Skip to main content

Mae Her Rithwir Nos Galan 2021 yn LLAWN

Mae'r cyfnod cofrestru ar gyfer Her Rithwir Nos Galan 2021 wedi dod i ben, ar ôl i 1,500 o bobl o bob cefndir sicrhau eu lle!

Mae pob ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn rhif cofrestru unigryw - sicrhewch eich bod chi'n cadw'ch un chi wrth law gan y bydd hwn yn cael ei ddefnyddio wrth wirio'r tystiolaeth eich bod chi wedi cwblhau'r her.

Yn debyg i achlysur 2020, fydd dim angen categorïau ras ar wahân nac isafswm o ran amseroedd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cwblhau pellter o 5k rhwng 1 a 31 Rhagfyr 2021.

Cewch gerdded, rhedeg neu loncian. Ewch i droedio'r llwybrau mewn parc gwledig neu defnyddiwch y felin draed yn eich campfa leol. Camwch tuag at y 5k gartref neu ceisiwch gystadlu yn erbyn eich amser gorau personol o  Rasys Nos Galan y gorffennol.

Bydd angen i'r rhai sy'n cwblhau her rithwir Nos Galan 2021 ddarparu tystiolaeth eu bod wedi'i chyflawni, trwy anfon llun o ap ffitrwydd, dyfais symudol neu felin draed er mwyn ennill eu medal a'u crys-t.

Mae modd i'r rhai sy'n cymryd rhan rannu eu hysbrydoliaeth bersonol a straeon Her Rithwir Nos Galan gyda gweddill cymuned Rhondda Cynon Taf, er mwyn i bawb rannu yn ysbryd chwedlonol y rasys ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Diolch o galon i bawb sydd wedi  cefnogi Her Rithwir Nos Galan 2021 hyd yn hyn.

“Mae'r rhain yn amseroedd gwahanol a heriol iawn a bydd yn braf dod â'r flwyddyn i ben unwaith eto gydag achlysur sy'n ein hatgoffa o'n gwytnwch a'n cryfder cymunedol.

“Mae'n drueni nad oes modd i ni ddod at ein gilydd unwaith eto yn Aberpennar ar Nos Galan ar gyfer noson o rasys a hwyl i'r teulu, ond rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod cadw'n iach ac yn ddiogel yn bwysicach o lawer. Pob lwc i bawb sydd wedi cofrestru ar gyfer yr her.”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan: “Roedd Nos Galan yn achlysur rithwir am y tro cyntaf y llynedd, yn wyneb amseroedd digynsail. Roedd yr achlysur yn fwy llwyddiannus nag y gallem fod wedi gobeithio amdano, gyda diolch i frwdfrydedd yr ymgeiswyr.

“Diolch i'r bobl sydd wedi cofrestru eleni. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ddathlu gyda chi wrth i chi gwblhau eich her Nos Galan 2021 eich hun - p'un a ydych chi'n cyflawni'r pellter mewn un sesiwn ac yn curo'ch amser gorau personol, neu'n cymryd un cam ar y tro.”

Mae modd cyflawni Her Rithwir Nos Galan 2021 mewn un sesiwn neu fesul cam rhwng 1 a 31 Rhagfyr 2021. Bydd angen cyflwyno tystiolaeth eich bod chi wedi cwblhau'r her rhwng 1 Rhagfyr 2021 ac 14 Ionawr 2022 ar wefan Rasys Nos Galan - www.nosgalan.co.uk

Mae rhagor o wybodaeth i ymgeiswyr, gan gynnwys telerau ac amodau a chwestiynau cyffredin, ar gael ar y wefan - www.nosgalan.co.uk

Dilynwch Rasys Nos Galan ar Facebook, Twitter ac Instagram a rhannwch eich lluniau a'ch fideos wrth i chi gyflawni'r her!

Wedi ei bostio ar 12/10/2021