Skip to main content

Pwll Nofio'r Ddraenen Wen

hawthornP3

 Mae Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi ailagor Pwll Nofio'r Ddraenen Wen ddydd Llun, 15 Tachwedd.

Mae'r pwll wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020, ac ers mis Mehefin 2020 mae'r adeiladwaith a'r offer mecanyddol wedi'u hadnewyddu yn barod at y dyfodol.

Bydd yn ailagor yn rhan o'r brand Hamdden am Oes, sydd eisoes yn cynnig aelodaeth sy'n cynnwys mynediad at y gampfa, pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do mewn 10 o ganolfannau hamdden ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Bydd Pwll y Ddraenen Wen yn parhau i gynnig gwersi nofio i ysgolion a gofod i nofwyr clwb yn debyg i'r drefn cyn iddo gau. 

Bydd y pwll hefyd ar agor gyda'r hwyr ac ar benwythnosau i'r cyhoedd. 

Bydd y pwll yn rhan o fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cymru felly bydd modd i nofwyr dros 60 oed nofio am ddim, a bydd gwersi nofio am ddim i blant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd rhaglen tymor ysgol a gwyliau ysgol ar waith fydd yn wahanol i’w gilydd.

Bydd y rhaglen yn golygu bod modd i aelodau misol Hamdden am Oes ddefnyddio'r pwll am ddim yn rhan o'u haelodaeth, pan fo'r pwll ar gael. Bydd modd i nofwyr sydd ddim yn aelodau ddilyn system talu fesul ymweliad.

Mae'r pwll yn agos at Ganolfan Hamdden y Ddraenen Wen sy'n un o ddeg o ganolfannau Hamdden am Oes sy'n cynnig campfa fodern, staff arbenigol ac ystod o ddosbarthiadau ffitrwydd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

 "Mae Hamdden am Oes yn wasanaeth eithriadol gan y Cyngor sydd eisoes yn gyfrifol am 10 o ganolfannau hamdden llwyddiannus eraill ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol gan gynnwys campfeydd a phyllau nofio. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael ailagor y pwll yma."

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am sesiynau ym Mhwll Nofio'r Ddraenen Wen trwy'r Ap Hamdden am Oes. Bydd modd cadw lle mewn sesiynau trwy'r ap.

Dilynwch Bwll Nofio'r Ddraenen Wen (Hamdden am Oes) ar Facebook i weld y newyddion diweddaraf.

Wedi ei bostio ar 12/11/21