Skip to main content

Cynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm Aberpennar

 

Mae'r Cyngor bellach wedi cyflawni'i ymrwymiad i ddarparu Cynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm gwerth miliynau o bunnoedd, er mwyn gwella llif y traffig yn Aberpennar ac ardal ehangach Cwm Cynon. Agorwyd y ffordd gyswllt o Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon i Heol Meisgyn, sy'n ymestyn dros yr Afon Cynon a'r rheilffordd Aberdâr i Gaerdydd, i fodurwyr, beicwyr a cherddwyr ar 16 Hydref, 2020.

Mae'r fideo yma'n dangos cerbydau'n defnyddio'r ffordd gyswllt newydd am y tro cyntaf ar 16 Hydref, 2020.

Cafodd hyn ei gyflawni trwy adeiladu pont 60 metr newydd, yn cysylltu traffig ar yr A4059 (sef y prif lwybr trwy Gwm Cynon), a'r B4275 ar ochr arall yr afon. Mae hyn o fudd i'r miloedd o bobl sy'n defnyddio'r ffyrdd bob dydd, yn enwedig yn ystod yr amseroedd teithio prysuraf.

Cafodd nifer o gynlluniau gwella mawr eu cyflawni cyn prif gyfnod adeiladu'r cynllun, a ddechreuodd yn Haf 2018. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i'r ffordd gerbydau ar Heol Caerdydd, gwaith sylweddol ar gyffordd yr A4059 i wella ei chapasiti, adeiladu waliau cynnal ar hyd Heol Caerdydd, a gwaith dymchwel ym Mythynnod y Meisgyn. Mae rhagor o wybodaeth isod.

Mae'r Contractwr Walters-Sisk yn parhau i weithio ar y safle ehangach yn yr wythnosau ar ôl agor y ffordd - gan gynnwys gwaith i ailagor Llwybr Cwm Cynon.

Cafodd y cynllun ei ariannu yn rhan o Raglen #buddsoddiadRhCT, ac mae hefyd wedi derbyn nawdd sylweddol gan Lywodraeth Cymru trwy nifer o grantiau.

Mae'r montage yma o ffotograffau'n dangos y cynnydd sydd wedi'i wneud ar y Cynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn ystod y prif gyfnod adeiladu, a ddechreuodd ym mis Mai 2018.

Cerrig milltir mawr trwy gydol y cynllun

Heol Meisgyn/Heol Penrhiwceiber – bellach ar agor

Miskin Road1
Miskin Road 2 x
Penrhiwceiber Road1

Ailagorodd Heol Penrhiwceiber a Heol Meisgyn i draffig ar 30 Awst 2020. Cafodd gwaith ailwynebu 200m yn ychwanegol o Heol Penrhwiceiber, i'r de o safle'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, hefyd ei gwblhau.

Gwaith yn ystod gwyliau'r haf 2020

Cross Valley 1
Cross Valley 2
Cross Valley 3

Bydd gwaith sylweddol (sy'n cynnwys cau ffordd ar Heol Penrhiwceibr) yn caniatáu i Heol Meisgyn ailagor erbyn diwedd mis Awst ac yn cyflawni gwelliannau pwysig yn Stryd Glyngwyn - Darllenwch ragor yma...

Arllwys concrit ar lawr y bont

Dec 2019 update1
Dec-2019-update
Concrete Pour main

Dechreuodd y gwaith sylweddol o arllwys concrit ar lawr y bont yn ystod dechrau mis Rhagfyr 2019. Cafodd dros 350m3 o goncrit ei ddefnyddio. Darllenwch ragor...

Gosod trawstiau'r bont

Beams-installed1
Beams-installed2
Beams-installed3

Yn rhan o waith a gafodd ei gyflawni dros benwythnos ym Medi 2019, cafodd chwe phâr o drawstiau pont mawr eu gosod dros yr afon a'r rheilffordd. Darllen rhagor...

