Skip to main content

Y Priffyrdd a Pheirianneg

 
Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cyflawni rhaglen gyfalaf fawr ar gyfer y Priffyrdd a Pheirianneg. Mae hyn yn cynrychioli elfen fawr o fuddsoddiad Trawsnewid RhCT. Ar ôl iddo gael ei gytuno ym mis Mawrth 2026, mae dyraniad 2026/27 gwerth £41.9 miliwn, ac mae hyn yn dilyn rhaglen waith gwerth mwy na £37 miliwn a gafodd ei chyflawni'r llynedd.

Mae cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ychwanegu at y rhaglen, sy'n cynnwys nifer o feysydd buddsoddi – o osod wyneb newydd ar ffyrdd a llwybrau troed i ddarparu cyllid ar gyfer lliniaru llifogydd, cynnal a chadw tomenni glo, strwythurau priffyrdd a strwythurau parciau, meysydd parcio a theithio llesol. Rydyn ni hefyd yn parhau i ddatblygu 2 gynllun trafnidiaeth mawr ar gyfer y dyfodol, sef Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan a Choridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon.

Mae manylion pellach gwahanol ddyraniadau cyllido'r Cyngor a Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 ar gael trwy'r dolenni isod:

Rhaglen gyfalaf priffyrdd y Cyngor wedi'i chytuno ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod (Mawrth 2026)

Croesawu cyllid trafnidiaeth ar gyfer prosiectau ledled Rhondda Cynon Taf (Marwth 2026)

Cyllid pwysig ar gyfer safleoedd tomenni glo wedi'i gadarnhau ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod (Mawrth 2026)

Cyllid lliniaru llifogydd sylweddol wedi'i ddyrannu i Rondda Cynon Taf (Mawrth 2026)

Dyma rai agweddau allweddol ar fuddsoddiad eleni (2026/27):

  • Cyllid gwerth dros £5.8 miliwn ar gyfer cynlluniau gosod wyneb newydd ar y ffordd, gyda 77 o gynlluniau wedi'u cytuno ym mis Mawrth 2026. Bydd 2 gynllun ffyrdd heb eu mabwysiadu newydd hefyd yn cael eu cyflawni yn Aberaman a Threalaw gan fanteisio ar gyllid y Cyngor.
  • Cyllid gwerth dros £565,000 ar gyfer cynlluniau adnewyddu llwybrau troed, gyda 10 cynllun wedi'u cytuno ym mis Mawrth 2026.
  • Gyda chefnogaeth eto gan Lywodraeth Cymru, bydd cynllun newydd llwybrau diogel ar gyfer Pen-y-waun yn dilyn y gwaith sy'n mynd rhagddo i gyflawni cynllun Llwybrau Diogel Cwm-parc, gan ddefnyddio cyllid 2025/26.
  • Porth Gogledd Pontypridd (i wella mynediad i orsaf fysiau Pontypridd a chysylltiadau lleol), datblygiadau teithio llesol, ac addysg, hyfforddiant a hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gefn i bob un o'r rhain hefyd
  • Dros £4 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd trwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach a'r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae'r Cyngor yn rhoi cyllid cyfatebol, sef 15% fel arfer, ar gyfer yr holl waith sy’n cael ei gynnal yn rhan o’r rhaglenni yma. Mae'r lluniau isod yn dangos cynllun a gafodd ei gwblhau yn 2025/26, yn Heol Penrhys yn Ystrad.

Penrhys Road

  • Dros £12 miliwn ar gyfer strwythurau priffyrdd, £420,000 ar gyfer strwythurau parciau, a £260,000 ar gyfer goleuadau stryd. Yn y llun mae'r prosiect strwythurau mawr yn y Bont Wen, Pontypridd, a gafodd ei gwblhau yn 2024/25 a'i gydnabod yng Ngwobrau Sefydliad y Peirianwyr Sifil: Cymru.

White Bridge completed

  • Cyllid gwerth £500,000 ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio, gan greu lleoedd parcio ychwanegol mewn gorsafoedd rheilffyrdd.

Enghraifft o hyn yw prosiect Parcio a Theithio Treorci a gafodd ei gwblhau yn 2025 (gweler y fideo). Cafodd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Cam 3 Cynllun Parcio a Theithio'r Porth ei sicrhau ym mis Mawrth 2026.

Mae'r lluniau isod yn dangos rhannau o Gam 4, a gafodd ei gyflawni yn ystod haf 2025:


Rhondda Fach phase four grid

  • Gwaith parhaus i ddatblygu 2 gynllun trafnidiaeth mawr ar gyfer y dyfodol. Mae cyllid y Cyngor yn 2026/27 wedi'i ddyrannu i Goridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan (£4.5 miliwn)a'r A465, Porth Gogledd Cwm Cynon (£603,000). Yn ogystal â hyn, mae cyllid ychwanegol wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

Corridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn cyrraedd carreg filltir bwysig (Mawrth 2026)

Miliynau o bunnoedd ar y ffordd i Goridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon (Marwth 2026)

Transport schemes 1

  • Dros £13.7 miliwn wedi'i sicrhau drwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru, i fonitro a chynnal a chadw tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn 2026/27. Mae hyn yn cynnwys gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar domenni lleol, yn ogystal â pharhau â gwaith mawr proses adfer tirlithriad Tylorstown a datblygu cynllun Tomen Graig Ddu, Dinas

Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i gefnogi Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Metro De Cymru, a fydd yn trydaneiddio llinellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, a chynyddu amlder trenau.

Y diweddaraf am waith gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan