Skip to main content

Llysgenhadon Gofalwn yn codi proffil Gofal Cymdeithasol yn RhCT

WeCare Wales Week 2021

Mae staff gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar brwdfrydig o Gyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o Lysgenhadon Gofalwn, sy'n hyrwyddo'r bobl sy'n gweithio yn y sector ac yn annog eraill i ystyried gyrfa werth chweil mewn gwaith gofal.

Dechreuodd llysgenhadon yn Rhondda Cynon Taf eu gyrfaoedd gofal cymdeithasol mewn amrywiaeth eang o ffyrdd ac maen nhw'n caru eu rolau a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud ym mywydau pobl yn ddyddiol.

Yn Rhondda Cynon Taf, bydd Llysgenhadon yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i gyflwyno myfyrwyr i'r cyfleoedd sydd ar gael yn y sector ac i dynnu sylw at y llwybrau gyrfa sydd ar gael i'r rheini sydd eisiau gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Y gobaith yw y bydd y Llysgenhadon Gofalwn yn dod â'r sector yn fyw i'r myfyrwyr ac yn tynnu sylw at y gyrfaoedd gwerthfawr a gwerth chweil sydd ar gael yn y sector.

Mae Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar yn sector sy'n rhoi llawer o foddhad i weithio ynddo.

Meddai'r Llysgennad Gofalwn, Daniel Minty: “Roeddwn i am gymryd rhan er mwyn dangos y cyfleoedd sydd ar gael ym maes gofal cymdeithasol, a’i ddangos fel gyrfa yn hytrach na rhywbeth yr ymgymerwyd ag ef pan doedd dim swyddi eraill ar gael.

"Mae gwaith gofal yn swydd bwysig ond mae yna lawer o gyfleoedd eraill i gefnogi a helpu pobl os dydych chi ddim eisiau gofalu am rywun yn uniongyrchol. Mae llawer o wahanol swyddi a chyfrifoldebau yn y sector.

“Mae modd i hyn fod yn yrfa gydol oes, mewn amgylchedd sy'n datblygu ond sy'n heriol, mae cyfleoedd i symud ymlaen fel unigolyn ac fel gweithiwr proffesiynol pe byddech chi'n dewis gwneud hynny."

Mae gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar yn golygu eich bod chi'n cael effaith hynod gadarnhaol ar y bobl rydych chi'n eu cefnogi.

Meddai'r Llysgennad Gofalwn, Jess Nicholls: “Yn bersonol, rydw i wedi teimlo bod agweddau eithaf negyddol tuag at Ofal Cymdeithasol ac mae'r gwaith yn llawn straen a dydych chi ddim yn cael llawer o gefnogaeth. Rydw i wedi cael diwrnodau sy'n rhoi llawer o foddhad ac rydw i'n cael bod yn rhan o fywyd rhywun yn ystod yr hyn a all fod yn amseroedd anodd neu'n amseroedd cadarnhaol.

“Rydw i'n mwynhau gweld pobl yn cyrraedd eu potensial a'u helpu i weld yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw fyw bywyd y maen nhw'n ei reoli. Mae bod yn rhan o brosiect sy'n lledaenu'r neges yma yn hynod gadarnhaol.

“Y ffordd orau i bobl weld a yw'r maes yn addas ar eu cyfer nhw yw clywed am y swyddi sydd ar gael a’r hyn y mae modd iddyn nhw ei ddisgwyl gan bobl sy’n gweithio yn y rôl yno.”

Mae cymaint o opsiynau gyrfa i'r rhai sy'n gadael yr ysgol, coleg neu brifysgol, ac mae gan y sector Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar ystod enfawr o gyfleoedd ar bob lefel.

Meddai'r Llysgennad Gofalwn, Molly Evans: “Y rheswm roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r prosiect oedd oherwydd fy mod i’n cofio bod yn yr ysgol yn ansicr o fy nyfodol mewn cyflogaeth. Roedd gan bawb yn fy ngrŵp blwyddyn eu dyheadau gyrfaol a'r cyfan roeddwn i'n ei wybod oedd fy mod i eisiau cefnogi a helpu pobl.

“Bryd hynny doedd gen i ddim syniad am beth oedd gwaith cymdeithasol. Roeddwn i'n teimlo'n anwybodus iawn o fy opsiynau a dydw i ddim eisiau i genedlaethau'r dyfodol deimlo fel hynny. Mae gwaith cymdeithasol fel gyrfa yn adlewyrchu fy ngwerthoedd personol. Rydw i eisiau rhoi cymorth i bobl fregus yn ein cymunedau a galluogi pobl i gael gwell ansawdd bywyd. Mae hyn yn rhywbeth y dylai pawb ymdrechu i'w gyflawni er mwyn cael cymdeithas well.”

Mae'r pandemig coronafeirws wedi tynnu sylw at y rôl enfawr y mae staff Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar yn ei chwarae yn ein cymdeithas, a sut mae eu sgiliau a'u gwybodaeth wedi bod yn hanfodol wrth roi cymorth i bobl mewn angen. Mae hefyd wedi tynnu sylw at sut mae'r gweithwyr allweddol yma wedi parhau i weithio dan amgylchiadau anhygoel, gan gefnogi gweithwyr allweddol eraill i wneud eu gwaith hanfodol.

Meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant: “Mae gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar yn un o'r gyrfaoedd mwyaf buddiol sydd ar gael, mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.

“Rydw i'n hynod falch o'r prosiect Llysgenhadon Gofalwn yn Rhondda Cynon Taf. Mae ein staff ymroddedig a brwdfrydig yn deall mwy na neb sut beth yw gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar. Maen nhw'n enghreifftiau gwych o'r gweithwyr proffesiynol o ansawdd uchel sy'n gweithio yn y sector.

“Rydw i'n wirioneddol obeithiol y bydd eu hymrwymiad clir a’u balchder amlwg o weithio yn y sector yn annog rhagor o bobl i ystyried gyrfa werth chweil ym maes Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar.

Rhwng 11 ac 17 Hydref, bydd Wythnos Gofalwn Cymru yn dangos sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan dynnu sylw at yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael. Dyma ragor o wybodaeth: https://gofalwn.cymru/

Wedi ei bostio ar 12/10/21