Skip to main content

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg (BGC) yn Fwrdd ar y Cyd newydd sy'n cynnwys casgliad o gyrff cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i wella llesiant diwylliannol, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld ag ardaloedd Cwm Taf, sef Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.

Dros y ddwy flynedd cyn mis Mai 2023, bu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf, mewn cydweithrediad â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr, yn siarad â phobl a chymunedau am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw a'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu. Cafodd y canfyddiadau yma eu defnyddio i ysgrifennu asesiad llesiant ar gyfer rhanbarth ehangach Cwm Taf Morgannwg a datblygu Cynllun Llesiant newydd ar gyfer 2023-28, sef 'Cwm Taf Morgannwg Fwy Cyfartal'. Yn Rhondda Cynon Taf, cafodd y Cynllun ei nodi a'i gymeradwyo mewn cyfarfod o'r Cyngor ym mis Mawrth 2023, yn dilyn trafodaeth gan y Cabinet, hefyd ym mis Mawrth. Mae ‘Cwm Taf Morgannwg Fwy Cyfartal' yn nodi dau Amcan Llesiant ar gyfer y rhanbarth

  1. Cymdogaethau lleol iach
  2. Cymdogaethau lleol cynaliadwy a chydnerth

Cafodd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eu sefydlu o dan Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ymhlith pethau eraill, mae'r Ddeddf hefyd yn nodi saith nod llesiant cenedlaethol y mae’n RHAID i bob Corff Cyhoeddus gydweithio i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn dod â chyn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr ynghyd. Cafodd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg newydd ei gynnal ar 18 Mai 2023. 

Dyma nodau'r Bwrdd:

  • Gwella ansawdd bywyd a deilliannau i ddinasyddion Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful (ardal Cwm Taf).
  • Darparu arweinyddiaeth ar y cyd, sy'n rhagweithiol ac yn mynd i'r afael â'r materion mwyaf heriol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus o ran cynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau ar gyfer dinasyddion Cwm Taf.
  • Ysgogi deialog, cyd-drefnu a chydweithredu rhwng sefydliadau'r sector cyhoeddus lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn gwella ac integreiddio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i'r dinesydd.
  • Dileu “atalfeydd” neu rwystrau eraill gan leihau biwrocratiaeth ac effeithiolrwydd ataliol y ffiniau sefydliadol.
  • Dathlu llwyddiant o ran darparu gwasanaethau ar gyfer dinasyddion Cwm Taf.
  • Ystyried ‘gwerth gorau’ a doethineb o ran defnyddio adnoddau gwasanaethau cyhoeddus ac archwilio meysydd lle bydd cydweithio/integreiddio yn darparu mwy o effeithlonrwydd a deilliannau gwell.
  • Cyfle i ddinasyddion ddylanwadu ar sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

Mae Cynllun Llesiant blaenorol Cwm Taf ar gyfer 2018 – 2023 yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer cyn Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf, a darparodd y Bwrdd ddiweddariadau blynyddol ar y cynnydd a wnaed, ym mis Gorffennaf 2019, 2020 a 2021. Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg