Skip to main content

Cynnal gwaith ymgysylltu mewn perthynas â chynllun buddsoddi Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi

Penygawsi Entrance update

Mae modd gweld gwybodaeth fanwl am y cynlluniau buddsoddi mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, sy'n cynnwys darparu adeilad sy'n addas ar gyfer y 21ain Ganrif, ar-lein ac yn y gymuned. Mae modd i drigolion gyflwyno'u hadborth hyd at 24 Tachwedd.

Byddai'r cynigion yn defnyddio cyllid posibl gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wrthi'n cyflwyno cais am y cyllid yma ar hyn o bryd. Mae hyn ar ôl i'r Cabinet gytuno i gyflwyno achos busnes cychwynnol i sicrhau cyllid Model Buddsoddi Cydfuddiannol ym mis Medi 2020. Dyma'r llwybr cyllid refeniw ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

Mae'r broses o gyflwyno cais am gyllid yn parhau ar hyn o bryd, bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn y Gwanwyn, 2022. Os yw'r cais yn llwyddiannus, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun, gyda phob ysgol yn elwa o adeilad ysgol newydd. Mae pob un o'r ysgolion o fewn ardal sydd wedi gweld llawer o dai newydd yn cael eu hadeiladu mewn cyfnod byr ac mae angen buddsoddi er mwyn eu gwneud yn gwbl hygyrch ac i gyrraedd safon yr 21ain Ganrif.

O ran Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn Llantrisant, byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddarparu adeilad dau lawr ar safle presennol yr ysgol, ac yn gweithredu dull Carbon Sero-Net. Byddai'r adeilad newydd yn agor ym mis Medi 2023, gan ddisodli'r adeiladau presennol a'r adeiladau dros dro, sydd mewn cyflwr gwael. Byddai'r rhain yn darparu lle ar gyfer 310 o blant yn ogystal â 45 lle mewn dosbarth meithrin. Mae hyn yn uwch na'r nifer o leoedd sydd ar gael ar hyn o bryd a hynny er mwyn cwrdd â'r galw a ragwelir yn lleol.

Byddai'r datblygiad ehangach yn darparu Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwarae newydd a maes parcio. Byddai'n darparu amgylchedd dysgu ysgogol gan gynnwys cyfleusterau mewnol ac allanol newydd sbon sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif - yn ogystal â chynnwys darpariaeth y bydd modd i'r gymuned ehangach ei defnyddio.

Mae'r Cyngor, yn rhan o bartneriaeth â WEPCo Ltd, yn ymgynghori â thrigolion lleol mewn perthynas â'r cynlluniau yn rhan o waith ymgysylltu hyd at 24 Tachwedd. Mae'r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yma'n rhoi cyfle i gyflwyno adborth ar y cynlluniau cychwynnol, cyn cyflwyno cais cynllunio terfynol yn y dyfodol.

Mae tudalen we bwrpasol wedi'i chreu ar gyfer yr ymgynghoriad

Mae'r dudalen yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynigion, ac mae modd i drigolion weld y dogfennau cynllunio drafft a chynlluniau lleoliad safle ar gyfer yr adeilad newydd. Mae modd i chi gyflwyno sylwadau trwy e-bost (YsgolGynraddPen-y-gawsi@arup.com) neu drwy lythyr, gan ddefnyddio'r cyfeiriad sydd wedi'i gynnwys ar dudalen yr ymgynghoriad.

Bydd modd gweld y cynlluniau ar gyfer adeilad newydd yr ysgol yn Llyfrgell Gymuned Llantrisant (ym Mharc Porth y De, CF72 8DJ) trwy gydol yr ymgynghoriad. Yn ogystal â hyn, bydd sesiwn galw heibio'n cael ei chynnal yn yr ardal leol - gan roi cyfle i drigolion weld y cynlluniau a siarad â Swyddogion. Bydd y trefniadau terfynol ar gyfer yr achlysur yma'n cael eu rhannu â thrigolion maes o law.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  "Yn ystod y pedair wythnos nesaf, bydd modd i'r gymuned gael rhagor o wybodaeth am y cynigion i fuddsoddi yn Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, yn ogystal â chyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r cynlluniau cychwynnol i osod adeilad ysgol newydd sbon i gymryd lle'r adeilad presennol a'r ystafelloedd dosbarth dros dro. Bwriad y cynllun yw diweddaru cyfleusterau a darparu cyfleoedd newydd ar gyfer ein pobl ifainc, a hynny gan ddefnyddio cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

“Byddai'r buddsoddiad yma'n ein galluogi ni i barhau i ddarparu cyfleusterau newydd ledled y Fwrdeistref Sirol - gan ychwanegu at y rhestr hir o ysgolion sydd wedi'u clustnodi ar gyfer buddsoddiad. Roedd gwaith yn rhan o gynlluniau gwerth £12.1miliwn a £4.5miliwn wedi dechrau yn Ysgol Rhydywaun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn gynharach yn yr haf, a hynny'n dilyn cwblhau adeilad newydd gwerth £10.2miliwn yn Ysgol Gynradd Hirwaun y llynedd.

“Mae'r Cyngor hefyd yn bwrw ymlaen â'i fuddsoddiad Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth dros £55miliwn yn ardaloedd Cilfynydd, Y Ddraenen Wen, Rhydfelen a Beddau. Mae disgwyl i'r gwaith yma gael ei gwblhau erbyn 2024. Roedd Aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo cynigion cychwynnol ar gyfer cynlluniau sylweddol yn ardal Llanhari, Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau yn ddiweddar, ynghyd ag ysgol arbennig newydd.

“Rydw i'n annog trigolion lleol i ddweud eu dweud ynglŷn â'r cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi cyn y dyddiad cau, sef 24 Tachwedd - trwy fynd i wefan yr ymgynghoriad, sydd bellach yn fyw, neu drwy ymweld â Llyfrgell Gymuned Llantrisant lle bydd modd gweld y cynlluniau. Bydd cyfle hefyd i gael sgyrsiau wyneb yn wyneb â Swyddogion yn ystod achlysur 'galw heibio' i'r gymuned, yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid. Byddwn ni'n rhannu'r manylion â'r trigolion unwaith y byddan nhw wedi'u cadarnhau.

"Mae'r ymgynghoriad yma'n cael ei gynnal ar y cyd â gwaith tebyg ar gyfer dau gynllun arfaethedig arall yn rhan o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol - sydd wedi'u cynllunio ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun erbyn 2023."

Wedi ei bostio ar 26/10/2021