Skip to main content

Cefnogwch ein Hapêl Siôn Corn 2021

santa-appeal-2021

Apel Sion Corn – AR AGOR NAWR!

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi lansiad ei Apêl Siôn Corn boblogaidd eleni, sydd â'r nod o ddod â hwyl yr ŵyl i blant Rhondda Cynon Taf dros gyfnod y Nadolig.

Mae'r Apêl Siôn Corn flynyddol bob amser yn llwyddiant ysgubol, gyda miloedd o anrhegion a thocynnau rhodd yn cael eu rhoi i sicrhau bod modd i bob plentyn gael anrheg adeg y Nadolig.

O ganlyniad i'r pandemig byd-eang y llynedd, gofynnon ni i'n trigolion a busnesau lleol caredig roi tocynnau rhodd yn unig. Eleni, mae modd i chi roi teganau neu docynnau rhodd i'n Hapêl Siôn Corn eto.

Mae llinellau Apêl Siôn Corn 2021 yn agor i'r cyhoedd ddydd Mawrth 2 Tachwedd. Y dyddiad olaf ar gyfer rhoi anrheg/tocyn rhodd yw dydd Mawrth 30 Tachwedd.

Meddai'rCynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau i Blant: "Wrth i ni groesawu normalrwydd yn ôl i'n bywydau, rydw i wrth fy modd bod modd i ni roi teganau, yn ogystal â thocynnau rhodd, i'n Hapêl Siôn Corn eleni.

“Er gwaethaf y cyfyngiadau y llynedd, llwyddon ni i roi tocynnau rhodd i bob un o'n plant, a hynny gyda diolch i haelioni sylweddol cynifer o bobl yn ystod y cyfnod arbennig.

“Mae ein Hapêl Siôn Corn yn ffordd o ddod â phobl at ei gilydd, i ddathlu hwyl yr ŵyl ac i gofio pobl eraill. Mae gweld plentyn yn gwenu ar fore Nadolig yn deimlad arbennig iawn ac mae hyn yn digwydd yn Rhondda Cynon Taf o ganlyniad i'ch haelioni chi.

“Rwy'n falch iawn o fod yn gysylltiedig ag Apêl Siôn Corn y Cyngor unwaith eto eleni a dyma annog cynifer o unigolion, grwpiau elusennol, sefydliadau a busnesau â phosibl i gymryd rhan a'n helpu ni i'w gwneud yn llwyddiant ysgubol.

"Mae'r apêl yma bellach yn draddodiad poblogaidd a llwyddiannus yn ein Bwrdeistref Sirol, ac mae miloedd o anrhegion wedi cael eu dosbarthu i nifer fawr o blant sy'n llai ffodus nag eraill dros y blynyddoedd.

“Helpwch ni i gynnal y traddodiad trwy roi anrheg neu docyn rhodd. Helpwch ni i ddod â gwen i wynebau nifer fawr o blant ledled Rhondda Cynon Taf ar fore Nadolig.”

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein trigolion, busnesau, elusennau a sefydliadau lleol wedi rhoi miloedd o anrhegion a thocynnau rhodd i blant a fyddai, o bosibl, heb dderbyn anrheg i'w hagor ar fore Nadolig.

Ond diolch i haelioni eraill, mae pob un o'r plant gafodd eu nodi gan weithwyr cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn o leiaf un anrheg ar fore Nadolig. Roedd pob un o'r anrhegion wedi'u dewis yn arbennig yn ôl oedran y plant, gan gynnwys y tocynnau rhodd ar gyfer plant hŷn ar restr Siôn Corn!

Rhowch Anrheg neu Docyn Rhodd Heddiw https://www.smythstoys.com/physicalGift

Rhowch Anrheg neu Docyn Rhodd Heddiw https://www.one4all.com/retailer/spend-online.html?p=1

Mae cefnogi Apêl Siôn Corn 2021 y Cyngor yn hawdd – y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw e-bostio: gwasanaethauigwsmeriaid@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425025 a rhoi gwybod i gorachod Siôn Corn sawl plentyn hoffech chi brynu anrheg/tocyn rhodd ar ei gyfer.

Yna, byddan nhw'n anfon enw ac oedran plentyn atoch chi. Bydd yr enw rydych chi'n ei dderbyn yn enw amgen, er mwyn diogelu hunaniaeth y plentyn, ond bydd yr enw yn cynrychioli plentyn go iawn yn Rhondda Cynon Taf.

Mae modd i chi ffonio neu e-bostio tan ddydd Mawrth 30 Tachwedd. Nodwch y bydd y llinellau ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.

Wedi ei bostio ar 09/11/21