Skip to main content

Pennaeth Ysgol yn Ennill Lle mewn Râs

Torrwyd pob record pan gafodd pob un o'r holl leoedd ei lenwi mewn pum niwrnod ar gyfer Râs Hwyl Pum Cilometr i Oedolion yn Rasys byd-enwog Nos Galan. 

Oherwydd y galw aruthrol mae trefnwyr yr achlysur, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Phwyllgor Nos Galan, wedi rhyddhau 15 o leoedd YCHWANEGOL. Cafodd pob un ei fachu o fewn TAIR MUNUD! 

Ymhlith y rheiny fu'n ddigon ffodus i gael lle yn y Râs Hwyl Pum Cilometr i Oedolion ar Nos Galan roedd Huw Griffiths, Pennaeth Ysgol yn yr ardal sy'n cystadlu yn aml yn yr achlysur yma ar Nos Galan. 

Cafodd Mr. Griffiths ei eni a'i fagu yn Aberpennar, cartref Rasys Nos Galan. Roedd wedi cymryd rhan mewn mwy na 10 o'r rasys yn ystod ei fywyd. Cryn siom iddo oedd methu ag ennill lle mewn râs eleni. 

"Cefais fy magu yng nghlyw chwedlau Guto Nyth Brân a Rasys Nos Galan," meddai Huw Griffiths, sy'n Bennaeth Ysgol Gynradd Caegarw, "ac  mae gyda fi gymaint o dân yn fy nghalon drostynt ag erioed." 

"Mae ein hysgol ni wedi gwneud sawl prosiect ar sail Guto a Rasys Nos Galan. Roeddem ni i gyd wastad wrth ein bodd pan ddeuai'r Br. Bernard Baldwin MBE, i ymweld â ni yn yr Ysgol. 

"Byddwch chi'n deall wedyn pa mor siomedig oeddwn i yn colli cyfle i gael lle mewn râs eleni. Nid oes yr un digwyddiad fel hyn yn y byd i gyd, yn enwedig ar Nos Galan. 

"Ond roeddwn i wrth fy modd pan gafodd 15 o leoedd ychwanegol eu rhyddhau. Roeddwn i'n benderfynol o beidio â cholli cyfle y tro yma. 

“Rwy'n edrych ymlaen gymaint i fod yn rhan unwaith eto o Rasys Nos Galan. Dyma achlysur arbennig iawn i fi ac i'm teulu bob tro.”

Byddai'r diweddar Bernard Baldwin MBE, oedd yn byw yng Nghaegarw, yn ymweld â'r Ysgol Gynradd yno yn rheolaidd. Gwnaeth y disgyblion ymweliad cwbwl dirybudd â'i gartref er mwyn canu yn ystod dathliadau ei 90fed benblwydd. Ergyd drom oedd clywed am ei farw ar 3ydd Ionawr, 2017, yn 91 oed. 

1,065 oedd nifer syfrdanol y rhai a fydd yn cymryd rhan yn Râs Hwyl Pum Cilometr i Oedolion, gyda 325 o athletwyr ychwanegol yn cystadlu yn y Râs Elît a llawer yn rhagor yn y rasys i blant. 

"Cafodd lleoedd yn y Rasys eu bachu yn gynt nag erioed eleni," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden "Rydym ni'n sylweddoli fod llawer o bobl wedi cael siom o fethu ag ennill lle."

"Serch hynny, mae'n rhaid i ni gapio nifer y cystadleuwyr ar sail iechyd a diogelwch. Rydym ni'n gobeithio y bydd y bobl hynny oedd wedi methu â chael lle yn dal i ddod allan gyda'i ffrindiau a'u teuluoedd. Dyma fydd y parti stryd Nos Galan fwyaf yn Rhondda Cynon Taf - nid oes amheuaeth am hynny,"

Bydd Rasys Nos Galan 2017 yn cael eu cynnal ddydd Sul 31 Rhagfyr. Dilynwch 'Nos Galan Races' ar Drydar a Facebook am yr wybodaeth ddiweddaraf. Neu ewch i www.nosgalan.co.uk

Am ragor o fanylion ffoniwch Garfan Achlysuron y Cyngor ar 01443 424123 neu e-bostio achlysuron@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Nodwch:  Chewch chi ddim trosglwyddo lleoedd mewn rasys i eraill. Os byddwch chi'n defnyddio rhif ras unigryw rhywun arall, cewch chi eich diarddel o'r ras.

Wedi ei bostio ar 19/10/2017