Skip to main content

Cyflwyno modiwl yn ysgolion uwchradd Pontypridd i godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn

Pupils across Pontypridd and Llantrisant will take part in a bowel cancer awareness module after half term

Bydd disgyblion blwyddyn 7 mewn chwe ysgol uwchradd ar draws Pontypridd a Llantrisant yn cwblhau rhaglen ddysgu â'r nod o godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn. Cafodd y rhaglen ei datblygu trwy waith Ysgol Uwchradd Pontypridd gyda Moondance Cancer Initiative.

Diolch i'r bartneriaeth, sydd hefyd yn cynnwys y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, bydd y rhaglen yn cael ei dysgu i holl ddisgyblion blwyddyn 7 yn ystod tymor yr hydref 2021/22, gan ddechrau ar ôl i'r disgyblion ddychwelyd i'r ysgol wedi hanner tymor mis Hydref.

Ymhlith yr ysgolion sy'n cymryd rhan mae Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain, Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, Ysgol Uwchradd Pontypridd, Ysgol Gyfun Y Pant ac Ysgol Garth Olwg.

Mae data diweddaraf Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dangos bod gan Rondda Cynon Taf y chweched gyfradd uchaf o ran canser colorectaidd ar draws 22 awdurdod lleol Cymru, gyda dros hanner yr achosion (53%) yn cael eu diagnosis ar gam hwyr. Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio yw bod modd trin canser y coluddyn, a gwella ohono, os caiff ei ddarganfod yn gynnar. Mae pobl rhwng 58 a 74 oed yn cael eu gwahodd i gwblhau prawf sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn eu cartrefi bob dwy flynedd.

Trwy weithio gyda Moondance Cancer Initiative ac ysgolion uwchradd partner, mae Ysgol Uwchradd Pontypridd wedi paratoi gwahanol adnoddau a phrofiadau dysgu i ddisgyblion blwyddyn 7. Mae hyn yn cynnwys deall sgrinio, sut i ddefnyddio cit prawf, a datblygu deunyddiau i ennyn diddordeb rhieni, cynhalwyr a'r gymuned ehangach gan hyrwyddo negeseuon allweddol am atal, sgrinio a symptomau cynnar.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd yn 2019/20, mae Ysgol Uwchradd Pontypridd wedi gweithio’n agos gyda’r Bwrdd Iechyd ac mae hyn wedi helpu i ddatblygu'r prosiect i'w gyflwyno i gymuned ehangach Pontypridd ac ysgolion eraill yn yr ardal leol. Ochr yn ochr â phum ysgol uwchradd leol ychwanegol, mae grŵp ehangach o bartneriaid hefyd wedi ymuno â'r rhaglen – gan gynnwys meddygon teulu lleol, ymgynghorwyr ysbytai, cynrychiolwyr cyngor gwirfoddol, gwasanaethau sgrinio'r coluddyn ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus lleol.

Dysgwch ragor am Raglen Canser y Coluddyn Moondance Cancer Initiative yma: https://moondance-cancer.wales/projects/bowel-cancer-programme.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  "Rwy'n falch iawn o waith gwerthfawr staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Pontypridd a'i gwaith partneriaeth ag ysgolion uwchradd eraill i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn mewn partneriaeth â Moondance Cancer Initiative. Mae'n newyddion gwych bod eu modiwl arloesol yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol ar draws ardal ehangach Pontypridd y mis yma, o ganlyniad i'r gwaith hwn.

"Nod y modiwl yw meithrin dealltwriaeth ymhlith pobl ifainc o'r mathau o ymddygiad sy'n gallu cynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu canser y coluddyn, ynghyd ag adnabod symptomau cynnar. Mae gan y modiwl becyn cwricwlwm wedi'i ddatblygu'n llawn gyda deunyddiau ategol, i'w cyflwyno ar draws ein hysgolion.

"Yn ogystal â'r gwaith cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth, rhan bwysig o'r modiwl yw ymgysylltu â'r gymuned ehangach i godi ymwybyddiaeth. Bydd gwybodaeth yn cael ei hanfon oddi wrth ysgolion i rieni a chynhalwyr, tra bydd disgyblion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'u teuluoedd, gan gynnwys coginio prydau iach a chadw'n heini. Bydd hyn oll yn helpu pobl, yr hen a'r ifainc, i wneud dewisiadau gwell o ran eu ffordd o fyw, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth.

“Hoffwn i ddweud da iawn a diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at ddod â'r modiwl hwn i fwcl, yn arbennig staff a disgyblion Ysgol Uwchradd Pontypridd a'r pum ysgol uwchradd leol arall sydd wedi cytuno i gymryd rhan."

Ychwanegodd Yr Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, "Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ar draws meysydd addysg, iechyd a'r gymuned ehangach.  Mae rhoi'r cyfle i bobl ifainc ddysgu am eu hiechyd a sut i gadw'n iach yn yr ysgol a gyda'u teuluoedd yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth ac osgoi iechyd gwael yn ein cymunedau yn y dyfodol."

Wedi ei bostio ar 22/10/2021