Skip to main content

Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol

Caiff Gwasanaeth Archwilio Mewnol y Cyngor ei ddarparu'n rhan o wasanaeth Archwilio a rennir a ddaeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 2019.  Mae'r gwasanaeth a rennir yma'n cynnwys Cynghorau Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf a chaiff ei adnabod fel y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol (RIAS).

Mae RIAS yn cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac mae’n darparu gwasanaethau archwilio mewnol i'w bedwar Awdurdod Lleol (ALl).  Mae cytundeb cyfreithiol manwl yn sail i'r trefniant rhwng y pedwar ALl sy'n nodi ystod o rwymedigaethau.  Mae RIAS yn adrodd i bob un o'r pedwar Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a chaiff ei oruchwylio ar lefel strategol gan Fwrdd Rheoli o Swyddogion Adran 151 sy'n cynnwys Prif Swyddogion Cyllid y pedwar Cyngor.

Mae Archwilio Mewnol yn swyddogaeth sicrwydd sy'n bennaf yn rhoi barn annibynnol a gwrthrychol i reolwyr ac Aelodau etholedig ar yr amgylchedd rheoli sy'n cynnwys rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu, a hynny drwy werthuso ei effeithiolrwydd wrth gyflawni amcanion y Cyngor.  Mae RIAS yn annibynnol ar y gwaith y mae'n ei archwilio, gan roi dyfarniadau diduedd i reolwyr.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol neu’r Rheolwr Archwilio:

Andrew Wathan
Pennaeth Gwasanaeth Archwilio Rhanbarthol
ffôn: 07355 022372
Lisa Cumpston
Rheolwr Archwilio
tel / ffôn: 07874 635235