Skip to main content

Pys Llygod wedi'u coginio yn null Gogledd Affrica

 

Cynhwysion, digon i 4 person

  • 2 lwy fwrdd o olew olewydd

  • Hanner winwnsyn mawr, wedi'i dorri'n fras

  • Hanner aubergine

  • 1  ewin garlleg wedi'i dorri'n ddarnau bychain

  • Llond llaw o ddail sbigoglys

  • 100g o bupurau wedi'u deisio

  • 2 lwy fwrdd o gymysgedd sbeislyd

  • Hanner tun 400g o domatos wedi'u torri

  • 200g o bys llygod, wedi'u rinsio a'u draenio

  • 50g o fricyll / datys / syltanas / llugaeron wedi'u sychu

  • 600ml o stoc llysiau

2 lond llaw mawr o goriander, wedi'i dorri'n fras

Dull

  1. Cynheswch yr olew mewn padell nad yw'n glynu ac ychwanegwch y garlleg, y winwnsyn a'r pupurau a'u coginio am 1 neu 2 funud nes eu bod yn feddal. Yna, ychwanegwch yr aubergine a'i goginio am ychydig funudau pellach. Ychwanegwch y sbeisys a'r tomatos, a rhowch ychydig o halen a phupur. Ychwanegwch y pys llygod a'r bricyll. Arllwyswch y stoc dros y cyfan. Trowch y cymysgedd a'i fudferwi, ac yna ychwanegwch y sbigoglys. Gorchuddiwch y badell a mudferwch y cymysgedd nes bod popeth yn feddal. Cyn gweini, ychwanegwch goriander.

Past Sbeisys Gogledd Affrica

  • 1 llwy de o bowdr paprika melys

  • 1 llwy de o garam masala

  • 1 llwy de o gwmin wedi'i falu

  • 1 llwy de o hadau cwmin wedi'u rhostio

  • 1 pinsiad o sinamon

  • 1 llwy de o goriander wedi'i falu

  • 1 llwy de o bast/powdr tsili

  • 1 llwy fwrdd o fêl

  • Diferyn o olew llysiau

  • 4 ewin garlleg wedi'u torri'n ddarnau bychain

Cynheswch yr olew mewn sosban ac ychwanegwch y garlleg. Ychwanegwch weddill y cynhwysion ac ychydig o ddŵr (tua 3 llwy fwrdd), trowch y cymysgedd a'i goginio am 15 munud ar wres isel (peidiwch â gadael i'r cymysgedd losgi)