Skip to main content

Lido Ponty wedi ymestyn y tymor presennol tan 17 Hydref

Lido3

Mae'r garfan anhygoel yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty wedi ymestyn y tymor presennol tan 17 Hydref!

Y bwriad oedd cau Lido Ponty, sy'n boblogaidd dros ben, ar gyfer prif dymor 2021 ar 3 Hydref, a hynny ar ôl croesawu dros 85,000 o ymwelwyr eleni er gwaethaf y cyfyngiadau sy'n parhau yn eu lle oherwydd y pandemig parhaus.

Serch hynny, oherwydd y galw mawr, rydyn ni wedi penderfynu cadw Lido Ponty ar agor am bythefnos yn ychwanegol, sy'n golygu bod modd i bobl fynd yno tan 17 Hydref.

Mae'r amserlen yr un peth â'r arfer i raddau helaeth - sesiynau nofio ben bore yn ystod yr wythnos a sesiynau nofio/yn y pwll sblash yn ystod y dydd a sesiynau hwyl ar ôl ysgol gyda gweithgareddau a theganau gwynt.

Er hynny, mae newidiadau i'r sesiynau ar y penwythnos. Mae'r sesiynau nofio ben bore yn ôl yr arfer ddydd Sadwrn a dydd Sul ond fe fydd 6, ac nid 7, sesiwn hwyl gyda gweithgareddau a theganau gwynt. Rydyn ni wedi tynnu'r sesiwn 6pm tan 7pm oddi ar yr amserlen.

Mae hyn yn golygu bod Lido Ponty bellach ar agor:

Dydd Llun-Dydd Gwener ar gyfer dwy sesiwn nofio mewn lôn/hamddenol ben bore, ac yna dwy sesiwn yn ystod y dydd (naill ai sesiwn nofio mewn lôn/hamddenol neu sesiwn i rieni/gwarcheidwaid a'u plant cyn-oed ysgol). Mae yna ddwy sesiwn hwyl ar ôl ysgol gyda gweithgareddau a theganau gwynt.

Dydd Sadwrn a dydd Sul - mae sesiwn nofio ben bore ac yna 6 sesiwn hwyl gyda gweithgareddau a theganau gwynt.

Pris mynediad Lido Ponty yw £2 ar gyfer oedolion. Does dim cost i'r rheiny sy'n 16 oed ac iau. Mae modd ichi dalu £2.50 yn ychwanegol ar gyfer gweithgareddau, naill ai wrth brynu'ch tocyn ar-lein, neu wrth gyrraedd eich sesiwn.

Bydd cannoedd yn rhagor o bobl yn cael cyfle i fynd i Lido Ponty o ganlyniad i'r penderfyniad i ymestyn y tymor. Diolch o galon i staff Lido Ponty, a'u hymroddiad a'u brwdfrydedd, am gytuno i weithio bythefnos yn ychwanegol.

Mae cyfyngiadau o hyd yn Lido Ponty, sy'n golygu bod llai o sesiynau a bod rhaid gwisgo gorchudd wyneb wrth gerdded o amgylch yr adeilad, er mwyn cadw staff a'r gymuned yn ddiogel.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Cafodd Lido Ponty ei ddifrodi gan Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, a'n haddewid wedi hynny oedd y byddai'n well nag erioed.

“Wrth gwrs, wyddon ni ddim bryd hynny fod pandemig byd-eang ar y gorwel, a fyddai'n gorfodi Lido Ponty i gau yn ystod 2020 i gyd. Serch hynny, trwy gydol y cyfnod cau a'r cyfnodau clo, gweithiodd staff yn ddiflino i atgyweirio ac adfer Lido Ponty i'w hen ogoniant.

“Mae'n anhygoel bod 85,000 o bobl wedi mwynhau Lido Ponty eleni, er gwaethaf y cyfyngiadau oherwydd Covid-19.

“Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb ymrwymiad carfan Lido Ponty a chefnogaeth a brwdfrydedd ei gwsmeriaid. Mae llwyddo er gwaethaf y llifogydd a'r pandemig yn gamp fawr.

“Diolch enfawr i bawb am eu cefnogaeth a’u hamynedd a mwynhewch dymor estynedig 2021!”

Mae tocynnau ar gyfer Lido Ponty yn cael eu rhyddhau 7 diwrnod ymlaen llaw o 7.30am. Oherwydd y cyfyngiadau yn sgil Covid-19, cewch dim ond prynu tocynnau ar-lein www.lidoponty.co.uk

Wedi ei bostio ar 24/09/2021