Skip to main content

Biniau baw cŵn, arwyddion a swyddogion gorfodi newydd

Mae'r Cyngor yn cyflwyno biniau baw cŵn, arwyddion a swyddogion gorfodi newydd ledled Rhondda Cynon Taf, yn dilyn gweithredu rheolau newydd sy'n mynd i'r afael â pherchenogion anghyfrifol.

Daeth Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) i rym ar 1 Hydref, gan orfodi rheolau llymach ar gyfer perchenogion cŵn ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da chi! y Cyngor yn parhau i hyrwyddo'r rheolau yma.

O ganlyniad i'r rheolau yma, mae RHAID i berchenogion godi baw cŵn ar unwaith. Mae RHAID i berchenogion gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ac mae RHAID i berchenogion cŵn hefyd ddilyn cyfarwyddyd Swyddog Awdurdodedig (er enghraifft rhoi ci ar dennyn).

Caiff cŵn eu GWAHARDD o’r holl ysgolion, mannau chwarae, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw. Hefyd mae RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg ym mynwentydd y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw.

Bydd trigolion yn dechrau gweld rhagor o Swyddogion Gorfodi Gofal y Strydoedd yn eu cymunedau er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cadw at y rheolau – ar ôl i'r Cyngor gyflogi rhagor o staff yn ddiweddar i gyflawni'r rolau yma.

Mae'r Cyngor wrthi'n gosod tua 700 o arwyddion ledled y Fwrdeistref Sirol mewn parciau, mannau chwarae ac ardaloedd cefn gwlad i roi gwybod i drigolion ac ymwelwyr am y rheolau newydd fydd yn berthnasol i'r ardal lle maen nhw'n mynd â'u cŵn am dro.

Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn gosod llwyth o finiau baw cŵn coch newydd, gan ychwanegu at y 1,000 o finiau sydd yn eu lle ledled Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'r Cyngor wedi cyflwyno rheolau newydd ar gyfer perchenogion cŵn yn dilyn adborth trigolion. Mewn ymgynghoriad yn gynharach eleni, nododd y trigolion eu bod nhw'n awyddus i'r Cyngor fynd i'r afael â pherchenogion cŵn anghyfrifol.

"Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed i osod y biniau ac arwyddion newydd – er mwyn hysbysu trigolion am reolau'r ardal lle maen nhw'n mynd â'u cŵn am dro. Mae'r Cyngor hefyd wedi cyflogi rhagor o swyddogion gorfodi fydd yn helpu i sicrhau bod pobl yn cadw at y rheolau newydd.

"Bydd modd i'r swyddogion newydd – fydd yn gweithio gyda'r hwyr ac ar y penwythnos – roi Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r bobl sy'n troseddu. Fodd bynnag, y gobaith yw bydd y mesur newydd yn annog perchenogion cŵn i fod yn gyfrifol gan byddai'n well gyda ni strydoedd glân heb faw cŵn na rhoi dirwyon i bobl.

"Fydd y rheolau newydd ddim yn cael effaith ar y rhan fwyaf o berchenogion cŵn, sy'n mynd â'u cŵn am dro a chodi'u baw. Maen nhw at sylw'r lleiafrif o berchenogion sy'n parhau i fod yn anghyfrifol, er mwyn gwneud y Fwrdeistref Sirol yn ardal lân i fyw ynddi ac ymweld â hi."

Wedi ei bostio ar 11/10/2017