Skip to main content

Rhybudd Tywydd Melyn oherwydd Gwyntoedd Cryfion

yellow sign

Dyma roi gwybod i drigolion Rhondda Cynon Taf bydd Rhybudd Tywydd Melyn yn ei le o ganlyniad i risg posib effaith gwyntoedd cryfion ar yr ardal. Bydd y rhybudd mewn grym o oriau cynnar dydd Sadwrn, 27 Tachwedd hyd at 6pm yr un diwrnod.

Gallai'r gwyntoedd cryfion arwain at amodau gyrru gwael, tarfu ar drafnidiaeth gyhoeddus, oedi ar y ffyrdd a chau pontydd.  Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai'r gwyntoedd achosi difrod i adeiladau a methiannau trydan a allai effeithio ar signal ffonau symudol. 

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn cynghori trigolion i gymryd camau syml o flaen llaw er mwyn sicrhau bod eich cartref neu fusnes yn barod ar gyfer y tywydd  Er enghraifft, sicrhewch fod eich holl ddodrefn gardd a chyfarpar chwarae, fel trampolinau a theganau, yn ddiogel. 

Sut i baratoi eich cartref a'ch eiddo ar gyfer y gaeaf

Os oes unrhyw broblemau'n codi yn ystod y Rhybudd Tywydd Melyn, ffoniwch ein Gwasanaethau Argyfwng y Tu Allan i Oriau ar 01443 425011.

 

Wedi ei bostio ar 26/11/21