Skip to main content

Nifer y Rhedwyr yn Torri Pob Record

Dim tan 10.00am ddydd Mawrth, 5 Medi yr agorodd y cofrestru ar gyfer Rasys Nos Galan, ond dyma'r rhedwyr wedi torri pob record mewn pum niwrnod. Mae'r Ras Elit a'r Ras Hwyl 5K i Oedolion bellach yn LLAWN – a hynny bedwar mis cyn i'r Rasys gael eu cynnal. 

Bydd y nifer anhygoel o 1,050 o bobl yn cymryd rhan yn y Ras Hwyl i Oedolion, a bydd 325 o athletwyr yn cystadlu yn y Ras Elit.

Mae lleoedd i'w cael o hyd ym mhob un o rasys y plant – brysiwch i gofrestru, rhag ofn i chi gael eich siomi. £6 yw pris cystadlu ym mhob un o Rasys y Plant.

Rasys Plant: Cofrestru Ar-lein  

Caiff y Rasys Nos Galan eu cynnal yn Aberpennar bob blwyddyn er cof am Guto Nyth Brân, y rhedwr chwedlonol. Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n eu trefnu, ar y cyd â Phwyllgor Nos Galan. 

Gyda'r Rasys yn dathlu'u pen-blwydd yn 59 oed, dyma'r tro cyntaf yn eu hanes i'r holl leoedd yn y Rasys Elit a Hwyl i Oedolion gael eu bachu mor gyflym.

"Mae galw mawr bob tro am leoedd yn y rasys," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden "gyda phob lle wedi'i gymryd ymhell cyn noson y Rasys." Ond dyma'r tro cyntaf i ni weld galw mor fawr am leoedd.

"Ychydig flynyddoedd yn ôl, byddai gyda ni Ddesg Gofrestru ar noson y Rasys, ond hen hanes yw hynny bellach. Ras i gael lle yn y Rasys yw hi i'r holl redwyr bellach.

"Yn sicr, mae gyda ni etifeddiaeth deg yn sgil gwaith sylfaenydd ein Rasys, y diweddar Bernard Baldwin, Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, a'r rhai sy'n gwneud y gwaith trefnu o flwyddyn i flwyddyn."

Mae Rasys Nos Galan, a gafodd eu sefydlu yn 1958, yn denu miloedd o redwyr o bob oed a gallu ac o bob cwr o'r byd. Bu'r galw am leoedd eleni yn fwy nag erioed o'r blaen.

Bydd yr achlysur, a gaiff ei gynnal ddydd Sul, 31 Rhagfyr 2017, yn cynnwys sawl Ras i Blant, Ras Elit a Ras Hwyl 5km o gwmpas canol tref Aberpennar.

Bob blwyddyn, mae Rhedwr Dirgel enwog sy'n cynrychioli ysbryd Guto Nyth Bran. Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru, Chris Coleman OBE, oedd y Rhedwr Dirgel llynedd.

Bydd Rasys Nos Galan 2017 yn cael eu cynnal ddydd Sul 31 Rhagfyr. Dilynwch 'Nos Galan Races' ar Drydar a Facebook am yr wybodaeth ddiweddaraf. Neu ewch i www.nosgalan.co.uk

Am ragor o fanylion ffoniwch Garfan Achlysuron y Cyngor ar 01443 424123 neu e-bostio achlysuron@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Nodwch: Chewch chi ddim trosglwyddo lleoedd mewn rasys i eraill. Os byddwch chi'n defnyddio rhif ras unigryw rhywun arall, cewch chi eich diarddel o'r ras. 

Wedi ei bostio ar 11/09/17