Skip to main content

Gwaith ar y gweill ar safle Tomen Wattstown

The Council, The Coal Authority and Welsh Government will undertake work at the Wattstown Standard Tip

Bydd gwaith pwysig yn dechrau cyn bo hir ar Domen Wattstown (Hen Lofa’r Standard) er mwyn rheoli’r posibilrwydd o dirlithriad ar y safle, sydd o dan berchnogaeth breifat, yn y dyfodol. Cynhelir y gwaith o ganlyniad i bartneriaeth rhwng yr Awdurdod Glo, Llywodraeth Cymru a'r Cyngor.

Mae disgwyl i'r cynllun ddechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 18 Hydref. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwarantu cost yr holl waith cymwys er mwyn galluogi’r Awdurdod Glo i gynnal y gwaith, a hynny trwy Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda'r Cyngor. Mae'r contractwr Alun Griffiths (Contractors) Ltd wedi'i benodi gan yr Awdurdod Glo i gynnal y gwaith.

Digwyddodd tirlithriad ar safle y domen lo yn Wattstown sydd o dan berchnogaeth breifat yn ystod y cyfnod o dywydd garw ym mis Rhagfyr 2020. Roedd hyn i'w weld yn glir o'r ardal gyfagos. Roedd wyneb uchel y domen yn rhy serth ac yn cael ei effeithio gan y gwynt a'r glaw. Mae’r domen wedi parhau i waethygu ers y tirlithriad cychwynnol yma.

Mae'r safle wedi cael ei fonitro a'i arolygu'n rheolaidd trwy waith ar y cyd rhwng yr Awdurdod Glo, Llywodraeth Cymru a'r Cyngor. Mae cynnig i amddiffyn wyneb y domen a helpu i reoli ei dirywiad pellach wedi cael ei ddatblygu gan yr Awdurdod Glo. Bydd gwaith yn cael ei gynnal ar ôl cael cytundeb perchennog y tir.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Trwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo, mae'r Cyngor yn parhau i fonitro safleoedd pyllau glo blaenorol fel blaenoriaeth, yn enwedig gyda rhagor o law oherwydd newid yn yr hinsawdd. Codwyd pryderon am Domen Wattstown (Hen Lofa’r Standard) sydd o dan berchnogaeth breifat ar ôl archwiliad rheolaidd wedi Storm Dennis. Mae wedi parhau i fod yn destun archwiliadau rheolaidd.

“Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor, Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo ers y tirlithriad ym mis Rhagfyr 2020 wedi parhau i fonitro'r safle'n agos, asesu ei gyflwr, a nodi unrhyw bryderon pellach. Mae'r gwaith monitro wedi cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod y gymuned yn ddiogel, a thawelu meddyliau trigolion lleol bod y safle yn cael ei reoli'n effeithiol.

“Mae cynllun bellach yn cael ei ddwyn ymlaen i gynnal gwaith brys, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gynnal gan yr Awdurdod Glo. Bydd trigolion yn sylwi ar waith yn cael ei gynnal ar y safle o'r wythnos nesaf, gan fanteisio ar amodau tywydd gwell cyn i fisoedd y gaeaf gyrraedd.”

Wedi ei bostio ar 15/10/2021