Skip to main content

Cyfleoedd Gwaith mewn Ffair Swyddi

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal Ffair Swyddi arall AM DDIM, ddydd Mercher, 27 Medi, yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr. 

Bydd yr achlysur diweddaraf, sy'n cael ei drefnu gan y Cyngor, yn rhoi'r cyfle i bobl y Fwrdeistref Sirol sy'n chwilio am waith gwrdd ag amrywiaeth o gyflogwyr. Mae hyn yn dilyn llwyddiant y Ffair Swyddi a lwyddodd i ddenu dros 1,200 o bobl ym Mhontypridd ym mis Mawrth. 

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal rhwng 10am a 7pm ac yn cynnig cyfle arbennig i ddysgu ragor am brentisiaethau, rhaglenni i raddedigion a swyddi eraill sydd ar gael yn y Cyngor a thu hwnt. Bydd nifer fawr o gwmnïau'r sector preifat a'r sector cyhoeddus yn bresennol. 

Bydd nifer o weithdai yn cael eu cynnal yn ystod y dydd, gan gynnwys sesiwn ar sut i gyflwyno cais llwyddiannus a thechnegau paratoi ar gyfer cyfweliad. 

Mae'r ffair am ddim ac yn croesawu pobl o bob oed sydd eisiau cyngor ar ba lwybrau at gyflogaeth sydd ar gael iddyn nhw.  

Bydd yr achlysur hefyd yn gyfle gwych ar gyfer pobl ifainc sydd ddim eisiau symud ymlaen at addysg bellach. Bydd modd iddyn nhw gwrdd ag amrywiaeth o fusnesau sy'n gweithio yn yr ardal leol. 

Mae gan Gyngor RhCT hanes hir o helpu preswylwyr wrth iddyn nhw fynd ati i chwilio am waith. Mae'r cyhoeddiad diweddaraf ynglŷn â'r ffair swyddi yn dilyn y newyddion y bydd 45 o brentisiaid a swyddogion graddedig yn dechrau ar gynlluniau wedi'u talu sy'n para am ddwy flynedd, yn nifer o adrannau'r Cyngor, cyn bo hir. 

Mae Cyngor RhCT wedi addo creu o leiaf 150 o swyddi i raddedigion a phrentisiaid o fewn yr Awdurdod yn ystod y cyfnod yma. Mae hyn yn rhan o'i ymrwymiad parhaol i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o greu 100,000 o brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Rydw i'n falch o gyhoeddi bydd y Cyngor yn cynnal ffair swyddi arall ym mis Medi. 

"Mae'r achlysur yn rhoi cyfle i'r rheiny sy'n chwilio am swyddi gael gwybodaeth werthfawr a chyngor ynglŷn â'r camau nesaf. Mae meddu ar y wybodaeth yma'n bwysig iawn yn y farchnad swyddi, sydd yn fwy cystadleuol nag erioed. 

"Mae amrywiaeth eang o fusnesau o Dde Cymru wedi mynegi diddordeb yn y ffair swyddi yma. Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod Sefydliad CPD Caerdydd a Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru yn rhan o'r ffair. 

"Rydyn ni'n gweithio'n galed er mwyn parhau i ddarparu cyfleoedd gwaith gwerthfawr i'n preswylwyr. Rydw i'n falch o weld 33 prentis a 12 o raddedigion yn dechrau ar leoliad dwy flynedd gyda ni." 

Ewch i www.RCTCBC.gov.uk/cy/jobsfair am y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r ffair swyddi, gan gynnwys cyhoeddiadau am ba gyflogwyr fydd yn bresennol. 

Os oes gan eich sefydliad chi unrhyw swyddi gwag, cyfleoedd prentisiaeth neu raglenni i raddedigion, ac os hoffech chi archebu stondin ar gyfer yr achlysur, cysylltwch ag adran Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth drwy e-bostio CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Wedi ei bostio ar 04/09/17