Bydd Ffordd Mynydd y Maerdy ar gau drwy’r dydd ar ddydd Sul er mwyn i gontractwr gwblhau gwaith sy'n gysylltiedig â'r contract priffyrdd sylweddol a gafodd ei gwblhau dros yr haf.
Roedd y gwaith yma’n rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan y Cyngor er mwyn sefydlogi'r ffordd yn dilyn tirlithriad ger Aberdâr ym mis Rhagfyr 2015. Yn ogystal â hynny, gwnaethon nhw osod wyneb newydd ar y ffordd, adeiladu waliau cerrig sych newydd a chyflawni gwaith draenio.
Hefyd, roedd y cynllun yn cynnwys gwelliannau o ran diogelwch ar y ffyrdd, a gafodd eu hariannu gan Grant Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru.
Cafodd y prosiect heriol yma ei gyflawni o dan gontract dylunio ac adeiladu. Mae’r contractwr a oedd yn gyfrifol am y gwaith gwreiddiol hefyd yn gyfrifol am y gwaith ychwanegol yma, a bydd hyn ddim yn peri cost ychwanegol i'r Cyngor.
Bydd y ffordd ar gau am un diwrnod ddydd Sul 19 Tachwedd - ond bydd modd i gerbydau'r gwasanaethau argyfwng ei defnyddio.
Y nod yw ailagor y ffordd nos Sul, a bydd hyn ddim yn effeithio ar y cyfnod teithio prysuraf ar fore Llun.
Bydd arwyddion yn cyfeirio gyrrwyr at ffordd amgen tra bo'r ffordd ar gau.
Wedi ei bostio ar 17/11/2017