Skip to main content

Diolch i Noddwyr Rasys Nos Galan

nos galan

Mae'r lleoedd olaf wedi'u llenwi ac mae pecynnau'r ras ar fin cael eu dosbarthu. Dyma'r amser i bwyllgor Rasys Nos Galan ddiolch i noddwyr yr achlysur – Prichard's, Amgen Cymru a Trivallis.

Mae'r tri chwmni wedi helpu i Gadw'r Chwedl yn Fyw ers sawl blwyddyn bellach ac maen nhw'n parhau i roi cymorth hanfodol i Rasys Nos Galan wrth i'r achlysur fynd yn un rhithwir mewn ymateb i bandemig parhaus y Coronafeirws.

Diolch i'w nawdd, mae modd i bwyllgor Rasys Nos Galan barhau i gynnal yr achlysur – er ar ffurf hollol wahanol i'r 'arfer' – ac amddiffyn cynlluniau i gynnal yr achlysur ar strydoedd Aberpennar gyda rhedwr dirgel, rasys gwisg ffansi a thân gwyllt yn 2022, os bydd hi'n ddiogel i wneud hynny.

Mae cwmni Prichard's wedi'i leoli yn Llantrisant ac yn cynnig rhagoriaeth o ran adeiladu a gwasanaeth cymorth. Mae'r cwmni'n cyflogi 120 o weithwyr ac yn rhoi cymorth i ystod o sefydliadau lleol.

Mae Trivallis yn gwasanaethu ardal gyfan Rhondda Cynon Taf ac mae'n un o landlordiaid cymdeithasol mwyaf Cymru gan ddarparu tai a chymorth cymunedol.

Mae Amgen Cymru yn gweithio gyda'r Cyngor i gynnal gwaith rheoli gwastaff a deunydd ailgylchu. Mae'n gweithredu chwe chanolfan ailgylchu yn y gymuned ar ran yr awdurdod, yn ogystal â dwy siop ailddefnyddio (siopau The Shed) yn Llantrisant ac yn Nhreherbert. Mae hefyd yn rhedeg depo enfawr Tŷ Amgen lle mae deunydd ailgylchu yn cael ei ddidoli a'i lanhau. Dyma arloeswr cynaliadwyedd.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan: “Does dim achlysur arall sy'n debyg i Rasys Nos Galan ac mae'r ffaith ei fod yn denu rhedwyr o bob cwr o'r byd i strydoedd Aberpennar bob Nos Galan yn profi hyn.

“Wedi'u hysbrydoli gan chwedl Guto Nyth Brân, dyn cyflymaf y byd ar un adeg, mae'r rasys yn cynnig her chwaraeon unigryw sy'n dod â'r gymuned at ei gilydd i ddathlu dechrau blwyddyn newydd. Mae'n wirioneddol hudol.

“Mae pandemig torcalonnus y Coronafeirws yn parhau i effeithio ar ein cymunedau felly mae'r achlysur yn parhau i fod yn un rhithwir eto yn 2021, yn debyg i 2020. Rydyn ni'n gwybod nad yw'r achlysur yr un fath, ond rydyn ni'n falch o gefnogaeth a brwdfrydedd y rhedwyr sy'n cymryd rhan.

“Byddan nhw'n rhedeg, cerdded neu'n loncian her 5k a bydd pawb sy'n cystadlu yn derbyn crys-t a medal Nos Galan. Eleni, mae Nos Galan wedi ymdrechu i fod yn gynaliadwy gan ddefnyddio bagiau ailgylchadwy, wedi'u hailgylchu, ar gyfer pecynnau'r ras. Mae'r fedal bren wedi'i gwneud mewn ffordd gynaliadwy yn y DU.

“Mae pob person sy'n ein cefnogi ni trwy gymryd rhan, yn ogystal â'n noddwyr, yn ein helpu i barhau â'r achlysur ac i wireddu'n breuddwyd o ddychwelyd i strydoedd Aberpennar ar Nos Galan y flwyddyn nesaf.”

 

 

 

Wedi ei bostio ar 11/11/21