Skip to main content

Rasys Nos Galan 2021 Yn Dychwelyd Yn Achlysur Rhithwir

nos galan

Yng nghanol sefyllfa newidiol y Coronafeirws, mae trefnwyr Rasys Nos Galan wedi bod yn cadw llygad arno drwy gydol y flwyddyn, yn benderfynol o sicrhau bod modd i'r achlysur ddychwelyd yn 2021, waeth pa ffurf mae'n ei gymryd. 

Er bod y sefyllfa yma wedi gwella’n sylweddol ers y llynedd, bu’n rhaid i’r Pwyllgor ystyried y ffaith bod Rasys Nos Galan yn denu dros 10,000 o bobl ynghyd o bob rhan o’r DU ac ymhellach i ardal gyfyng iawn. Er ein bod ni ddim yn gwybod beth fydd y sefyllfa yn y gaeaf, bydd pwysau ar staffio a chyflenwi gwasanaethau ar gyfer yr achlysur yn parhau i fod yn risg, gan y bydd raid i unigolion sy'n profi'n bositif am y Coronafeirws hunanynysu o hyd.  

O ganlyniad i'r ymateb anhygoel i achlysur rhithwir 2020, lle'r oedd cymaint o bobl wedi cymryd rhan a'i gefnogi, rydyn ni wedi penderfynu cynnal Rasys Nos Galan ar y ffurf yma unwaith eto yn 2021. Byddwn ni'n canolbwyntio wedyn ar achlysur heb ei ail yn 2022 gyda'r gobaith o weld y Rasys Ffordd hynod boblogaidd yn dychwelyd i strydoedd Aberpennar. 

Gan fod achlysur 2020 wedi bod yn gymaint o lwyddiant, bydd 1,000 o leoedd ychwanegol ar gael eleni ar gyfer yr achlysur rhithwir. Mae hyn yn golygu bod 3,000 o leoedd ar gael. Bydd y lleoedd yn cael eu cyhoeddi fesul cam i sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gael un, a hynny fel a ganlyn: 

  • Dydd Llun 6 Medi am 10am – 1000 o leoedd
  • Dydd Llun 13 Medi am 2pm – 1000 o leoedd
  • Dydd Llun 20 Medi am 6pm – 1000 o leoedd
  •  

Yn ogystal ag arloesi ac addasu er mwyn cadw chwedl Rasys Nos Galan yn fyw wrth i'r byd wynebu heriau newydd o hyd, mae'r trefnwyr hefyd wedi ymrwymo i sicrhau y bydd achlysur 2021 yn fwy cynaliadwy. 

Bydd pecynnau rasio ymgeiswyr eleni'n rhai y mae modd eu hailgylchu. Bydd y rheiny sy'n cwblhau'r her hefyd yn berchnogion y fedal bren Rasys Nos Galan gyntaf erioed, wedi'i gwneud yn y DU i leihau allyriadau carbon. 

Bydd her rithwir Rasys Nos Galan yn cael ei chynnal rhwng Rhagfyr 1 a 31 2021. Yn yr un modd â'r llynedd, mae ymgeiswyr yn cael cwblhau eu her 5 cilomedr mewn un diwrnod, neu dros sawl diwrnod. 

Cewch gerdded, rhedeg neu loncian, a'ch dewis chi yw p'un a ydych chi'n ei wneud gartref, mewn campfa ar felin draed, neu yn yr awyr agored. Cewch gystadlu ar eich pen eich hun neu'n rhan o deulu/swigen. Cadwch lygad ar reoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Coronafeirws i sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel! 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan, “Mae wedi bod yn anodd dod i'r penderfyniad ynghylch a ddylai’r achlysur fynd yn ei flaen yn ôl yr arfer neu'n achlysur rhithwir, a bu'n rhaid i ni bwyso a mesur yn ofalus, gan mai'r gobaith oedd gweld Rasys Nos Galan yn dychwelyd i strydoedd Aberpennar eleni. Serch hynny, roedd anawsterau ynghlwm wrth gynnal yr achlysur traddodiadol, felly bydd Rasys Nos Galan yn ei hôl yn 2021 ar ffurf rithiwr, cyn i ni ganolbwyntio unwaith yn rhagor ar gynnal achlysur penigamp yn 2022. 

