Skip to main content

Ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o Strategaeth Cyllideb 2022/23 bellach ar y gweill

Phase Two of the Budget consultation is now underway WELSH

Mae’r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb ar gyfer 2022/23 ar ôl ystyried y cynigion manwl ddydd Iau. Bellach, mae modd i drigolion ddweud eu dweud drwy gymryd rhan mewn ymgynghoriad a fydd yn cael ei gynnal tan 11 Chwefror.

Yn ei gyfarfod ddydd Iau 27 Ionawr aeth y Cabinet ati i ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynigion ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf, yn dilyn Setliad Llywodraeth Leol ffafriol gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y cynigion eu cymeradwyo. Wedi'i gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021, mae'r setliad arfaethedig yn nodi y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd mewn cyllid gwerth 8.4% ar gyfer 2022/23.

Mae hyn yn uwch na’r ystod a gafodd ei modelu a'i hadrodd gan y Cyngor yn gynnar yn yr hydref, ac mae'n cydnabod llawer o bwysau costau ychwanegol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Mae'r fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb yn cynnwys £11.2 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion, y cynnydd isaf erioed yn Nhreth y Cyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, a chynnydd yng nghyflog ein staff a darparwyr gofal cymdeithasol wedi'i gomisiynu i lefel uwch na'r Cyflog Byw Gwirioneddol.

Yn ogystal â bwrw ymlaen â'r cynigion, cytunodd y Cabinet ar argymhelliad o ran amserlen i bennu'r gyllideb ar gyfer 2022/23. Mae hyn yn cynnwys ail gam ymgynghori o ddydd Gwener 28 Ionawr 28 tan ddydd Gwener 11 Chwefror 11. Mae manylion yr ymgynghoriad ar wefan.

Mae modd i drigolion gymryd rhan drwy arolwg, arolygon cyflym ac adran 'syniadau' ar y wefan. Mae modd hefyd ddod o hyd i wybodaeth allweddol am y fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb, fersiynau Hawdd eu Darllen o'r deunyddiau ymgynghori a fideo. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn targedu grwpiau allweddol gan gynnwys pobl iau a phobl hŷn.

Mae'r fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb yn cynnwys nifer o nodweddion allweddol, fel:

  • Diogelu gwasanaethau'r Cyngor – does dim toriadau i wasanaethau wedi bod ers 2017, a bydd hyn yn parhau
  • Cynnydd o 1% yn Nhreth y Cyngor – y sefyllfa orau ers blynyddoedd lawer. Mae hyn yn is na’r cynnydd o 2.65% a oedd wedi'i nodi yn yr ymgynghoriad gwreiddiol. Unwaith eto, dyma gynnydd fydd ymhlith yr isaf ledled Cymru
  • Isafswm cyflog sy’n uwch na’r Cyflog Byw Gwirioneddol –cynyddu i £10 yr awr o 1 Ebrill 2022. Mae hyn yn berthnasol i staff y Cyngor a staff ym meysydd gofal cymdeithasol wedi'i gomisiynu
  • £11.2 miliwn ychwanegol i ysgolion – sy'n cyfateb i gynnydd o 6.8% gan sicrhau bod ein hysgolion yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer y flwyddyn nesaf
  • £15 miliwn ychwanegol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol (gan gynnwys gwasanaethau cymunedol) –mae hyn yn cynnwys adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â galw cynyddol, a hynny drwy ddatblygu'r gweithlu ymhellach, cynorthwyo â'r gwaith parhaus o ailfodelu ac integreiddio gwasanaethau, a helpu i atal plant rhag mynd i mewn i'r system derbyn gofal
  • Arbedion effeithlonrwydd pellach gwerth £4.9 miliwn – gan barhau i wneud arbedion yn y gyllideb sydd ddim yn cael effaith niweidiol ar ddarpariaeth gwasanaethau rheng flaen
  • £100,000 ychwanegol ar gyfer y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig – cynyddu’r gyllideb ar gyfer y cynllun i £300,000 gan ddarparu cymorth y mae wir ei angen ar fusnesau lleol
  • £500,000 ychwanegol i fynd i'r afael â materion Newid yn yr Hinsawdd – bydd hyn yn helpu gyda gwaith pellach mewn meysydd allweddol fel gwefru cerbydau trydan, prosiectau creu ynni, a chynlluniau bioamrywiaeth a Theithio Llesol, ochr yn ochr ag adnoddau cyfredol
  • £200,000 ychwanegol ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd – mae’r gwasanaethau yma'n chwarae rôl allweddol wrth ddiogelu lles trigolion, cymunedau a busnesau
  • Dim newid i ffioedd – ar gyfer y Gwasanaeth Hamdden am Oes, Pryd ar Glud/prydau'r Canolfannau Oriau Ddydd, prydau ysgol, costau meysydd parcio, ffioedd meysydd chwarae, costau llogi meysydd chwarae 3G, Trwyddedau Tacsi a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda/Lido Ponty
  • Sicrhau bod y cynnydd o ran costau a ffioedd yn is na'r gyfradd chwyddiant – 2.5% fydd y cynnydd cyffredinol o ran costau a ffioedd. Mae hyn yn is na’r gyfradd chwyddiant gyfredol sef 5.4%. Bydd y costau ychwanegol yn cael eu talu gan y Cyngor
  • Cyllid gwerth £1 miliwn ar gyfer materion buddsoddi – er mwyn bwrw ymlaen â rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol y Cyngor a chyflawni ei flaenoriaethau allweddol
  • £75,000 ychwanegol ar gyfer Cymorth Ieuenctid Datgysylltiedig

