Browser does not support script.
Mae'r etholiadau lleol yn cael eu cynnal ddydd Iau 5 Mai 2022.
Byddan nhw'n cynnwys etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac etholiadau Cynghorau Cymuned mewn rhai llefydd. Bydd y bobl sy'n cael eu hethol yn cynrychioli eu hardal ac yn gwasanaethu tymor o BUM mlynedd
Bellach, mae gyda PHOB preswylydd 16 oed neu'n hŷn sydd wedi’i gofrestru’n gyfreithiol yr hawl i bleidleisio yng Nghymru – cofrestrwch yma.
Mae'n bosibl bod pethau wedi newid ers i chi bleidleisio ddiwethaf, felly gwiriwch i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf gyda chi.
Mae ein Carfan Etholiadau wedi anfon llythyrau i bob cartref yn RhCT, felly gwiriwch eich bod chi ar ein cofrestr etholiadol a bod yr holl fanylion yn gywir.