Skip to main content

Noddwyr Rasys Nos Galan

Mae’n bleser gan Gyngor Rhondda Cynon Taf Council a Phwyllgor Nos Galan gyhoeddi mai cwmni lleol Tom Pritchard Ltd fydd un o brif noddwyr yr achlysur eleni. 

Mae’r cwmni llogi offer a pheiriannau ar gyfer symud pridd, dymchwel, a chludo yn dweud ei fod wrth ei fodd o fod yn gysylltiedig â Rasys Nos Galan byd-enwog, i’w cynnal yn Aberpennar – ar nos Galan. 

Ymhlith y noddwyr eraill hyd yma, mae cwmni Amgen, sef darparwr gwasanaethau rheoli gwastraff Rhondda Cynon Taf; Trivallis, sef un o’n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n darparu cartrefi i filoedd o deuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol, a Chymunedau yn Gyntaf. 

Cafodd y lleoedd i gyd ar gyfer Ras hwyl 5K i Oedolion eu llenwi o fewn 5 diwrnod – yn gynt nag erioed o’r blaen. Cafodd 15 lle ychwanegol eu rhyddhau ar ôl hynny – a llenwodd pob un o fewn tair munud. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at yr achlysur, eleni gan fod cymaint o alw – heb ei debyg o’r blaen – wedi bod am leoedd, meddai’r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o Gabinet Cyngor  Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i gwmni Tom Pritchard Ltd am ei gefnogaeth eleni, ac unwaith eto diolch arbennig i Amgen, Trivallis a Chymunedau yn Gyntaf am eu cefnogaeth barhaus.

“Mae cefnogaeth cwmnïau, boed yn lleol, cenedlaethol neu’n rhyngwladol yn hanfodol i lwyddiant o ran cynnal achlysur mor bwysig flwyddyn ar ôl blwyddyn.”

Bydd 1,065 o bobl yn cymryd rhan yn Ras Hwyl 5k i Oedolion eleni, gyda 325 o athletwyr eraill yn cystadlu yn y Ras Elît – a llawer yn rhagor yn y rasys i blant.

Caiff yr achlysur eleni ei gynnal ddydd Sul 31 Rhagfyr. Dilynwch y Rasys ar Twitter a Facebook am y newyddion diweddaraf, neu galwch heibio i’r wefan www.nosgalan.co.uk

Hoffech chi ragor o fanylion?  Cysylltwch â Charfan Achlysuron y Cyngor ar 01443 424123 neu anfon e-bost achlysuron@rctcbc.gov.uk <mailto:achlysuron@rctcbc.gov.uk>

Nodwch: Fydd dim hawl rhoi lle o un person i’r llall. Bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan gan ddefnyddio rhif unigryw person arall yn cael ei wahardd.

Wedi ei bostio ar 10/11/17