Skip to main content

Rydyn ni'n barod ar gyfer Rasys Nos Galan

Bydd rhagor o fesurau diogelwch yn cael eu gweithredu eleni ar gyfer Rasys Nos Galan yn Aberpennar. O ganlyniad i'r mesurau yma, bydd rhaid cau ambell i ffordd dros dro. 

Rydyn ni'n rhagweld y bydd yna dorf o dros 10,000 o wylwyr a 1,700 o redwyr yn mwynhau'r awyrgylch unigryw yn yr achlysur byd enwog yma. 

Rasys Nos Galan 2017 fydd parti stryd mwyaf y flwyddyn yn Rhondda Cynon Taf.  

Er mwyn cwrdd â'r galw oherwydd y nifer fawr o ymwelwyr a fydd yn y dref, bydd gwasanaeth Parcio a Theithio Nos Galan ar gael unwaith eto. Bydd ail faes parcio ychwanegol yn cael ei sefydlu er mwyn lliniaru'r ffyrdd sydd wedi'u cau yn Oxford Street, Aberpennar - prif lwybr y rasys - gan ddechrau am 3.30pm. Bydd llwybrau amgen ar gael. 

Er mwyn hwyluso'r achlysur, byddwn ni'n cau rhai ffyrdd ar hyd Llanwonno Road, Cilhaul Terrace, High Street, Pryce Street a'r ardaloedd o'u hamgylch dros dro o 4.30pm ymlaen. Byddwn ni'n cau ffyrdd a bydd y ffyrdd yma'n cael eu rheoli gan Heddlu De Cymru ar y noson. 

Oherwydd y nifer fawr o bobl a fydd yn sefyll ar hyd llwybr y ras er mwyn croesawu Rhedwr Dirgel Nos Galon a fydd yn rhedeg o Eglwys Sant Gwynno, Llanwynno, i ganol y dref, bydd raid dargyfeirio traffig. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd y Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Oherwydd bod ein rasys ni wedi dod yn fwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni'n gweithio'n agos â Heddlu De Cymru trwy gydol y broses cynllunio ar gyfer achlysur mawr i'r teulu fel hyn. 

"Ar gyfer achlysur fel hyn, fydd ddim modd osgoi achosi aflonyddwch, ond rydyn ni'n gofyn i yrwyr a phreswylwyr fod yn amyneddgar a gwneud trefniadau teithio gwahanol ar gyfer noson Rasys Nos Galan. 

"Mae diogelwch yn flaenoriaeth i ni, ac rydyn ni'n parhau i weithio gyda Heddlu De Cymru er mwyn sicrhau bod rhagor o fesurau diogelwch yn cael eu gweithredu.

"Bydd hyn yn cynnwys cynyddu'r nifer y gweithwyr diogelwch a swyddogion yr heddlu sy'n bresennol, yn ogystal â gosod rhwystrau concrit ar hyd y ffyrdd ac yng nghanol y dref.

 "Rydyn ni'n edrych ymlaen at noson fendigedig arall, gyda miloedd o breswylwyr ac ymwelwyr yn dod i'r dref er mwyn cefnogi'r rhedwyr a mwynhau achlysur bythgofiadwy."

Rydyn ni'n argymell bod modurwyr yn sicrhau eu bod yn rhoi amser ychwanegol i deithio os ydyn nhw'n teithio i Aberpennar neu o gwmpas y dre. Rydyn ni hefyd yn argymell bod cystadleuwyr yn cyrraedd ymhell ymlaen llaw. 

Bydd y Rasys cyntaf i blant yn dechrau am 5.15pm a bydd Rhedwr Dirgel Nos Galan yn cyrraedd am 6.20pm. Bydd y Ras i'r Elit yn dechrau am 7pm, ac yna'r Ras Hwyl 5km i Oedolion am 7.30pm. 

Byddwn ni'n darparu gwasanaeth Parcio a Theithio AM DDIM ar Nos Galan eto eleni. Bydd bws gwennol ar gael bob 10-15 munud rhwng 3.30pm a 9.30pm ddydd Sul, 31 Rhagfyr.  

Bydd cyfleuster Parcio a Theithio wedi'i leoli yn Ysgol Gyfun Aberpennar, New Road, Aberpennar, CF45 4DG.  

Bydd y man gollwng a chasglu ar gyfer y cyfleuster Parcio a Theithio wedi'i leoli ger yr arhosfan bysiau sydd gyferbyn â Gwesty Aberdâr, Ffrwd Crescent, Aberpennar, CF45 4AB. Mae modd cerdded i ganol y dref o'r lleoliad yma. 

Cafodd yr achlysur ei sefydlu gan Bernard Baldwin MBE yn 1958, er cof am Guto Nyth Brân, rhedwr o Gymru. Caiff Rasys Nos Galan eu trefnu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, ar y cyd â Phwyllgor Nos Galan. 

Mae Rasys Nos Galan 2017 wedi'u noddi gan gwmni lleol Tom Prichard Ltd; Amgen, cwmni sy'n darparu gwasanaethau rheoli gwastraff i Rondda Cynon Taf; Trivallis, un o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mwyaf Cymru sy'n darparu cartrefi i filoedd o deuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol; a Chymuneda y'n Gyntaf.  

Dilynwch 'Nos Galan Races' ar Drydar a Facebook am yr wybodaeth ddiweddaraf. Neu ewch i www.nosgalan.co.uk

Am ragor o fanylion ffoniwch Garfan Achlysuron y Cyngor ar 01443 424123 neu e-bostio achlysuron@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Nodwch; mae pob categori yn llawn. Ni fydd modd cofrestru am y ras ar y noson. Chewch chi ddim trosglwyddo lleoedd mewn rasys i eraill. Os byddwch chi'n defnyddio rhif ras unigryw rhywun arall, cewch chi eich diarddel o'r ras.

 

Wedi ei bostio ar 08/12/17