“Mae Rasys Nos Galan yn un o’r achlysuron mwyaf poblogaidd yn ein calendr chwaraeon, yn rhannol oherwydd y ffordd unigryw y cafodd ei gynnal am dros 60 mlynedd – gyda gwasanaeth yn yr eglwys, y Rhedwr Dirgel enwog a rasys yng nghanol y dref ar Nos Galan. 

“Doedd hi ddim yn bosibl nac yn ddiogel gwneud hynny o dan gyfyngiadau'r llynedd a byddai wedi bod yn ddigon hawdd ei ganslo. Ond roedden ni'n benderfynol o gadw chwedl Guto Nyth Bran a'r Rasys eu hunain yn fyw. Er ei fod yn wahanol iawn i achlysuron y gorffennol, roedd Rasys Nos Galan 2020 yn llwyddiant ysgubol, ac mae'r diolch am hynny i'r trefnwyr a brwdfrydedd yr ymgeiswyr. 

“Drwy gydol 2021 rydyn ni wedi cadw llygad barcud ar y pandemig a'r cyfyngiadau er mwyn ceisio cynllunio Rasys Nos Galan eleni. Bu'n rhaid canslo gormod o achlysuron ar fyr rybudd oherwydd yr effaith ar staff a gwasanaethau cyflenwi, felly rydyn ni o'r farn ei bod yn fwy diogel cynnal Rasys Nos Galan 2021 yn achlysur rhithwir, gan ganolbwyntio wedyn ar wneud Rasys Nos Galan 2022 yn fwy ac yn well! 

“Hoffwn i ddymuno pob lwc a dweud diolch ymlaen llaw i’r rheiny sy’n cipio un o’r 3,000 o leoedd. Cofiwch fwynhau cwblhau’r her 5 cilomedr yn eich ffordd eich hun, ac yn bwysicach fyth, mewn ffordd ddiogel. 

“Bydd her rithwir Rasys Nos Galan yn rhoi cyfle i hyd yn oed mwy o bobl, o bob oed a gallu, gymryd rhan ynddi. Byddan nhw'n cael cyflawni'r her wrth fynd â'r ci am dro, rhedeg gyda'u partner neu fynd i'r gampfa a rhedeg ar y felin draed. Mae'n bosibl ei chwblhau fesul cam trwy gydol mis Rhagfyr neu wneud y cyfan mewn un diwrnod. 

“Y peth pwysicaf yw bod pawb yn cymryd rhan yn ysbryd y Rasys ac yn sicrhau eu bod nhw'n glynu wrth ganllawiau iechyd a diogelwch a chadw pellter cymdeithasol ar gyfer y cyhoedd”. 

Mae modd cofrestru ar gyfer lleoedd yma www.www.nosgalan.co.uk. Cofiwch fod lleoedd yn cael eu cyhoeddi fesul cam (Medi 6 am 10am, Medi 13 am 2pm a Medi 20 am 6pm). Mae 3,000 o leoedd ar gael. Mae'n costio £7.50 i gymryd rhan ac am hyn cewch becyn rasio, ynghyd â medal Rasys Nos Galan a chrys-T ar ôl cwblhau'r her. Bydd angen cyflwyno tystiolaeth rhwng 1 Rhagfyr 2021 ac 14 Ionawr 2022. 

Mae cwestiynau cyffredin, awgrymiadau ar gyfer llwybrau 5 cilomedr, telerau ac amodau a rhagor o wybodaeth ar gael yma www.nosgalan.co.uk. Dilynwch Rasys Nos Galan ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

 

Wedi ei bostio ar 19/08/2021