Skip to main content

Mae Lido Ponty bellach ar agor tan ddydd Gwener, 29 Hydref.

Lido3

Newyddion cyffrous - bydd Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn aros ar agor drwy gydol y gwyliau hanner tymor. Yn ogystal â hynny, bydd y Lido yn agor ar gyfer sesiwn nofio ar Ddydd San Steffan.

Bydd modd i'r rheiny sy'n mwynhau ymweld â'r Lido i nofio'n gynnar yn y bore neu gymryd rhan mewn sesiynau llawn hwyl barhau i wneud hynny hyd at 29 Hydref. Mae hyn yn nodi diwedd tymor arbennig iawn i'r Lido, wedi i ni groesawu 94,000 ers ailagor ein drysau.

Bydd cyfle gwych i nodi diwedd y flwyddyn hefyd wrth i ni agor ar Ddydd San Steffan.

Mae Lido Ponty bellach ar agor tan ddydd Gwener, 29 Hydref.

Bydd sesiynau nofio yn y bore yn cael eu cynnig am 6.30am-7.30am, 7.45am-8.45am a 9.30am-10.30am o ddydd Llun i ddydd Gwener yr wythnos nesaf (6.30am a 7.45am ddydd Sadwrn a dydd Sul), ac wedyn bydd pum sesiwn gan gynnwys nofio hamddenol/lôn a sesiynau pwll sblash gyda theganau.

Dewch draw yn ystod yr hanner tymor - bydd sesiynau nofio cynnar am 6.30am a 7.45am o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yna pum sesiwn lle bydd yr holl byllau ar agor a bydd modd chwarae gyda'r teganau. 

Mynnwch olwg ar yr amserlen newydd.

Fydd y Lido ddim ar agor ar y penwythnos ar ddiwedd yr hanner tymor. Y diwrnod olaf fydd dydd Gwener, 29 Hydref.

Cadarnhawyd hefyd y bydd sesiwn nofio Dydd San Steffan yn dychwelyd a bydd rhagor o wybodaeth am brisiau a thocynnau ar gael maes o law.

 

Wedi ei bostio ar 18/10/2021