Skip to main content

Adolygiad o ddosbarthau etholiadol, mannau pleidleisio a gorsafoedd pleideisio 2023

Mae'n ddyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i rannu ardal yr awdurdod lleol yn ddosbarthau etholiadol ac i ddynodi man pleidleisio ar gyfer pob dosbarth pleidleisio. Rhaid iddo adolygu'r trefniadau yma o bryd i'w gilydd hefyd.

Er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol mae'n ofynnol i'r Cyngor gwblhau adolygiad llawn o'r holl ddosbarthau etholiadol a mannau pleidleisio bob pum mlynedd. Serch hynny, bydd hawl i gyflwyno newidiadau ar unrhyw adeg cyn yr adolygiad nesaf.

Mae'r trefniadau ar gyfer etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer pob etholiad a refferendwm arall.

Byddwn ni'n cynnal yr ymgynghoriad yma ar y ffiniau Etholiadol newydd a fydd yn dod i rym yn ystod Etholiad Cyffredinol Senedd y DU nesaf.

Beth yw Dosbarth Etholiadol?

Mae dosbarth etholiadol yn ardal ddaearyddol. Yn ôl y ddeddfwriaeth, rhaid i bob cymuned fod yn ddosbarth etholiadol ar wahân. Os yw'r gymuned yn un fawr, ac er mwyn darparu mynediad hawdd, mae modd, o bosibl, rannu'r gymuned yn ddosbarthau etholiadol llai.

Beth yw Man Pleidleisio?

Man pleidleisio yw'r ardal ddaearyddol lle mae'r gorsafoedd pleidleisio wedi'u lleoli. Rhaid pennu man pleidleisio mewn dosbarth etholiadol fel bod gorsafoedd pleidleisio yn hawdd i'r holl etholwyr eu cyrraedd o bob cwr o'r dosbarth etholiadol. Gall ardal ddaearyddol fod yn adeilad penodol neu'n ddosbarth etholiadol cyfan.

Beth yw Gorsaf Bleidleisio?

Gorsaf bleidleisio yw'r union fan lle mae'r broses bleidleisio yn digwydd, e.e. ystafell mewn canolfan gymuned neu ysgol.

Sut mae'r adolygiad yn cael ei gynnal

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi pryd bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal ac yn ymgynghori mor eang â phosibl.

Bydd gofyn i'r Swyddog Canlyniadau, ynghyd ag unrhyw Swyddogion Canlyniadau cyfagos (lle bo hynny'n briodol), roi adroddiad o'r trefniadau presennol. Byddan nhw hefyd yn rhoi sylwadau ar y gorsafaoedd pleidleisio presennol sy'n cael eu defnyddio.

Beth sydd ddim yn rhan o'r adolygiad?

Fydd ffiniau etholaethau seneddol, ffiniau etholaethau'r cynulliad na ffiniau ac enw'r awdurdod lleol neu'i wardiau etholiadol ddim yn rhan o'r broses adolygu.

Single-integrated-plan
Gweld amserlen yr arolwg a dogfennau ategol
Campaigns
Cyflwyno eich sylwadau ar yr adolygiad o orsaf bleidleisio