Skip to main content

Chwythu'r chwiban

Os ydych chi o'r farn bod un o weithwyr y Cyngor yn gwneud rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn ddrygioni difrifol, mae'r Cyngor eisiau cael gwybod am y mater.

Dyma rai enghreifftiau o achosion o ddrygioni difrifol:

  • Defnyddio adnoddau neu arian cyhoeddus mewn modd anghyfreithlon, llwgr neu afreolaidd.
  • Unrhyw fath o ymddygiad sy'n achosi perygl difrifol i iechyd y cyhoedd, i ddiogelwch, i'r amgylchedd neu i gynnal cyfraith.
  • Unrhyw dramgwydd troseddol.
  • Camreoli neu esgeuluster difrifol gan swyddogion cyhoeddus.
Noder: dim ond mewn perthynas â phryder am gamwedd difrifol gweithiwr Cyngor y dylid defnyddio'r ffurflen chwythu'r chwiban hon. Os yw eich pryder yn ymwneud â phroblem gyda gwasanaeth yn cael ei ddarparu neu gŵyn am sut mae gweithiwr cyngor wedi delio â chi'n bersonol neu dros y ffôn, yna dylid cofnodi hyn fel cwyn. Gweler ein gweithdrefn gwyno am ganllawiau pellach.

Codi mater

Os ydych chi eisiau mynegi pryder, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein. Dylech chi gynnwys cymaint o wybodaeth berthnasol ag sy'n bosibl, er enghraifft, dyddiadau, digwyddiadau a thystion.

  • Os bydd angen i'r swyddogion ymchwilio ofyn rhagor o gwestiynau yn rhan o'r gwaith ymchwilio, bydd angen iddyn nhw gysylltu â'r rhai sydd wedi mynegi pryder. Byddai'n syniad da i chi, felly, nodi eich manylion cyswllt. Fydd neb ond y swyddog ymchwilio perthnasol yn cael gweld eich manylion cyswllt.
  • Os ydych chi'n un o weithwyr y Cyngor, mae'r polisi a'r gweithdrefnau o ran chwythu'r chwiban ar gael ar fewnrwyd y Cyngor (‘Inform’). Mae'r ddogfen honno'n cynnwys arweiniad ar aros yn ddienw a chadw enwau'r rhai sy'n chwythu'r chwiban yn gyfrinachol.
Rhoi gwybod am bryderon ar-lein ynglŷn â gweithwyr y Cyngor.