio yno ddydd Gwener na dydd Sadwrn i helpu gyda hyn. Yn amodol ar amodau tywydd, mae’n bosibl y bydd raid cau maes parcio Heol y Weithfa Nwy.
- Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfrifon swyddogol y Swyddfa Dywydd, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyfoeth Naturiol Cymru.
- Cofrestrwch ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Prynwch fagiau tywod os ydych chi'n poeni am eich eiddo. Mae modd prynu/llenwi bagiau tywod yn safleoedd eich cwmnïau gwerthu nwyddau adeiladu lleol. Mae gan griwiau'r Cyngor tua 10,000 o fagiau tywod y bydd angen eu blaenoriaethu ar gyfer argyfyngau yn unig ac mewn achosion lle mae modd iddyn nhw ymateb.
Helpu ein criwiau
Mae ein criwiau a'n contractwyr yn gweithio'n galed iawn cyn ac yn ystod cyfnodau o dywydd garw – a hynny yn ystod oriau gwaith arferol a thu allan iddyn nhw. O ystyried yr achosion aml a dwys o dywydd garw yn ddiweddar, mae angen iddyn nhw ymateb i'r bygythiadau mwyaf brys wrth iddyn nhw ddigwydd. Mae modd i chi eu helpu nhw yn ystod y cyfnod yma trwy wneud ychydig o gamau bach:
- Clirio dail neu falurion o ddraeniau ar eich eiddo. Bydd clirio gorchuddion unrhyw ddraeniau neu gwteri y tu allan i'ch eiddo / ger eich eiddo, os yw'n ddiogel gwneud hynny, yn helpu ein criwiau'n fawr, ac yn lleihau perygl llifogydd wyneb. Mae modd gwneud hyn trwy wisgo menig neu drwy ddefnyddio padell lwch a brwsh.
- Rhoi gwybod am lifogyddtrwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein newydd sydd ar gael 24/7. Mae adroddiadau wedi'u hanfon trwy ein ffurflen ar-lein yn mynd yn uniongyrchol at ein criwiau'r rheng flaen, heb yr angen i fynd trwy ein Canolfan Gyswllt.
- Os oes gyda chi gwlfer preifat ar eich eiddo, gwiriwch a oes unrhyw rwystrau a chael gwared ar y rhain os yw'n ddiogel gwneud hynny, er mwyn lleihau perygl llifogydd.
Beth ydyn ni wedi'i wneud a beth ydyn ni'n ei wneud?
Rydyn ni'n deall pryderon y cyhoedd, ac rydyn ni'n mynd ati'n rhagweithiol i anfon criwiau, peiriannau a cherbydau i'r ardaloedd sy'n wynebu'r perygl mwyaf o lifogydd. Bydd ein criwiau a'n contractwyr yn gweithio trwy gydol cyfnod y rhybudd i ymateb i argyfyngau. Rydyn ni wedi cynyddu nifer y contractwyr a pheiriannau'n sylweddol, a hynny er mwyn helpu'r ymateb i lifogydd.
Bydd gweithwyr yn ein hystafell rheoli argyfyngau trwy gydol cyfnod Storm Claudia a bydd ein camerâu teledu cylch cyfyng a larymau ar gwlferi yn cael eu monitro, gyda'r wybodaeth yma'n cael ei throsglwyddo i griwiau'r rheng flaen i ymateb i broblemau.
Mae gweithwyr glanhau cwteri a rheoli cerbydau chwistrellu dŵr yn gweithio oriau estynedig i glirio draeniau o ganlyniad i gynnydd yn nifer y dail sy'n cwympo adeg yma'r flwyddyn sy'n cynyddu perygl llifogydd dŵr wyneb.
Byddwn ni’n defnyddio pympiau dŵr cyfeintiau mawr ochr yn ochr â Dŵr Cymru ym Mhontypridd ddydd Gwener. Dyma roi gwybod i drigolion a busnesau fod Pontypridd yn parhau i fod ar agor, ond byddwch yn effro i’r wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ein tudalen Facebook swyddogol (‘Cyngor Rhondda Cynon Taf’).
Afonydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu lefel perygl llifogydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf i lefel GANOLIG ar gyfer dydd Gwener a dydd Sadwrn, sy'n golygu bod disgwyl llifogydd. Dylai trigolion a busnesau sydd wedi profi llifogydd yn flaenorol baratoi ar gyfer hyn. Rhagor o wybodaeth, yma.
Mae modd cofrestru i dderbyn Rhybuddion Llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yma.
Rhoi gwybod i'r Cyngor
Os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser.
I roi gwybod am argyfyngau mewn perthynas â llifogydd i'r Cyngor, mae modd gwneud hyn trwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein sydd ar gael 24/7. Mae adroddiadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol at ein criwiau'r rheng flaen lle byddan nhw'n cael eu blaenoriaethu, heb yr angen i ffonio ein Canolfan Gyswllt.
Rhowch wybod am lifogydd, ar-lein
Rhowch wybod am lifogydd trwy ein Canolfan Gyswllt:
01443 425001 (Dydd Llun-Dydd Gwener 08:30-17:00)
01443 425011 (y tu allan i oriau swyddfa)
Peidiwch â chysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol mewn argyfwng.
Cyngor o ran Diogelwch
Dylai unigolion mewn eiddo a busnesau sydd ag amddiffynfeydd rhag llifogydd wirio eu hoffer a'i osod os bydd angen, neu fod yn barod i'w osod.
Dylai unigolion mewn eiddo sydd wedi wynebu llifogydd yn flaenorol, neu eiddo sydd mewn perygl o lifogydd, fod yn barod. Rhagor o wybodaeth am baratoi ar gyfer llifogydd, yma.
Peidiwch â theithio oni bai bod y daith yn angenrheidiol. Bydd amodau gyrru anodd, a dylid disgwyl glaw a llifogydd dŵr wyneb ar ffyrdd.
Os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser.
Manylion cyswllt defnyddiol
Dim trydan? Rhowch wybod am doriad trydan
Llifogydd o garthffos: Dŵr Cymru – 0800 052 0130
Argyfyngau Nwy: Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol - 0800 111 999
Llifogydd o afon: Cyfoeth Naturiol Cymru – 0300 065 3000
Wedi ei bostio ar 13/11/2025