Gwaith gwyliau'r haf 2019

IMAGE 2
IMAGE 3
IMAGE 4

Oherwydd gwaith adeiladu wal gynnal a gwaith pellach ar yr ardal barcio yn Stryd Glyngwyn, bydd Heol Penrhiw-ceibr ar gau. Rydyn ni wedi trefnu hyn yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn lleihau aflonyddwch. Darllen rhagor...

Prif gyfnod adeiladu

1. OCT 2018 - sod cutting
1. OCT 2018 - sod cutting 4
1. OCT 2018 - sod cutting 5

Cafodd seremoni torri'r dywarchen ei chynnal ym mis Hydref 2018, i nodi dechrau'r prif gyfnod adeiladu. Roedd hyn yn dilyn clirio'r safleoedd ar ddwy ochr yr afon, gosod rig a chloddio hyd at lefel y rheilffordd.

Gwelliannau i gyffordd yr A4059

2. JUNE 2018 - A4059 complete 2
2. JUNE 2018 - A4059 complete 3
2. JUNE 2018 - A4059 complete 6

Cafodd gwelliannau sylweddol eu cwblhau i gyffordd yr A4059/Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon ym Mai 2018, a chafodd goleuadau traffig newydd eu comisiynu. Mae'r gwaith mawr wedi cynyddu capasiti'r gyffordd yn sylweddol.

Arddangosfeydd cyhoeddus ar gyfer cyfyngiadau traffig

3. MAY 2018 exhibition 2
3. MAY 2018 exhibition 3
3. MAY 2018 exhibition

Cynhaliodd y Cyngor arddangosfa gyhoeddus yn Eglwys Bedyddwyr y Meisgyn i arddangos y trefniadau traffig angenrheidiol ar gyfer prif gyfnod adeiladu'r cynllun, a'r trefniadau parhaol ar ôl ei gwblhau.

Wal gynnal ar Heol Caerdydd

4. JAN 2018 retaining wall
4. FEB 2018 retaining wall
4. JUNE 2018 retaining wall

Cafodd wal gynnal newydd ei hadeiladu ar Heol Caerdydd fel rhan o waith cyffordd yr A4059. Mae'r lluniau yn dangos y wal yn ystod gwahanol gyfnodau'r adeiladu trwy gydol hanner cyntaf 2018 - ym mis Ionawr, Chwefror a Mehefin.

Dymchwel Bythynnod y Meisgyn

5. NOV 2017 miskin cottages demolition (4)
5. OCT 2017 - miskin cottages demolition (1)
5. OCT 2017 - miskin cottages demolition (2)

Er mwyn paratoi ar gyfer y cynllun, cwblhaodd y Cyngor bryniant gorfodol ar ddau adeilad ym Mythynnod y Meisgyn, er mwyn eu dymchwel. Cafodd y ddau adeilad eu dymchwel dros chwe wythnos, yn ystod Hydref a Thachwedd 2017.

Gwelliannau sylweddol i Heol Caerdydd

6. OCT 2017 - Cardiff Road Mountain Ash -12
6. OCT 2017 - Cardiff Road Mountain Ash 13
6. OCT 2017 - Cardiff Road Mountain Ash 14

Cafodd cynllun mawr i wella'r adran o Heol Caerdydd sydd agosaf at yr Ystad Ddiwydiannol ei gwblhau yn ystod Hydref 2017. Cyflawnodd y gwaith gynllun ffordd gerbydau newydd yn ogystal ag ail-wynebu'r ffordd a goleuadau stryd newydd.

Ffin y Safle

Cafodd y llun yma ei gymryd ym mis Mai 2017, yn fuan cyn i'r gwaith ddechrau. Mae'n dangos mwyafrif y safle gwaith gan gynnwys cyffordd yr A4059, Heol Caerdydd ac Ystâd Ddiwydiannol Cwm Cynon.

7. MAY 2017 - before project