Rydyn ni'n gweithio gyda llawer o sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol, yn ogystal â'n trigolion a'n cymunedau, er mwyn gwella bywydau'r rheiny sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, yn gweithio yma neu'n ymweld â'r sir. Mae rhai enghreifftiau isod.
Cafodd Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd werth £1.2 biliwn ac sydd â'r potensial i weddnewid economi de-ddwyrain Cymru.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn gasgliad o gyrff cyhoeddus sy'n cydweithio er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn ardal Cwm Taf, ac sy'n ymweld â nhw.
Cafodd
Partneriaeth Cymunedau Diogel eu sefydlu yn sgil Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a roddodd ddyletswydd statudol ar bob ardal Awdurdod Lleol gael Partneriaeth Cymunedau Diogel.
Consortiwm Canolbarth y De yw'r gwasanaeth gwella ysgolion sy'n gweithredu ar ran pum awdurdod lleol, sef Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.
Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf (BDCT) yn bartneriaeth amlasiantaeth sy'n gyfrifol am ddiogelu plant, pobl ifainc ac oedolion sydd mewn perygl yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn cynnig cymorth i deuluoedd ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf. Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn rhoi'r cymorth cywir i deuluoedd ar yr adeg gywir. Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar gynyddu
Hwb Diogelu Amlasiantaeth Cwm Taf yw'r un man cyswllt ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sydd am adrodd pryderon diogelu, ar draws Cwm Taf.
RhCT Gyda'n Gilydd yw dull blaengar y Cyngor ar gyfer ymgysylltu â'i drigolion a'i gymunedau, a gweithio gyda nhw, i ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau cynaliadwy yn y dyfodol.
Mae'r aelodau yn rhannu eu harbenigedd a'u hadnoddau i wella'r amrywiaeth o brofiadau celfyddydol sydd ar gael, ac ansawdd y profiadau hynny.
Prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yw Cadw'n Iach Gartref Cwm Taf.
Mae'r wefan dwristiaeth yma wedi cael ei chreu gan Bartneriaid Y Cymoedd Cyngor Blaenau Gwent, Cyngor Caerffili, Cyngor Merthyr Tudful, Cyngor Torfaen, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn rhan o ymgyrch marchnata Y Cymoedd.
Cynllun ar y cyd sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, Prifysgol De Cymru,Coleg Y Cymoedd a busnesau sydd wedi'u lleoli yn ardal Ystad
Ddiwydiannol Trefforest yw Twf Busnes Trefforest.
Dyma gynllun sy'n cael ei gynnal gan YMCA Pontypridd, Cymuned Artis, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Rhondda Cynon Taf
Cynllun ar y cyd sy'n cael ei gynnal gan sefydliadau cyhoeddus/preifat gan gynnwys Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyngor Merthyr Tudful, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Capita plc.
Sefydliad di-elw sy'n gyfrifol am fuddsoddi mewn gwelliannau ar gyfer Tref Pontypridd yw Your Pontypridd Ltd.
Ers 1 Ebrill 2019 mae gwasanaeth Archwilio Mewnol estynedig wedi'i ffurfio, gan gyfuno gwasanaethau carfanau Archwilio Mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'r gwasanaethau oedd eisoes yn bodoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg.