Skip to main content

Ymchwilio i Dwyll

Mae gan y Cyngor garfan Twyll Corfforaethol benodol sydd â'r rôl o sicrhau cywirdeb a diogelwch ariannol yn ogystal â chynnal ymchwiliadau ar gyfer atal a datrys troseddau. Mae ei chylch gwaith yn pwysleisio Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygru y Cyngor. 

Mae modd gweld y strategaeth trwy glicio ar y ddolen ganlynol - Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygru

Mae gofyniad i'r Cyngor amddiffyn y cyllid mae'n ei weinyddu ac, er mwyn gwneud hyn, gynnal ymarferion paru data yn rheolaidd rhwng adrannau'r Cyngor yn ogystal â sefydliadau allanol, fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) neu gynghorau eraill. Am ragor o wybodaeth am hyn, cliciwch ar y ddolen ganlynol; Ymchwiliad Twyll Cenedlaethol

Dyma rai mathau o dwyll sy'n gallu digwydd:

Twyll Refeniw/Gostyngiadau Treth y Cyngor

Mae'n ddyletswydd ar y Cyngor i weithredu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor a sicrhau mai dim ond y rheiny sy'n gymwys i gael cymorth sy'n ei gael.

Gall Twyll Refeniw/Gostyngiadau Treth y Cyngor gynnwys y pethau canlynol;

Methu â datgelu eiddo/cyfalaf: Pan fydd hawliwr yn methu â datgelu cynilon/cyfalaf neu ei fod yn berchen ar eiddo/tir mewn man arall.

Methu â datgelu incwm: Pan fydd hawliwr yn methu â datgelu'i incwm cywir er mwyn cynyddu'r cymorth ariannol i'w roi iddo.

Methu â datgelu partner (Byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig): Pan fydd hawliwr yn methu â datgelu bod partner yn byw yn yr un cyfeiriad, felly, dyw e ddim yn cynnwys incwm a chyfalaf y partner ar gyfer asesiad gostyngiad/disgownt.

Methu â datgelu pobl annibynnol a/neu is-denantiaid: Pan fydd hawliwr yn methu â datgelu oedolion eraill sy'n byw yn y tŷ, er mwyn cadw'r hawl i gael gostyngiad/disgownt.

Tenantiaethau ffug: Pan fydd perchennog tŷ yn peidio â dweud ei fod yn berchen ar y tŷ ac yn honni ei fod yn talu rhent i fyw yn ei dŷ ei hunan. Fel arfer, bydd yn rhoi enw landlord ffug er mwyn cyflawni hyn. Gall hyn hefyd gynnwys hawlio ar gyfer cyfeiriad dydy e ddim yn byw ynddo. Gall y math yma o drosedd gynnwys cydgynllwynio rhwng landlord a/neu denantiaid eraill.

Methu â datgan newid cyfeiriad: Pan fydd hawliwr yn parhau i gael gostyngiad neu ddisgownt ar ei fil Treth y Cyngor ar gyfer yr eiddo mae e wedi ei adael.

Twyll Siec: Gall hyn gynnwys;

  • addasu siec er mwyn cynyddu ei werth
  • esgus ei fod heb gael siec, neu fod y siec wedi mynd ar goll, ar ôl iddo gael y siec a'r arian sy'n ddyledus.

Mathau Eraill o Dwyll

Dyma rai enghreifftiau:

Twyll grant adnewyddu tŷ: Pan fydd unigolyn yn sicrhau neu'n ceisio sicrhau gwaith adnewyddu ar gyfer ei eiddo, drwy gymorth ariannol, ond yn methu â datgelu ffeithiau neu ei incwm cywir.

Twyll yswiriant: Pan fydd unigolyn yn hawlio yn erbyn yr awdurdod am golled ariannol neu ddamwain/anaf sydd heb ddigwydd, neu'n gorliwio'r hyn sydd wedi digwydd.

Twyll Taliad Uniongyrchol (ffi gofal): Pan fydd unigolyn yn derbyn cymorth ariannol i drefnu gofal ar ei gyfer ei hun neu ar gyfer rhywun arall, ond yn methu â datgelu ei amgylchiadau ariannol cywir.

Os ydych chi'n amau bod twyll neu weithgaredd amhriodol wedi digwydd mewn perthynas â'r isod, rydyn ni'n eich annog chi i roi gwybod i'r Cyngor am hyn drwy ein trefniadau Chwythu'r Chwiban:

Twyll caffael: Sicrhau caffael gwasanaethau gan y Cyngor mewn modd diegwyddor, drwy gymhelliad ariannol, gwybodaeth fewnol, gorfodaeth neu fel arall.

Twyll gweithiwr: Achosion o dwyll, sy'n ymwneud â gweithwyr y Cyngor yn erbyn y Cyngor, er enghraifft, dwyn nwyddau/gwasanaethau'r Cyngor neu dwyll ‘colli amser’.

Adrodd achos o dwyll a amheuir

Er mwyn rhoi gwybod i ni am rywun a allai fod yn cyflawni twyll, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Gallwch ddewis peidio â rhoi eich enw. Serch hynny, efallai y bydd eich manylion personol yn ein helpu ni i ymchwilio i'r achos o dwyll honedig. Fyddwn ni ddim yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall heb eich caniatâd.

Rhowch wybod i ni am achosion o dwyll posibl gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Corggoraethol Atal Twyll:

 Corfforaethol Atal Twyll Rhondda Cynon Taf

‘Ty Oldway’,
Porth
CF39 9ST

Ffôn: 01443 680508