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch bod Aelodau’r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â'r fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb ar gyfer 2022/23, a bod modd i aelodau’r cyhoedd bellach ddweud eu dweud yn ffurfiol ar yr hyn sy’n cael ei gynnig yng ngham dau o’r broses ymgynghori ar y gyllideb.

“Mae'r setliad arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn dda i ni, gyda chynnydd o 8.4% yn y gyllideb ar gyfer Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn adlewyrchu'r pwysau ariannu y mae Llywodraeth Leol yn parhau i'w hwynebu, ac mae hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae Awdurdodau Lleol yn parhau i'w chwarae wrth gadw trigolion yn ddiogel yn ystod y pandemig. Mae angen i ni fuddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol sy’n helpu ein cymunedau, a bydd hyn yn gadael i ni drafod gwneud hynny.

“Mae nodweddion allweddol y fersiwn ddrafft o Strategaeth y Gyllideb yr oedd y Cabinet wedi cytuno arni ddydd Iau yn cynnwys codi’r isafswm cyflog i lefel sy’n uwch na’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hyn yn berthnasol i staff y Cyngor ac i staff gofal cymdeithasol sydd wedi'u cyflogi gan  ddarparwyr gwasanaethau rydyn ni'n eu comisiynu. Hefyd, byddai cynnydd arfaethedig o 1% yn Nhreth y Cyngor yr isaf ers creu Rhondda Cynon Taf, ac mae'n debygol o fod yn un o’r isaf yng Nghymru unwaith eto’r flwyddyn nesaf. Roedd y setliad wedi golygu bod modd i ni ailfodelu lefel y cynnydd o 2.65%, sef yr hyn a oedd wedi'i nodi'n wreiddiol yn yr ymgynghoriad.

“Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer blaenoriaethau allweddol – £11.2 miliwn i'n hysgolion, £15 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol (gan gynnwys gwasanaethau cymunedol), £500,000 i fynd i’r afael â Newid yn yr Hinsawdd, £100,000 ar gyfer y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig, £200,000 ar gyfer Iechyd y Cyhoedd, £1 miliwn ar gyfer Buddsoddiad a £75,000 ar gyfer Cymorth Ieuenctid. Mae hyn wedi'i gyflawni hefyd wrth amsugno rhai o gostau’r cynnydd cyffredinol mewn costau a ffioedd, yn ogystal â nodi £4.9 miliwn pellach o arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn golygu mai cyfanswm yr arbedion effeithlonrwydd yw tua £100 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf.

“Cytunodd y Cabinet hefyd y bydd cam dau o’r broses ymgynghori ar y gyllideb eleni yn dechrau ar 28 Ionawr tan 11 Chwefror. Mae’r broses yma unwaith eto’n cael ei chynnal ar ein gwefan ymgysylltu Dewch i Siarad, ac erbyn hyn mae modd i drigolion ddweud eu dweud yn ffurfiol ar y cynigion. Dyma annog trigolion sydd â diddordeb i gymryd rhan. Byddwn ni'n ystyried yr holl ymatebion yn rhan o’r penderfyniad terfynol gan y Cabinet a’r Cyngor llawn er mwyn pennu'r gyllideb ar gyfer 2022/23 yn gynnar ym mis Mawrth eleni.”

Wedi ei bostio ar 28/01/2022