Skip to main content

Ymddiriedolaeth Edward Thomas yn Parhau â Thraddodiad 400-mlwydd oed

Mae un o'r traddodiadau elusennol hynaf yng Nghymru, sydd wedi digwydd yn flynyddol yn Rhondda Cynon Taf ers dros 400 o flynyddoedd, wedi'i gynnal ar-lein eleni.

Mae Ymddiriedolaeth Edward Thomas, a gafodd ei sefydlu yn 1678, yn cyflwyno'i gwobrau arbennig bob blwyddyn yn Eglwys Sant Gwynno, Plwyf Llanwynno, sef man gorffwys y rhedwr Cymreig chwedlonol Griffith Morgan (Guto Nyth Brân). Ond oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith, cynhaliwyd y seremoni ddiweddaraf trwy Zoom.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, sydd hefyd yn Un o Ymddiriedolwyr Elusen Edward Thomas:

“Rwy' wrth fy modd bod achlysur diweddaraf Elusen Edward Thomas wedi mynd yn ei flaen, er bod hynny ar-lein oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith. Mae cymaint o unigolion yn gwneud gwaith gwych yn ein cymunedau, yn enwedig yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi bod ymhlith y mwyaf heriol i gynifer o bobl.

“Llongyfarchiadau i holl dderbynwyr diweddaraf Gwobrau Ymddiriedolaeth Edward Thomas, am gynnal traddodiad oesol yn Rhondda Cynon Taf.”

Dechreuodd y traddodiad 432 o flynyddoedd yn ôl, cyn geni Griffith Morgan yn 1700, ar farwolaeth y tirfeddiannwr lleol, Edward Thomas o Lanwynno. Rhoddodd ei annwyl Fferm Tir-y-Dduallt i'w nai a'i etifeddion yn ei ewyllys, ar yr amod eu bod nhw a'u hetifeddion yn rhoi swm o £5 bob blwyddyn, i'w rannu ymhlith 10 aelod dewisedig o'r plwyf.

Mae'r gwobrau'n rhoi cydnabyddiaeth i unigolion am eu hymroddiad a'u hymrwymiad i eraill, sy'n cynnwys gweithwyr cymunedol a gwirfoddolwyr yn y plwyf. Yn 1927, mabwysiadodd yr awdurdod lleol swyddogaethau'r "goruchwylwyr" ar gyfer y traddodiad elusennol hanesyddol yma, yr hynaf o'i math yng Nghymru yn ôl y sôn. Heddiw, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am gynnal y traddodiad oesol.

Yn y blynyddoedd sydd wedi mynd heibio, gwnaeth yr awdurdod lleol gais i'r Comisiwn Elusennau er mwyn ceisio newid fformat gwreiddiol y gymynrodd, a phenderfynodd gadw'r traddodiad mewn ffordd wahanol. Mae'r aelodau o'r plwyf sy'n cael eu dewis bob blwyddyn bellach yn derbyn darn 50c wedi'i fathu'n arbennig gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant i gydnabod eu gwaith caled a'u hymdrech i wella'u cymunedau.

Cadeiriwyd y seremoni ar-lein ddiweddaraf gan y Cynghorydd Jill Bonetto, Maer Rhondda Cynon Taf. Aelodau’r pwyllgor a oedd yn bresennol oedd y Cynghorwyr Adam Fox, Elaine George, Rhys Lewis a Sue Pickering, a’r Tad Michael Gable.

Derbynwyr diweddaraf Gwobrau Ymddiriedolaeth Edward Thomas yw:

Marcia Rees-Jones - am wasanaethu ei chymuned, sy'n cynnwys darparu gliniaduron i ysgolion lleol yn ystod y cyfyngiadau symuder mwyn sicrhau nad oedd plant difreintiedig dan anfantais oherwydd diffyg mynediad at offer TG. Mae Marcia hefyd wedi ariannu diffibriliwr yn ardal Tyntetown i sicrhau bod y ddyfais achub bywyd ar gael yn hawdd mewn lleoliad canolog pe bai ei hangen. 

Glyn Bennett - am waith gwirfoddol yn ei gymuned, sy'n cynnwys gwasanaethu fel trysorydd Canolfan Gymuned Abercynon am ddegawd a chynorthwyo gyda rhedeg y ganolfan, gan sicrhau ei phoblogrwydd a'i llwyddiant.

