Skip to main content

Bara Fflat Dragon's Breath

 

Cynhwysion

166g o gymysgedd toes pizza / bara

100ml o ddŵr

Topin

500g o domatos (wedi'u haneru)

3 ewin garlleg (wedi'u malu)

1 bwnsiad o deim ffres

Chwarter peint o olew olewydd

250g o  chorizo ​​(wedi'i ffrio)

30g o gaws Cheddar Dragon's Breath

1.     Gwnewch y cymysgedd toes ar gyfer y bara fflat trwy ychwanegu'r dŵr yn araf i osgoi unrhyw lympiau yn y toes

2.     Leiniwch dun crwn â phapur gwrthsaim er mwyn atal y toes rhag glynu wrth waelod y tun

3.     Rhowch y toes i ffitio eich tun crwn, a gwnewch dyllau bach yn y toes â fforc

5.     Gorchuddiwch y toes gyda'r cymysgedd tomato

6.     Ychwanegwch gaws Dragon's Breath a'r chorizo

7.     Pobwch yn y ffwrn nes bod y bara wedi codi'n dda ac ychydig yn frown

8.     Torrwch y bara yn 4 rhan a'i weini â salad cymysg