Skip to main content

Collin Smith yn cefnogi ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da chi!

Mae Collin Smith, sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf, a gafodd ei goes wedi'i thorri i ffwrdd 38 blynedd yn ôl ar ôl dal haint o faw cŵn ar gae chwarae ac sy'n byw yn cefnogi ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da chi y Cyngor. Mae'r ymgyrch yn mynd i'r afael â pherchenogion cŵn anghyfrifol.

Mae Collin, sydd o Donyrefail yn wreiddiol bellach yn byw ym Meisgyn. Ym mis Tachwedd 1979, roedd Collin yn 15 oed ac yn chwarae gêm rygbi yng Nghwm Rhondda.  Yn ystod y gêm, cafodd dorasgwrn agored ar ei goes. Roedd hwn yn anaf a newidiodd ei fywyd ar ôl iddo ddal haint o faw cŵn ar y cae chwarae.

O ganlyniad i'r digwyddiad yma fyddai Collin, a oedd yn gapten ar y tîm ieuenctid ac wedi cael cap gan dîm cenedlaethol Cymru dan 15 oed, ddim yn chwarae rygbi byth eto.

Mae Collin, sydd nawr yn 53 oed, yn cefnogi ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da Chi! y Cyngor. Mae'r ymgyrch yn hyrwyddo'r mesurau newydd sy'n ymwneud â baw cŵn ac sy'n dod i rym ar 1 Hydref, 2017, drwy Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.

O ganlyniad i hyn, RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw. Caiff cŵn hefyd eu gwahardd o HOLL ysgolion, mannau chwarae, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw. Bydd RHAGOR o swyddogion gorfodi yn crwydro'r strydoedd a bydd RHAID i berchenogion roi'u cŵn ar dennyn os yw'r swyddogion yn gofyn iddyn nhw wneud hynny. Mae'n bosib y bydd perchenogion anghyfrifol yn derbyn dirwy o £100 dan y mesurau newydd.

Meddai Collin wrth adrodd hanes ei gêm olaf yn 1979: "Roedd y tywydd yn wael ac yn wlyb y diwrnod hwnnw, ond roedd y gêm yn un arferol. Roedd Ysgol Gyfun Tonyrefail yn chwarae yn erbyn Ysgol Gyfun Glynrhedynog yn y Maerdy.

"Roedd gen i dorasgwrn agored, a phan gwympais i, roedd fy esgyrn wedi'u trochi mewn mwd. Yn yr ysbyty, cafodd fy nghoes ei osod fel unrhyw dorasgwrn arall. Ond o fewn 24 oed, daliais haint. Cefais lawdriniaeth brys a chafodd rhan isaf fy nghoes ei thorri i ffwrdd.

"Roedd yr adroddiad tocsicoleg wedi dangos bod yr haint wedi datblygu o ganlyniad i faw anifail. Cafwyd diagnosis yn ddiweddarach mai baw cŵn a oedd ar y cae chwarae oedd y rheswm."

Mae Collin, sydd yn berchen ar sbaengi o'r enw Cullen Baloo, yn gyffrous iawn i fod yn rhan o ymgyrch lym y Cyngor. Yn ôl Collin, bydd dulliau dim goddefgarwch newydd ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da Chi! o fudd i'r cymunedau ehangach yn y Fwrdeistref Sirol.   

"Roeddwn i'n awyddus iawn i fod yn rhan o'r cynllun," meddai. "Mae ymgyrch Cyngor Rhondda Cynon Taf yn werthfawr iawn ac mae modd i'r cyhoedd ei chefnogi. Mae'r rheolau newydd sy'n gwahardd cŵn rhag mynd ar gaeau chware wedi'u marcio yn amlwg yn agos iawn at fy nghalon. Ond dyma fater sy'n fwy na hyn yn unig.

"Dylai perchenogion cŵn gario bagiau baw cŵn gyda nhw. Rydw i'n eu cario nhw a byddwn i'n disgwyl i bawb arall wneud hynny hefyd. Dylai cario bagiau baw cŵn fod yn orfodol, ac rydw i'n cefnogi'r mesurau newydd sydd ar fin cael eu gweithredu er mwyn mynd i'r afael â hyn. Rydw i'n meddwl ei fod yn annerbyniol os nad yw aelodau'r gymuned yn cario bagiau gyda nhw wrth gerdded eu cŵn.

"Mae mannau chwarae wedi'u hynysu fel arfer, felly rydw i'n meddwl ei fod yn gywir i orfodi mesur sy'n gwahardd cŵn rhag mynd ar y mannau ble mae plant yn chwarae hefyd.

"Rydw i'n hapus iawn i gefnogi'r ymgyrch yma. Mae'n wych bod y Cyngor yn cau'n dynn ar berchenogion cŵn anghyfrifol.

"Rydw i'n adnabod llawer o bobl sy'n berchenogion cyfrifol, ac un neu ddau sydd ddim yn gyfrifol. Mae yna nifer fach sy'n sarnu'r profiad ar gyfer pawb arall, ac mae'n beth cadarnhaol bod y Cyngor yn gweithredu mesurau newydd er mwyn mynd i'r afael â'r mater."

Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Chwaraeon: "Rydyn ni'n falch iawn bod Collin yn cefnogi ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da Chi!, ac yntau wedi cael ei effeithio'n bersonol gan faterion baw cŵn.

"Mae'n ffiaidd ac yn salw i beidio â chodi baw eich cŵn ac mae modd iddo gael effaith ddifrifol ar iechyd, fel yn hanes Collin.

"Rydw i'n gobeithio bod neges glir y Cyngor wedi cael ei throsglwyddo i'r cyhoedd. Fyddwn ni ddim yn goddef baw cŵn a byddwn ni'n gweithredu yn erbyn y nifer fach o berchenogion anghyfrifol sy'n gwrthod glanhau ar ôl eu cŵn."

Mae'r Cyngor yn cynnal nifer o achlysuron codi ymwybyddiaeth drwy gydol mis Awst a mis Medi ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd modd i'r cyhoedd ddysgu rhagor ynglŷn â'r mesurau newydd sy'n dod i rym ar 1 Hydref.

Wedi ei bostio ar 20/09/2017