David Healy - am wasanaethau i elusennau a'r gymuned, sy'n cynnwys bod yn arweinydd RCT Heart Heroes, sy'n darparu diffibrilwyr hanfodol i gymunedau RhCT. Mae David wedi ysbrydoli llawer o gymunedau i ymgymryd â'r her o osod yr achubwyr bywyd yma yn eu cymunedau. Mae hefyd yn cynnal a chadw'r dyfeisiau yma i sicrhau eu bod yn gweithio pan fo'u hangen ac yn darparu hyfforddiant fel bod modd i bobl eu defnyddio'n gywir.

Brian Arnold - am wasanaethu ei gymuned, sy'n cynnwys ei waith gwirfoddol gyda sefydliadau ac achlysuron, cymryd diddordeb mawr ym mhopeth sy'n digwydd yn Ynysybwl a gwasanaethu fel cynghorydd ers blynyddoedd lawer.

Oliver Wilson - i gydnabod ei waith elusennol, sy'n cynnwys cymryd rhan mewn teithiau cerdded noddedig o Benrhiwceibr i Lanwynno, gan godi miloedd o bunnoedd at achosion da. Mae Oliver, sydd wedi'i eni gyda Pharlys yr Ymennydd, yn cystadlu gyda'i dîm pêl-droed lleol, gan sgorio goliau a chael hwyl.

Margaret Main - am wasanaethau i gerddoriaeth, elusennau a'r gymuned. Astudiodd Margaret yng Ngholeg Brenhinol Llundain fel pianydd cyngerdd yn y 1950au, ac aeth ymlaen i fod yn chwaraewr organ a phiano medrus iawn, gan gael ei galw droeon i gyfeilio i unawdwyr yn yr ardal a chwarae mewn priodasau.  Bu Margaret hefyd yn darparu gwersi piano i blant lleol a bu’n gyfeilydd gyda Chymdeithas Operatig Amatur Pontypridd, yn aelod o Sefydliad y Merched Pontypridd, ac mae’n parhau’n weithgar yn ei chymuned yn 81 oed.

Elizabeth Maier Leach -am wasanaethu ei chymuned, sy'n cynnwys codi sbwriel. Dechreuodd wneud hyn wrth gerdded gyda'i phlant. Mae Elizabeth yn cymryd balchder yn ei hamgylchoedd ac yn effro i berygl sbwriel i fywyd gwyllt. Ei nod yw gosod esiampl dda ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mandy Haydon-Hall - i gydnabod ei gwaith yn y gymuned. Mae Mandy wedi gweithio gydag ardal Gweinidogaeth Pontypridd ers rhai blynyddoedd bellach, gan ddechrau yn gwirfoddoli yng Nghaffi Connect yn Eglwys y Santes Catrin cyn dod yn weinyddwr i Fanc Bwyd Pontypridd a chymryd yr awenau fel rheolwr ym mis Mai 2018. Ar ddechrau 2020, ymatebodd y fam i saith i Storm Dennis ac arwain carfan a ddarparodd fwyd a diodydd poeth i'r rhai a gafodd eu heffeithio gan lifogydd. Dilynwyd hyn gan ei gwaith yn ymateb i argyfwng COVID-19

Gareth French - i gydnabod ei waith gwirfoddol yng Nghaffi Connect yn Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd. Mae Gareth hefyd yn pobi, yn cynnal a chadw tiroedd yr eglwys a rhannau o'r ardal gyfagos.

Amanda Jane Ellis - am wasanaeth i'w chymuned. Mae Amanda wedi bod yn Gynghorydd Cymuned ers dros 20 mlynedd ac wedi bod yn ymwneud â llawer o brosiectau, fel helpu Pwyllgor Pwll y Butchers i ddod yn elusen gofrestredig. Mae hi hefyd yn wirfoddolwr yn y Ganolfan Oriau Dydd leol ac wedi helpu trigolion lleol a gafodd eu taro gan lifogydd yn ystod Storm Dennis ac yn ystod y pandemig COVID-19. Mae hi bellach yn rhan o fenter cyfnewid gwisg ysgol.

Wedi ei bostio ar 25/01/22