Skip to main content

Mae'r Cyngor yn gwneud ymrwymiad o ran Cyflog Byw Gwirioneddol i'r holl weithwyr gofal

Mae'r Cabinet wedi cytuno i'r Cyngor sicrhau y bydd ei holl weithwyr gofal i oedolion yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol dan gontract, yn ogystal â phawb sy'n cael ei dalu'n uniongyrchol, yn cael y Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf erbyn mis Rhagfyr eleni.

Yn eu cyfarfod ddydd Llun, 4 Hydref, cytunodd Aelodau'r Cabinet ag argymhellion adroddiad, i helpu darparwyr gofal cymdeithasol y sector annibynnol yn Rhondda Cynon Taf i gael gafael ar gyllid Llywodraeth Cymru sydd ar gael i ddarparu'r Cyflog Byw Gwirioneddol. Bydd hyn yn berthnasol i weithwyr gofal sy'n rhoi gofal preswyl a gofal nyrsio i bobl hŷn, gofal byw â chymorth, gofal ychwanegol a gofal yn y cartref, ynghyd â chynorthwywyr personol taliadau uniongyrchol sy'n rhoi gofal a chymorth.

Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn seiliedig ar gostau byw, ac mae'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Mae'r cyflog, sy'n £9.50 yr awr ar hyn o bryd, yn cael ei dalu'n wirfoddol gan gannoedd o gyflogwyr yng Nghymru a miloedd ledled y DU. Mae'r Cyngor eisoes yn darparu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol mewnol, a chafodd hyn ei ymestyn o'r blaen i gynnwys gofal cartref yn y sector annibynnol.

Gwnaeth y Cabinet ei benderfyniad yn ystod y cyfarfod ddydd Llun – i ymestyn y Cyflog Byw Gwirioneddol ymhellach i'r holl weithwyr gofal cymdeithasol – i gydnabod y pwysau parhaus ar wasanaethau cartref, gofal preswyl a gofal nyrsio. Cafodd y pwysau yma'u hamlygu a'u cynyddu ymhellach gan y pandemig.

Mae sicrhau isafswm cyflog priodol yn hanfodol i gefnogi gweithwyr gofal hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £40 miliwn ychwanegol o adnoddau i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol yn 2021/22, trwy'r Gronfa Adfer Gofal Cymdeithasol.

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet, mae'r Cyngor bellach wedi ymrwymo'n ffurfiol i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol y sector annibynnol i gael gafael ar y cyllid yma ar gyfer gweithwyr gofal o fis Rhagfyr 2021. Bydd y Cyngor yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yr arian cynaliadwy yn cael ei ddarparu ar gyfer blynyddoedd dilynol.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau i Oedolion: “Rwy’n siŵr y bydd pawb yn croesawu argymhellion adroddiad y Cabinet, yn ogystal â’r cytundeb dilynol gan yr Aelodau. Mae'r Cyngor bellach wedi ymrwymo'n ffurfiol i'w holl weithwyr gofal i oedolion yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol dan gontract a chynorthwyr personol sy'n derbyn taliadau uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf i dderbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf.

“Mae'r Cyngor eisoes yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn fewnol, a chafodd hyn ei gytuno a'i roi ar waith bedair blynedd yn ôl. Cafodd hyn ei ymestyn i'r sector gofal cartref annibynnol ddwy flynedd yn ôl. Mae penderfyniad ddydd Llun yn ehangu hyn i'r cam llawn a therfynol ar gyfer pob gweithiwr gofal a gomisiynir, sef y peth iawn i'w wneud i gydnabod eu gwaith amhrisiadwy yn ein cymunedau lleol.

“Roedd yn cael ei gydnabod, hyd yn oed cyn y pandemig, bod galw mawr am wasanaethau a chynnydd yng nghymhlethdod anghenion y rhai sydd angen gofal a chymorth. Mae'r sefyllfa wedi'i gwneud hyd yn oed yn fwy difrifol a heriol ers i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth 2020, ond gan ddibynnu ar ymroddiad yr holl weithwyr gofal – yn y cartref ac mewn lleoliadau preswyl – mae ein system gofal cymdeithasol wedi gallu parhau yn ystod y cyfnod yma o bwysau dwys.

“Rwy’n falch iawn y bydd penderfyniad y Cabinet heddiw yn sicrhau y bydd y gweithwyr gofal hynny sydd ddim yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol ar hyn o bryd yn ei gael erbyn mis Rhagfyr eleni. Bydd hyn nid yn unig yn helpu’r unigolion hynny i dderbyn yr hyn y maen nhw'n ei haeddu, ond hefyd yn annog rhagor o bobl i ymuno â'r diwydiant.”

Wedi ei bostio ar 08/10/21